3.Esdras 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Gwlêdd Ddarius. 16 y tair dammeg doethion.

1A Phan oedd Darius yn teyrnasu, efe a wnaeth wledd fawr iw holl ddeiliaid, ac iw holl deulu, ac i holl lywodraeth-wŷr Media, a Phersia,

2Ac i’r holl bennaethiaid, blaenoriaid hefyd, a swydd-wŷr y rhai oeddynt tano ef o India hyd Ethiopia, drwy gant, a saith ar hugain o dalaithau.

3Ac wedi iddynt fwyta, ac yfed, ai digoni, hwynt a aethant ymmaith: a’r brenin Darius a aeth iw stafell, ac a gyscodd ac a ddeffrôdd.

4Yna y try-wŷr ieuaingc y rhai oeddynt yn cadw y brenin a ddywedasant y naill wrth y llall,

5Dyweded pob vn o honom ni ddammeg odîdog, a’r nêb a orchfygo, ac y gweler ei ddadl yn ddoethach na’r lleill, Darius y brenin a ddyru iddo ef fawr roddion, yn arwydd o fuddugoliaeth.

6Sef gwisco porphor, ac yfed mewn llestri euraid, a chyscu mewn dillad goreuraid, a cher­byd a ffrwynau o aur, a gwisc penn o sidan, a chadwyn am ei wddf.

7Ac efe a gaiff eistedd yn nessaf at Darius o herwydd ei ddoethineb, ac efe a elwir yn gâr i Ddarius.

8Yna pob vn a scrifennodd ei ddammeg, ac ai seliodd, ac ai rhoddasant tann obennydd y brenin Darius,

9Ac a ddywedasant, pan ddeffrŷ yr brenin y rhoddir iddo yr scrifen, a phwy bynnac y barno y brenin, a thrî thywysog Persia fod ei ddammeg yn ddoethaf, efe a gaiff y fuddugoliaeth fel yr scrifennwyd.

10Vn a scrifennodd, trechaf yw gwîn.

11Y llall a scrifennodd, trechaf y brenin.

12Y trydydd a scrifennodd, trechaf yw gwragedd, ond gwirionedd a orchfyga bob peth

13A phan ddeffrôdd y brenin, hwynt a gymmerasant eu scrifennadau, ac ai rhoddasant iddo, ac efe ai darllenodd hwynt,

14Ac efe a yrrodd i alw am holl bendefigion Persia, a Media, a’r pennaethiaid, blaenoriaid, llywodraeth-wŷr, a swydd-wŷr,

15Ac efe a eisteddodd yn y frawd-lê, a’r scri­fēniadau a ddarllenwyd ger eu bronnau hwynt

16Yna efe a ddywedodd, gelwch y gwŷr ieuaingc fel y mynêgant eu dāmegion eu hunain, felly hwynt ai galwasant hwy, a hwythau a ddaethant i mewn.

17Ac efe a ddywedodd wrthynt, hyspyswch i ni yr scrifenniadau: yna y cyntaf a ddechreuodd, yr hwn a ddywedase am ragoriaeth y gwîn,

18Ac a ddywedodd fel hyn, ô chwy chwi wŷr mor nerthol yw gwîn, yr hwn sydd yn twyllo pob dŷn a’r ai hyfo.

19Y mae efe yn gwneuthur yr vn meddwl gan y brenin a chan yr ymddifad, yr vn meddwl gan y caeth a’r rhydd, gan y tlawd a’r cyfoethog.

20Y mae efe yn troi pob meddwl i ddigrifwch llawenydd, fel na chofia efe na thristwch na dylêd.

21Y mae efe yn gwneuthur pob calon yn hael, ac ni feddwl am frenin na phennaeth, ac efe a bar adrodd y cwbl drwy dalentau.

22Pan fyddont wedi yfed nid argofiant garu na cheraint na brodyr, ac wedi hynny ar fyrder y tynnant gleddyfau.

23Ar wedi iddynt ddadebru o’r gwîn, ni ddaw yn eu côf beth a wnaethant.

24Oh hawŷr onid trechaf yw gwîn, yr hwn sydd yn peri y cyfryw bethau? ac wedi iddo ef ddywedyd felly, efe a ddistawodd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help