1A phobl y wlâd a gymmerasant Ioachaz fab Iosia: 2.Bren.23.30.ac ai hurddasant ef yn frenin yn lle ei dâd yn Ierusalem.
2Mab tair blwydd ar hugain Ioachaz pan ddechreuodd efe deyrnasu: a thri mîs y teyrnasodd efe yn Ierusalem.
3A brenin yr Aipht ai dûg ef ymmaith o Ierusalem: ac a drethodd ar y wlâd gant talent o arian, a thalent o aur.
4A brenin yr Aipht a wnaeth Eliacim ei frawd ef yn frenin ar Iuda ac Ierusalem, 2.Bren.23.34.ac a drôdd ei henw ef yn Ioachim: a Necho a gymmerodd Ioachaz ei frawd ef, ac ai dûg ef i’r Aipht.
5Mab pum mlwydd ar hugain Ioachim pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac vn mlynedd ar ddêc y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd ei Dduw.
6Nabuchodonosor brenin Babilon a ddaeth i fynu yn ei erbyn ef: 2.Bren.24.1.ac ai rhwymodd ef mewn cadwynau prês iw ddwyn i Babilon.
7Nabuchodonosor hefyd a ddug o lestri tŷ’r Arglwydd i Babilon: ac ai rhoddodd hwynt yn ei deml ef o fewn Babilon.
8A’r rhann arall o hanes Ioachim, ai ffieidd-dra ef y rhai a wnaeth efe, a’r hyn a gafwyd arno ef, wele hwynt yn scrifennedic yn llyfr brenhinoedd Israel, ac Iuba: ac Ioachin ei fab ef a deyrnasodd yn ei le ef.
9Mab wyth mlwydd Ioachin pan ddechreuodd * efe deyrnasu, a thri mis, a deng-nhiwrnod y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd.
10Ac yng-hyfnod y flwyddyn yr anfonodd y brenin Nabuchodonosor, ac ai dûg ef i Babilon gyd a llestri cûaidd tŷ’r Arglwydd: ac 2.Bren.24.17.efe a vrddodd Sedecia ei frawd ei dâd yn frenin ar Iuda, ac Ierusalem.
11Mab vn mlwydd ar hugain Sedecia pan ddechreuodd efe deyrnasu: ac vn mlynedd ar ddêc y teyrnasodd efe yn Ierusalem.
12Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd ei Dduw: 2 Bren 24.19.|2KI 24:19. Iere.51.1.ac nid ymostyngodd efe o flaen Ieremi y prophwyd o enau’r Arglwydd.
13Ond efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Nabuchodonosor (yr hwn a wnaethe iddodyngu i Dduw) ac efe a galedodd ei warr, ac a gryfhaodd ei galon rhac dychwelyd ac Arglwydd Dduw Israel.
14Holl dywysogion yr offeiriaid hefyd a’r bobl a chwanegasant gamfucheddu yn ôl holl ffieidd-dra y cenhedloedd: a hwy a halogasant dŷ’r Arglwydd yr hwn a sanctaiddiase efe yn Ierusalem.
15Am hynny Arglwydd Dduw eu tadau hwy a anfonodd attynt hwy drwy law ei gennadau Esa.65.2. Iere.11.7.|JER 11:7. Diah.1.23.gan forau godi, a chan anfon: am ei fod efe yn tosturio wrth ei bobl, ac wrth ei bresswylfod.
16Ond hwyntau oeddynt yn gwatwar cennadau Duw, ac yn dremygu ei eiriau ef, ac yn dynwared ei brophwydi ef: nes cyfodi o ddigofaint yr Arglwydd yn erbyn ei bobl fel nad oedd iechyd.
17Canys efe a ddygodd i fynu arnynt hwy frenin y Caldeaid, yr hwn a laddodd eu gwŷr ieuaingc hwy, a’r cleddyf yn nhŷ eu cyssegr, ac nid arbedodd efe na gŵr leuaugc na morwyn, hên, nac oedrannus: rhoddwyd hwynt oll yn ei law ef.
18Holl lestri tŷ Dduw hefyd, mawrion a bychain, a thryssorau tŷ’r Arglwydd, a thryssorau y brenin ai dywysogion: y rhai hynny oll a ddûg efe i Babilon.
19A hwynt a loscasant dŷ Dduw, ac a ddestruwiasant fûr Ierusalem: ai holl balâsau hi a loscasant hwy a thân, ai holl lestri cuaf gan dinistrio
20A’r hyn a weddillwyd gan y cleddyf a gaeth-gludodd efe i Babilon: lle y buant hwy yn weision iddo ef, ac iw feibion nes teyrnasu o’r Persiaid.
21I gyflawni gair yr Arglwydd drwy enau Ieremi, nes i’r wlâd ei digoni oi Sabbothau: yr holl ddyddiau yn anghyfannedd y gorphywysodd hi i gyflawni deng-mhlynedd a thrugain.
22Ac Ier.25.11. & 29.10. 3.Esd.2.1.yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, (fel y cyflawnid gair yr Arglwydd drwy enau Ieremi) yr Arglwydd a gyffrôdd yspryd Cyrus brenin Persia fel y cyhoeddodd efe drwy ei holl frenhiniaeth, a hynny mewn scrifen gan ddywedyd,
23Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, Arglwydd Dduw’r nefoedd a roddodd holl deyrnasoedd y ddaiar i mi, ac efe a orchymynnodd i mi adailadu tŷ iddo ef yn Ierusalem yr hon yn Iuda: pwy yn eich mysc chwi oi holl bobl ef yr Arglwydd ei Dduw gyd ag ef, ac eled i fynu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.