Ecclesiasticus 14 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIIII.Am dafod, cydwybod, cenfigen ac oferedd dyn. 21. Clôd doethineb.

1Gwyn ei fyd y gŵr Pen.19.6.|SIR 19:6. lago.3.2.ni lithrodd ai enau, ac ni phigwyd â llawer o bechodau.

2Gwyn ei fyd yr hwn ni chondemno ei enaid ei hun ef, a’r hwn ni syrthio oddi wrth ei obaith yr hon fydd yn yr Arglwydd.

3Nid da yw cyfoeth i ŵr cybydd, a pha beth a wnae gŵr cenfigennus â golud.

4Yr hwn sydd yn casclu oddi wrtho ei hun, sydd yn casclu i arall: ac eraill a lothinebant ei dda ef.

5Yr hwn sydd ddrwg iddo ei hun, i bwy y mae efe yn dda: ac ni chaiff efe lawenydd oi olud.

6Nid oes neb waeth na’r hwn sydd yn cenfigenu witho ei hun, ac dymma wobr ei ddrygioni ef.

7Os gwna efe ddaioni nid oi fodd y gwna efe, ac o’r diwedd efe a wna ei ddrygioni yn amlwg.

8Drwg yw golwg y cenfigennus: efe a drŷ ei wyneb ac a ddirmyga ddynion.

9Ni lenwir dim o lygad y cybydd, ac ang­hyfiawnder y drygionus a wywa ei enaid ef.

10 Dihar.27.20. Llygad drwg fydd cenfigennus am fara, ac ag eisieu arno ar ei fwrdd.

11[Fy] mab pa fodd bynnac y byddo i ti bydd dda wrthit ty hun, ac offrwm offrymmau i’r Arglwydd yn addas.

12Cofia nad oeda angeu, ac ni ddangoswyd i ti gyfammod vffern.

13Cyn dy farw Pen.4.1.|SIR 4:1. tob.4.7.|TOB 4:7. luc.14.13.bydd dda wrth gyfaill, ac yn ôl dy allu estyn, a dod iddo ef.

14Na thwylla dydi dy hun am y dydd da, ac nac aed rhan dymuniad da heibio i ti.

15Onid i arall y gadewi di dy lafur, a’r hyn y cymmeraist boen am dano iw rannu wrth goel-bren:

16Dod a derbyn a sancteiddia dy enaid,

17O herwydd nid rhaid ceisio bwyd yn vffern.

18 Esa. 40.6.|ISA 40:6. 1.pet.1.24|1PE 1:24. iago.1.10. Pob cnawd a heneiddia fel dilledyn, y cyfammod tragywyddol y byddi di farw yn ddiau fel deilen yn torri mewn pren brigog.

19Efe a furw rai, ac a dardd allan rai eraill: felly y mae cenhedlaeth cîg a gwaed, y naill sydd yn marw, a’r llall a enir.

20Pôb gwaith pwdr a dderfydd, a’r hwn sydd yn ei weithio ef a aiff gyd ag ef.

21 Psal.1.2. Gwyn ei fyd y gŵr mewn doethineb a fefyrio bethau da, a’r hwn yn synhwyrol a ymrysymma am bethau sanctaidd.

22Yr hwn a feddwl am ei ffordd hi yn ei galon, a fydd dehallgar yn ei dirgeledigaethau hi: dos ar ei hôl hi fel ôlrhen-wr, a chynllwyn yn ei ffyrdd hi.

23Yr hwn a edrycho trwy ei ffenestri hi, a thrwy ei dorau hi a gaiff glywed.

24Yr hwn a letteuo yn agos iw thŷ hi, ac a yrro ei hoel iw pharwydydd hi a esyd ei babell ger llaw iddi hi,

25Ac a lletteua yn llettŷ y rhai daionus, ac a esyd ei feibion tann ei chyscod hi, ac a erys tann ei brig hi.

26Hi ai cyscoda ef rhag y gwrês, ac efe a let­teua yn ei gogoniant hi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help