Genesis 40 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XL.3 Pharao yn carcharu ei ben-trulliad ai ben-pobydd. 8 O Dduw y daw deongliad breuddwydion. 19 Ioseph yn deonglio breuddwyd y ddau garcharor. 23 Aniolchgarwch y pen-trulliad tu ag at Ioseph.

1A Darfu wedi y petheu hynny i drulliad brenin yr Aipht, a’r pobydd bechu yn erbyn eu harglwydd hwynt, brenin yr Aipht.

2A Pharao a lidiodd wrth ei ddau bennaeth wrth y pen-trulliad, a’r pen-pobydd.

3Ac ai rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ y distain yn y carchar-dŷ, lle ’r oedd Ioseph yn rhwym.

4A’r distain a wnaeth Ioseph yn o lyglwr arnynt hwy: yna efe ai gwasanaethodd hwynt, a buant hwy mewn dalfa ddyddiau

5Yna breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob vn ei freuddwyd ei hun yn yr vn nôs phob vn ar ol deongliad ei freuddwyd ei hun, y trulliad a’r pobydd, y rhai eiddo brenin yr Aipht, ac yn rhwym yn y carchardŷ.

6A’r borau y daeth Ioseph attynt, ac a edrychodd arnynt, ac wele hwynt yn athrist.

7Ac efe a ymofynnodd a phennaethiaid Pharao, ’rhai gyd ag ef mewn dalfa nhŷ ei feistr ef gan-ddywedyd: pa ham eich wynebau yn ddrwg heddyw?

8Yna y dywedasant wrtho, breuddwydiasom freuddwyd, ac nid ai deonglo ef: yna Ioseph a ddywedodd wrthynt, onid i Dduw dehōgli? mynegwch adolwyn i mi.

9Yna y pen-trulliad a fynegodd ei freuddwyd ef i Ioseph, ac a ddywedodd wrtho: yn fy mreuddwydd ac wele winwŷdden o’m blaen.

10Ac yn y win-wŷdden tair caingc, ac hi megis yn blaendarddu: ei blodeun a dorrasse allan, ei gwrysc hi oeddynt addfed grawn-win.

11Hefyd cwppan Pharao yn fy llaw, a chymmerais y grawn-wîn, a gwescais hwynt i gwppan Pharao, a rhoddais y cwppan yn llaw Pharao.

12Yna Ioseph a ddywedodd wrtho ef, dymma ei ddeongliad ef: tri diwrnod yw y tair caingc.

13O fewn tri diwrnod etto Pharao a dderchafa dy ben di, ac a’th rŷdd di eilwaith yn dy swydd, a rhoddi gwppan Pharao yn ei law ef fel y buost arferol yn y cyntaf pan oeddyt drulliad iddo.

14Etto cofia fi gyd a thi, pan fo daioni i ti, a gwna attolwg a mi drugaredd a choffâ fi wrth Pharao, a dwg fi allan o’r tŷ hwn.

15O blegit yn lledrad i’m lladrattawyd o wlâd yr Hebreaid, ac ymma hefyd ni wneuthum ddim, fel y gossodent fi yng-harchar.

16Pan welodd y pen-pobydd mai daioni a ddeonglase efe, yna y dywedodd wrth Ioseph, minne hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele dri chawell rhwyd-dylloc ar fy mhen.

17Ac yn y cawell vchaf peth o bôb bwyd Pharaoo o waith pobydd: ar ehediaid yn eu bwytta hwynt o’r cawell oddi ar fy mhen.

18Yna Ioseph a attebodd, ac a ddywedodd, dymma ei ddeongliad ef: tri diwrnod yw y tri chawell.

19O fewn tri diwrnod etto y cymmer Pharao dy benn di oddi arnat, ac a’th groga di ar brenn, a’r ehediaid a fwyttant dy gnawd ti oddi am danat.

20Ac ar y trydydd dydd, yr oedd dydd ganedigaeth Pharao, yna efe a wnaeth wledd, iw holl weision, ac efe a dderchafodd ben y pentrulliad, a phen y pen-pobydd ym mysc ei weision ef.

21Ac a ossododd y pen-trulliad eilwaith yn ei swydd, ac yntef a roddes y cwppan i law Pharao.

22A’r pen-pobydd a grogodd efe, fel y dehongliase Ioseph iddynt hwy.

23Ond y pen-trulliad ni chofiodd Ioseph eithr anghofiodd ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help