1.Esdras 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Rhai yn rhwystro gwaith y deml, eu llythyrau hwynt at Artaxerxes, ai atteb yntef.

1Yna gwrthwyneb-wŷr Iuda, a Beniamin a glywsant fod meibion y gaeth-glud yn adailadu teml i Arglwydd Dduw Israel.

2Ac a ddaethant at Zorobabel, ac at y pennau cenedl, ac a ddywedasant wrthynt, adailadwn gyd a chwi: canys fel chwithau i ceisiwn eich Duw chwi, ac iddo ef yr ydym ni yn aberthu er dyddiau Esarhadon brenin Assyria’r hwn a’n dûg ni i fynu ymma.

3Yna y dywedodd Zorobabel, ac Iesua, a’r rhan arall o bennau cenedl Israel wrthynt: nid i chwi ac i ninne adailadu tŷ ein Duw ni: eithr nyni a gyd adailadwn i Arglwydd Dduw Israel megis i’n gorchymynnodd y brenin Cyrus brenin Persia.

4A phobl y wlâd oedd yn anghysuro pobl Iuda, ac yn eu rhwystro hwynt i adailadu,

5Ac yn cyflogi cynghor-wŷr yn eu herbyn hwynt i ddiddymmu eu cyngor hwynt holl ddyddiau Cyrus brenin Persia: ac hyd deyrnasiad Darius brenin Persia.

6Ac yn nheyrnasiad Ahasferus, yn nechreuad ei deyrnasiad ef yr scrifennasant achwyn yn erbyn trigolion Iuda, ac Ierusalem.

7Ac yn nyddiau Artaxerzes yr scrifennodd Bislam, Mithridates, Tabeel, a’r rhan arall oi gyfeillion ef at Artaxerxes brenin Persia, ac scrifen y llythr a scrifennwyd yn Syrian-aec, ac a eglurwyd yn Syrian-aec.

8Rehum y cofiadur, a Simsai yr scrifennydd a scrifennasant vn llythr yn erbyn Ierusalem at Artaxerxes y brenin fel hyn.

9Yna Rehum y cofiadur, a Simsai yr scrifennydd, a’r rhan arall oi cyfeillion: y Dinaaid, yr Apharsatheaid, y Tharpeliaid, y Persiaid, yr Archeaid, y Babiloniaid, y Susanniaid, y Dehafeaid, yr Elamiaid,

10A’r rhan arall o’r bobl y rhai a ddugase Asnapper mawr ac enwoc, ac a osodase efe yn ninasoedd Samaria, a’r rhan arall tu hwnt i’r afon yn anfon annerch.

11Dymma ystyr y llythr yr hwn a anfonasant atto ef at Artaxerxes y brenin.DY WASANAETH-WYR o’r tu hwnt i’r afon, yn anfon annerch.

12Fel y byddo hyspys i’r brenin fod yr Iddewon y rhai a ddaethant i fynu oddi wrthit ti, wedi dyfod attom ni i Ierusalem yn adailadu y ddinas wrthryfelgar ddrygionus, a’r muroedd a sylfaenasant hwy, ac a gyweiriasant y sylfaenau.

13Yn awr bydded hysbys i’r brenin, os adailedir y ddinas honuo a gorphen ei chaer, na roddant doll, deyrnged, na thrêth, felly y drygi dryssor y brenhinoedd.

14Ac yn awr o herwydd ceisio o honom ddinistrio y deml, ac nad oedd weddaidd gweled gwarth y brenin, am hynny’r anfonasom, ac yr yspysasom i’r brenin.

15Fel y ceisier yn llyfr hystoriâu dy dadau, a thi a gei yn llyfr yr hystoriâu, ac a elli ŵybod fod y ddinas hon yn ddinas wrthryfelgar, niweidiol i frenhinoedd, a thalaithau: a bod yn gwneuthur brâdfwriad o fewn hon erioed, am hynny y dinistriwyd y ddinas hon.

16Yr ydym yn yspysu i’r brenin, os y ddinas hon a adailedir, ai murau a sylfaenir, o herwydd hynny na fydd eiddo ti y rhan o’r tu hwnt i’r afon.

17Anfonodd y brenin air at Rehum y cofiadur, a Simsai’r scrifennydd, a’r rhan arall oi cyfeillion hwynt y rhai a drigent yn Samaria: a’r rhan arall tu hwnt i’r afon tangneddyf, ac annerch.

18Y llythr yr hwn a anfonasoch attaf a ddarllenwyd yn eglur ger fy mron.

19Yna y gosodais orchymyn, a cheisiwyd a chafwyd fod y ddinas honno erioed yn ymdderchafu yn erbyn brenhinoedd, a gwneuthur ynddi anufydd-dod, a gwrthryfel,

20A brenhinoedd cryfion a fuant ar Ierusalem, yn llywodraethu ar bawb o’r tu hwnt i’r afon, ac iddynt hwy y rhoddid toll, teyrnged, a thrêth.

21Yn awr rhoddwch orchymyn i beri i’r gwŷr hynny beidio, ac nad adailader y ddinas honno hyd oni roddwyf orchymyn.

22A gwiliwch wneuthur yn ymryfus yn hyn, pa ham y tŷf llwgredigaeth yn niwed i’r brenin?

23Yna pan ddarllenwyd ystyr llythr Artaxerxes y brenin o flaen Rehum, a Simsai’r scrifennydd, ai cyfeillion, hwyntau a aethant ar frŷs i Ierusalem yn erbyn yr Iddewon, ac a wnaethant iddynt beidio drwy fraich, a chryfdwr.

24Yna y peidiodd gwaith tŷ Dduw’r hwn yn Ierusalem, ac y bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Darius brenin Persia.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help