1Dechreu Efengyl Iesu Grist, Fâb Duw.
2Fel yr scrifennir yn y Prophwydi,
13Ac efe a fu yno yn y diffaethwch ddaugain nhiwrnod yn ei demtio gan Satan: ac yr oedd efe gyd â’r gwyllt-filod, a’r angelion a weinasant iddo.
14Yn Math.4.12. Luc.4.14. Ioan.4.43.ôl traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilæa, gan bregethu Efengyl teyrnas Dduw: a dywedyd:
15Yr amser a gyflawnwyd, ac y mae teyrnas Dduw yn agos, edifarhewch, a chredwch yr Efengyl.
16Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Math.4.18. Luc.5.2.Galilæa, efe a ganfu Simon, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr, (canys pyscodwŷr oeddynt)
17A’r Iesu a ddywedodd wrthynt: canlynwch fi, a mi a’ch gwnaf yn byscodwŷr dynnion.
18Ac yn ebrwydd gan adel eu rhwydau y canlynasant ef.
19Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig oddi yno, efe a ganfu Iaco fâb Zebedeus, ac Ioan ei frawd, a hwy yn y llong yn cyweirio y rhwydau.
20Ac Math.4.22.yn y man efe a’u galwodd hwynt, ac hwy a adawsant eu tâd Zebedeus yn y llong, a’r cyflog-ddynion, ac a aethant ar ei ôl ef.
21 Math.4.13. Luc.4.31. Yna’r aethant i Capernaum, ac yn ebrwydd ar y dydd Sabboth wedi iddo fyned i mewn i’r Synagog, efe a dyscodd
22A rhyfeddu a wnaethant wrth ei athrawiaeth ef, canys yr oedd efe yn eu dyscu hwynt megis trwy Luc.4.32.awdurdod, ac nid fel yr Scrifennyddion.
23Ac yr oedd gŵr yn eu Synagog hwynt, ac ynddo yspryd aflan, yr hwn a lefodd gan ddywedyd:
24Och, beth sydd i ni â thi, Iesu o Nazareth? a ddaethost ti i’n difetha ni? mi a wn pwy ydwyt ti ô Sanct Duw.
25A’r Iesu a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, taw, a dôs allan o honaw.
26Yna wedi i’r yspryd aflan ei rwygo ef, a gweiddi â llef vchel, efe a ddaeth allan o honaw.
27Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymofynnasant yn eu mysc eu hun: beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon? pa wedd trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn yr ysprydion aflan, a hwythau yn vfyddhau iddo?
28Ac yn gyflym yr aeth y gair am dano ef tros yr holl wlâd o amgylch Galilæa.
29Yna wedi iddynt fyned allan o’r Synagog, yr aethant i dŷ Math.8.14. Luc.4.38.Simon ac Andreas, gyd ag Iaco, ac Ioan.
30Ac yr ydoedd chwegr Simon yn glaf o’r crŷd, ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho am dani hi.
31Yna y daeth efe atti hi, ac a’i cododd i fynu gan * ymafaelyd yn ei llaw, a’r crŷd a’i gadawodd hi yn y man, ac hi a wasanaethodd arnynt hwy.
32Ac wedi iddi hwyrhau, ac i’r haul fachludo, y dugasant atto bawb oll a’r oeddynt gleifion, a’r rhai cythreulig.
33A’r holl ddinas a ymgasclodd wrth y drŵs.
34Ac efe a iachâodd lawer o gleifion o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef.
35Ac yn foreuol ar y cynddydd wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd, ac yno y gweddiodd.
36A Simon a’r rhai oeddynt gŷd ag ef a’i dilynasant ef.
37Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, y mae pawb yn dy geisio.
38Yna y dywedodd efe wrthynt, awn i’r trefydd nesaf, fel y gallwyf bregethu yno: canys i hynny y daethym allan.
39Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu Synagogau hwynt trwy holl Galilæa, ac efe a fwriodd allan gythreuliaid.
40A Math.8.2. Luc 5.12daeth atto ef gwahan-glwyfus, gan ymbil ag ef, a nesau wrth ei liniau, a dywedyd wrtho: o’s mynni, ti a elli fyng-lanhau.
41A’r Iesu a dosturiodd, a chan estyn ei law a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, yr wyf yn mynnu, bydd yn lân.
42Ac wedi iddo ddywedyd hynny, yr ymadawodd y gwahan-glwyf ag ef yn ebrwydd, ac y glanhauwyd ef.
43Yna wedi iddo ei orchymyn ef yn gaeth, ef a’i danfonodd ef ymmaith yn y man,
44Ac efe a ddywedodd wrtho, gwêl na ddywedech ddim i nêb, eithr dôs ymmaith a dangos dy hun i’r offeiriad, ac offrymma dros dy lanhâd y pethau a orchymynnodd Leuit.14.4.Moses, er testiolaeth iddynt.
45Eithr efe wedi myned ymmaith a ddechreuodd fynegi llawer, a Luc.5.15.chyhoeddi’r chwedl, fel na alle’r Iesu fyned mwy yn amlwg i’r ddinas, eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd, ac o bôb parth y daethant atto ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.