1Y brodyr, er dala dŷn ar ryw fai, chwychwi y rhai sy ysprydol cymhwyswch y cyfryw ddŷn ag yspryd mwyneidd-dra, gan ystyried rhag dy demtio dy hunan hefyd.
2Dygwch feichiau ei gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Grist.
3O blegit os tybia neb ei fod yn rhyw beth, ac yntef heb fod yn ddim, y mae efe yn ei ddwyn ei hun i gam-feddwl.
4Eithr profed pob vn ei waith ei hun, ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun, ac nid mewn arall.
5 Gwelwch cyhyd y llythr a scrifennias attoch â’m llaw fy hun.
12Cynnifer a ewyllysiant ymdeghau yn y cnawd, sydd yn eich cymmell i’ch enwaedu, yn vnic fel nad erlidier hwy oblegit croes Crist.
13Canys nid ydynt hwy eu hunain y rhai a enwaedir, yn cadw y ddeddf: ond hwy a ewyllysient eich enwaedu chwi, fel y gorfoleddent yn eich cnawd chwi.
14Na atto Duw i mi orfoleddu ond yng-hroes ein Harglwydd Iesu Grist, drwy yr hwn y croes-hoeliwyd y byd imi, a minne i’r byd.
15Canys ni thâl enwaediad ddim yng-Hrist Iesu, na dienwaediad, ond creadur newydd
16A phwy bynnac a rodiant ar ôl y rheol hon, tagneddyf arnynt a thrugaredd, ac at Israel Duw.
17O hyn allan na flined neb fi: canys dwyn yr wyf yn fyng-horph nodau’r Arglwydd Iesu.
18Y brodyr, grâs ein Harglwydd Iesu Grist gyd â’ch yspryd. Amen.
Y llythr hwn a scrifennwyd at y Galatiaid o Rufain.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
