1Ac Iob a barablodd eil-waith, ac a ddywedodd,
2Y mae Duw yn fyw a symmudodd fy marn: a’r Holl-alluog a ofidiodd fy enaid.
3Etto tra fy enaid ynof: ac yspryd Duw yn fy ffroenau,
4Ni ddywed fyng-wefusau anwiredd: ac ni thraetha fy nhafod dwyll.
5Na ato Duw i mi eich cyfiawnhau chwi: oni threngwyf ni symmudaf fy mherffeithrwydd oddi wrthif.
6Yn fyng-hyfiawnder yr ymeflais, ac nis gollyngaf hi: ni wradwydda fyng-halon byth.
7Bydd fyng-elyn fel yr annuwiol: a’r hwn fydd yn codi yn fy erbyn fel yr anwir.
8Canys pa obaith i’r rhagrithiwr er elwa o honaw ef, pan dynno Duw ei enaid ef allan?
9A wrendu Duw ei lef ef, pan ddêlo cyfyngder arno ef?
10A ymlawenycha efe yn yr Arglwydd? a eilw efe Dduw bob amser?
11Myfi a’ch dyscaf chwi am allu Duw: ni chelaf yr hyn sydd gan yr Holl-alluog.
12Wele chwychwi chwychwi oll a welsoch: a pha ham yr ydych chwi felly yn ofêra oferedd?
13Dymma rān dŷn annuwiol gyd a Duw: ac etifeddiaeth y rhai traws a gafant hwy gan yr Holl-alluog.
14Os ei feibion ef a amlheuir i’r cleddyf: ai hiliogaeth ef ni ddigonir â bara.
15Ei weddillion ef a gleddir ym marwolaeth: ai wragedd gweddwon ni ŵylant.
16Os pentyrra efe arian fel pridd: ac os paratoa efe ddillad fel clai,
17Efe a baratôa, ond y cyfiawn a wisc: a’r arian, y cyfiawn cyfranna.
18Efe a adailadodd ei dŷ fel gwyfn, ac fel bŵth a wnai y gwili-ŵr.
19Y cyfoethog a hûna, ac nis cleddir, efe.
20Dychrynniadau ai goddiweddaut ef fel dyfroedd: corwynt ai cippia ef liw nôs.
21Y dwyrein-wynt ai cymmer ef i ffordd, ac efe a aiff ymmaith: ac ai teifl ef fel corwynt allan oi lê.
22Ie a deifl arno ef, ac nid arbed: gan ffoi efe a ffŷ rhag ei law ef.
23[Pob dyn] a gûr ei ddwylaw arno ef: ac a chwibana arno ef allan oi lê.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
