1A Thobit a scrifennodd weddi o orfoledd ac a ddywedodd, Bendigaid fyddo Duw yr hwnn sydd yn byw ac yn teyrnassu yn dragywyddol.
2Canys efe sydd yn ffrewyllu ac yn trugarhau, yn dwyn i vffern ac yn dwyn eilchwel, ac nid oes neb a all ddiangc oi law ef.
3Clodforwch ef meibion Israel, ger bron y cenhedloedd, canys efe a’n gwascarodd ni yn eu plith hwynt.
4Yno mynegwch ei fawredd, a derchefwch ef yng-ŵydd pawb sydd fyw: o herwydd efe ei hun yw ein Harglwydd ni, a Duw yw ein tad byth bythoedd.
5Ac efe a’n cerydda ni am ein camweddau, ac a drugarhâ eilchwel, ac a’n cascl yng-hyd o fysc yr holl genhedloedd ym mhlith y rhai i’n gwascarwyd.
6Os dychwelwch atto ef a’ch holl galon ac a’ch holl feddwl, a gwneuthur yr iniawn ger ei fron ef, yna y dychwel yntef attoch chwi ac ni chudd ei wyneb rhagoch, a chwi a gewch wele beth a wna efe i chwi: am hynny cyffesswch ef â’th holl enau, a moliennwch Arglwydd y gallu, a derchefwch Frenin y tragywyddoldeb. Myfi ai cyffesaf ef yn nhir fyng-haethiwed, ac a fynegaf ei nerth ai fawredd ef i genhedlaeth y pechaduriaid, troiwch bechaduriaid a gwnewch gyfiawnder ger ei fron ef, pwy a ŵyr na fynn efe chwi, a gwneuthur trugaredd i chwi:
7Clodforaf fy Nuw, a’ henaid a fawl Frenin y nefoedd, ac a lawenhâ yn ei fawredd ef.
8Llefared pob dyn, a moled yr Arglwydd am ei gyfiawnder.
9O Ierusalem y ddinas sanctaidd, efe a’th ffrewylla di am weithredoedd dy blant, ac efe a dosturia eilchwel wrth felbion y rhai cyfiawn.
10Molianna yr Arglwydd yn ddyladwy, a bendithia yr Brenin tragywyddol modd yr adeilader trachefn ei babell ef ynot, mewn llawenydd, a llawenhaed efe dy gaethion, a chared ynot y trueniaid yn oes oessoedd.
11Cenhedlaethau lawer a ddeuant o hirbell at enw yr Arglwydd â rhoddion yn eu dwylaw, gan offrwm rhoddion i Frenin y nefoedd: cenhedlaethau yr byd a’ch foliannant ti, ac a roddant roddion gorfoledd.
12Melldigedic yw pawb a’th gasaant, a bendigedic yw pawb a’th garant yn dragywydd.
13Bydd hyfryd a llawen am blant y rhai cyfiawn, canys hwynt a gesclir yng-hyd, ac a fendithiant Arglwydd y rhai cyfiawn.
14Gwyn eu byd y rhai a’th garant di, canys hwynt a lawenychāt yn dy dangnheddyf; gwyn eu byd y rhai a fuant athrist am dy holl ffrewyllau, canys hwynt hwy a fyddant hyfryd o’th blegit pan welant gwbl o’th ogoniant, ac a lawenychant yn dragywydd.
15Moled fy enaid Dduw yr Brenin mawr.
16O herwydd Ierusalem a adeiledir â Sapheir ac Smaragdus, ac â meini gwerth-fawr dy furiau, a’th dŷrau a’th gostyll ag aur coeth.
17A heolydd Ierusalem a balmentir â meini beryl, a charbuncul, ac â meini Ophir, ai heolydd hi oll a lefant Haleluiah, ac ai molant ef gan ddywedyd, Bendigaid fyddo Duw yr hwn ai derchafodd yn dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.