Genesis 45 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLV.1 Ioseph yn ymhyspyssu iw frodyr ac yn mynegu’r achos y trefnase Duw ef i’r Aipht. 18 Pharao’n gorchymyn i Ioseph anfon am ei dâd. 24 Ioseph yn erchi iw frodyr fod yn gytun. 27 Iacob yn ymlawenychu.

1Yna Ioseph ni allodd ymmattal ger bron y rhai oll oeddynt yn sefyll gyd ag ef: am hynny y llefodd, perwch allan bawb oddi wrthif, yna nid arhosodd neb gyd ag ef, pan ymgydnabu Ioseph ai frodyr.

2Ac efe a roddes ei lef mewn wylofain, fel y clybu’r Aiphtiaid, a clybu tŷ Pharao.

3Yna Ioseph a ddywedodd wrth ei frodyr, myfi Ioseph, ai byw fy nhâd etto? yna ei frodyr ni fedrent atteb ef, o blegit brawychasent ger ei fron ef.

4Ioseph hefyd a ddywedodd wrth ei frodyr, dyneswch attolwg attafi, hwythau a ddynesasant: yntef a ddywedodd, myfi Ioseph eich brawd chwi, yr hwn a werthasoch i’r Aipht.

5Weithian gan hynny na thristewch, ac na ddigiwch wrthych eich hunain, a’m werthu o honoch fyfi ymma, o blegit i achub enioes yr hebryngodd Duw fyfi o’ch blaen chwi.

6O blegit dymma ddwy flynedd o’r newyn o fewn y wlâd; ac etto bum mlhynedd, y rhai heb arddiad, na mediad.

7Am hynny yr Gene.50.20.hebryngodd Duw fi o’ch blaen chwi i osod i chwi hiliogaeth yn y wlâd, ac i beri bywyd i chwi, trwy ddirfawr ymwared.

8Ac yr awr hon nid chwi a’m hebryngodd i ymma, onid Duw, ac efe a’m gosododd i yn dâd i Pharao, ac yn feistr ar ei holl dŷ ef, ac yn llywydd ar holl wlâd yr Aipht.

9Bryssiwch, ac ewch i fynu at fy nhâd, a dywedwch wrtho, fel hyn y dywed dy fâb Ioseph, Duw a’m gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aipht: tyred i wared attaf; nâc oeda.

10A chei drigo yng-wlâd Gosen, a bod yn agos attafi, ti a’th feibion, a meibion dy feibion, a’th ddefaid, a’th warthec, a’r hyn oll gennit.

11Ac yno i’th borthaf, (o blegit pum mlhynedd o newyn etto) rhac dy farw o eisieu: ti a’th deulu, a’r hyn oll gennit.

12Ac wele eich llygaid chwi, a llygaid fy mrawd Beniamin yn gweled, mai fyng-enau i yn ymadrodd wrthych.

13Mynegwch hefyd i’m tâd, fy holl anrhydedd i yn yr Aipht, a’r hyn oll a welsoch: bryssiwch hefyd, a dygwch fy nhâd i wared ymma.

14Yna y syrthiodd ar wddf ei frawd Beniamin, ac a wylodd: Beniamin hefyd a wylodd ar wddf yntef.

15Ac efe a gussanodd ei holl frodyr, ac a wylodd wrthynt, ac yn ol hynny ei frodyr a chwedleuasant ag ef.

16A’r gair a ddaeth i dŷ Pharao, gan ddywedyd: brodyr Ioseph a ddaethant, a da oedd yng-olwg Pharao, ac yng-olwg ei holl weision.

17A Pharao a ddywedodd wrth Ioseph, dywet wrth dy frodyr, gwnewch hyn, llwythwch eich yscrubliaid, a cherddwch, ewch i wlâd Canaan.

18Yna cymmerwch eich tâd, a’ch teuluoedd chwi, a deuwch attaf fi: a rhoddaf i chwi ddaioni gwlad yr Aipht, a chewch fwytta braster y wlad.

19Fel yr ydwyf yn gorchymyni i ti, gwnewch hyn, cymmerwch i chwi o wlâd yr Aipht gerbydau i’ch plant, ac i’ch gwragedd: a chymmerwch eich tâd, a deuwch.

20Ac nac arbeded eich llygad chwi dodrefn: o blegit dâ holl wlâd yr Aipht sydd eiddo chwi.

21A meibion Israel a wnaethant felly, a rhoddodd Ioseph iddynt hwy gerbydau, yn ol gorchymyn Pharao, a rhodd iddynt fwyd ar hyd y ffordd.

22I bôb vn o honynt oll y rhoddes bâr o ddillad, ond i Beniamin y rhoddes dry chant arian, a phum pâr o ddillad.

23Hefyd iw dâd yr anfonodd fel hyn: dêc o assynod yn cludo o dda’r Aipht, a dêc o assynnod yn dwyn ŷd, bara, a bwyd iw dâd ar hyd y ffordd.

24Yna y gollyngodd ymmaith ei frodyr, y rhai a aethant ymmaith: dywedase hefyd wrthynt hwy, nac ymrysonwch ar y ffordd.

25Felly ’r aethant i fynu o’r Aipht, ac a ddaethant wlad Canaan, at eu tâd Iacob.

26Ac a fynegasant iddo ef gan ddywedyd: y mae Ioseph etto’n fyw, ac yn ddiau y mae yn llywodraethu ar holl wlad yr Aipht: yna y llescaodd ei galon yntef, o blegit nid oedd yn credu iddynt hwy.

27Traethasant hefyd iddo ef holl eiriau Ioseph, y rhai o ddywedase efe wrthynt hwy: a phan ganfu efe y cerbydau ’rhai a anfonase Ioseph iw ddwyn ef, yna y bywiogodd yspryd Iacob eu tâd hwynt.

28Yna y dywedodd Israel, digon Ioseph fy mâb etto’n fyw: âf fel y gwelwyf ef cyn fy marw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help