1Mab 2.Bren.24.18. 2.cron.36.11.vn mlwydd ar hugain Sedecia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac vn mlynedd ar ddêc y teyrnasodd efe yn Ierusalem, ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Ieremi o Libna.
2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a’r a wnaethe Iehoacim.
3O herwydd digofaint yr Arglwydd ar Ierusalem, ac ar Iuda, hyd oni fwriodd efe hwynt allan oi olwg ef, y gwrthryfelodd Sedecia yn erbyn brenin Babilon.
4Ond yn y nawfed flwyddyn oi deyrnasiad ef, yn y decfed mîs, ar y decfed o’r mîs y daeth Nabuchodonosor brenin Babilon, efe ai holl lu yn erbyn Ierusalem, ac a warchauâsant arni hi: ac a adailadâsant gyferbyn â hi amddeffynfa o amgylch.
5Felly y ddinas a drigodd yng-warche hyd yr vnfed flwyddyn ar ddêc i’r brenin Sedecia.
6Y pedwerydd mis, ar y nawfed o’r mîs newyn a orchfygodd y ddinas, fel nad oedd bara i bobl y wlâd.
7Yna y torrwyd y ddinas, a’r holl ryfel-wŷr a ffoasant, ac a aethant allan o’r ddinas liw nôs, i ffordd y porth rhwng y ddau tûr yr hwn wrth ardd y brenin, (a’r Caldeaid wrth y ddinas o amgylch) a hwynt a aethant tua’r rhôs.
8Ond llû y Caldeaid a ymlidiasant ar ôl y brenin, ac a oddiweddasāt Sedecia yn rhossydd Iericho, ai holl lu ef a wascarasāt oddi wrtho ef.
9Yna hwynt a ddaliasant y brenin, ac ai dygasant ef at frenin Babilon yn Riblah yng-wlad Hemath, ac efe a roddodd farn arno.
10A brenin Babilon a laddodd feibion Sedecia yng-ŵydd ei lygaid ef: efe a laddodd hefyd holl dy wysogion Iuda yn Riblah.
11Yna efe a dynnodd lygaid Sedecia, ac ai rhwymodd ef â chadwyni, a brenin Babilon ai harweiniodd ef i Babilon, ac ai rhoddodd ef mewn carchar-dŷ hyd ddydd ei farwolaeth.
12Ac yn y pummed mîs, ar y decfedd o’r mîs, (hon y bedwaredd flwyddyn ar bymthec i’r brenin Nabuchodonosor brenin Babilon) y daeth Nabuzaradan pennaeth y milwŷr (yr hwn a safe ger bron brenin Babilon) i Ierusalem,
13Ac efe loscodd dŷ yr Arglwydd, a thŷ yr brenin, a holl dai Ierusalem: a phob tŷ mawr a loscodd efe â thân.
14A holl lu y Caldeaid y rhai gyd â phennaeth y mil-wŷr a ddestruwiasant holl furoedd Ierusalem o amgylch.
15Yna Nabuzaradan pennaeth y mil-wŷr a gaeth-gludodd o’r bobl waelaf, a’r gweddill o’r bobl y rhai a adawsid yn y ddinas, a’r ffoaduriaid y rhai a giliasent at frenin Babilon sef y gweddill o’r bobl.
16Ond Nabuzaradan pennaeth y mil-wŷr a adawodd o dlodion y wlâd yn winllanwyr, ac yn ardd-wŷr.
17A’r Caldeaid a ddrylliasant y colofnau prês y rhai yn nhŷ’r Arglwydd, a’r stolion, a’r gerwyn brês yr hon yn nhŷ’r Arglwydd: a hwynt a ddugasant eu holl brês hwynt i Babilon.
18A hwynt a ddugasant ymmaith y crochânau, a’r rhawiau, ar psaltringau, a’r cawgiau, a’r thusserau, a’r holl lestri prês y rhai yr oeddyd yn gwasanaethu â hwynt.
19A’r phiolau, a’r pedill tân, a’r cawgiau, a’r crochânau, a’r canhwyll brennau, a’r thusserau, a’r cwppanau y rhai yn aur, ac yn arian a gymmerodd pennaeth y mil-wŷr ymmaith.
20Y ddwy golofn, vn gerwyn, a deu-ddec o ŷchen prês y rhai tann yr stolion, y rhai a wnaethe y brenin Salomon yn nhŷ’r Arglwydd: nid oedd pwys ar brês yr holl lestri hyn.
21Am y colofnau, deu naw cufydd vchter pôb colofn, a llinin o ddeuddec cufydd oedd yn ei hamgylchu: ai phraffter yn bedair modfedd, ac yn gau.
22A chnap prês arni, a phump cufydd vchter vn cnap, a rhwyd-waith, a phomgranâdau ar y cnap o amgylch yn brês ei gyd: ac fel hynn yr oedd yr ail golofn ai phomgrânadau.
23A’r pomgranadau oeddynt onid pedwar cant ar ystlys: yr holl bomgranadau ar y rhwyd-waith o amgylch oeddynt gant.
24A phennaeth y mil-wŷr a gymmerodd Seraiah yr arch-offeiriad, a Sephaniah yr ail offeiriad; a’r tri oeddynt yn cadw y drws.
25Ac efe a gymmerodd o’r ddinas vn stafellydd yr hwn oedd swyddog ar y rhyfel-wŷr, a seith-wŷr o weision pennaf y brenin y rhai a gafwyd yn y ddinas: a Sopher tywysog y llû, yr hwn a fydde yn byddino pobl y wlâd a thri vgein-ŵr o bobl y wlâd y rhai a gafwyd yng-hanol y ddinas.
26Felly Nabuzaradan pennaeth y milwŷr ai cymmerodd hwynt ymmaith, ac a aeth â hwynt i Riblah at frenin Babilon.
27A brenin Babilon ai tarawodd hwynt, ac ai lladdodd hwynt yn Riblah yng-wlad Hemath: fel hyn y caeth-gludwyd Iuda oi ŵlad ei hun.
28Dymma y bobl y rhai a gaeth-gludodd Nabuchodonosor: yn y seithfed flwyddyn efe a gaeth-gludodd o’r Iddewon dair mil, a thrî ar hugain.
29Yn y ddeu-nawfed flwyddyn i Nabuchodonosor ef a gaeth-gludodd o Ierusalem wyth gant a deuddec ar hugain o ddynnion.
30Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Nabuchodonosor, Nabuzaradan pennaeth y milwŷr a gaeth-gludodd saith gant, a phump a deugain o Iddewon: yr holl ddynniō hyn bedair mîl, a chwe chant.
31Ac yn yr ail flwyddyn ar bympthec ar hugain wedi caeth-gludo Iehoacim frenin Iuda y deuddecfed mîs, ar y pummed ar hugain o’r mîs, Efilmerodach brenin Babilon (yn y flwyddyn oi deyrnasiad ef) a dderchafodd benn Iehoacim brenin Iuda, ac ai dug ef allan o’r carchar-dŷ,
32Ac a ddywedodd yn dêg wrtho, ac a osododd ei frenhin-faingc ef vwch law meingeiau y brenhinoedd y rhai gyd ag ef yn Babilon.
33Ac efe a newidiodd ei garchar-wisc ef: yntef a fwytâodd fwyd ger ei fron ef yn oestad holl ddyddiau ei enioes.
34Ai lynniaeth ef llynniaeth gwastadol a roddwyd iddo ef oddi wrth frenin Babilon, dogn dydd yn ei ddydd, hyd ddydd ei farwolaeth: holl ddyddiau ei enioes ef.
Terfyn llyfr Ieremi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.