Ecclesiasticus 33 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXIII.Ffrwyth a daioni ofn Duw. 8 Mai Duw sydd yn rhoddi i bob peth ei ragoriaeth. 18 Fe a ddyle dyn gadw ei rogoriaeth tra fydde byw. 23 Y modd y mae arfer gweision a gwenidogion.

1NI ddigwydd niwed i’r hwn a ofno yr Arglwydd, eithr mewn profedigaeth ai gwared ef eil-waith.

2Nid câs gan y doeth y gyfraith, ond yr hwn a ragrithio ynddi hi megis mewn rhyferthwy mawr.

3Dŷn synhwyrol a ymddyried i’r gyfraith, a’r gyfraith a fydd ffyddlon iddo yntef.

4Er eglured fyddo yr hyn a ofynner, darpar dy ymadrodd, ac felly i’th wrandewir: bydd sicr o’r peth, yna atteb.

5Calon y Pen.21.16.ffol sydd fel olwyn men: ai feddyliau ydynt fel echel dro.

6Megis y gweryra ystalwyn can bawb a eisteddo arno ef, felly y gwna cyfaill gwatwarus.

7Pa ham y mae diwrnod yn rhagori diwrnod, gan fôd goleuni pob diwrnod yn y flwyddyn yn dyfod o’r haul:

8Trwy ŵybodaeth yr Arglwydd y gwaha­nwyd hwynt,

9Efe a gyfnewidiodd yr amserau a’r gwiliau.

10[Rhai] o honynt hwy a dderchafodd efe, ac a sancteiddiodd efe, ac efe a osododd o honynt hwy yn rhifedi y dyddiau.

11Dynion Gene.1.27. & 2.7.a wnaed oll o’r ddaiar, ac o bridd y crewyd Adda.

12Yr Arglwydd trwy fawr wybodaeth ai nailltuodd hwynt, ac a wnaeth eu ffyrdd hwynt yn amryw.

13Rhai o honynt hwy a fendithiodd, ac a dderchafodd efe, a o honynt hwy a sanc­teiddiodd, ac a nessaodd efe atto ei hun: o honynt hwy a felldithiodd, ac a ddarostyngodd efe, ac ai trôdd hwynt allan oi lle.

14 Esa.45.9. rhuf.9.20. Megis y clai yn llaw y cro­chenudd, ai holl ddigwydd wrth ei ewyllys ef: felly y mae dŷn yn llaw yr hwn ai gwnaeth ef, i roddi iddo efe fel y gwelo efe yn dda.

15Y mae daioni yn erbyn drygioni, ac einioes yn erbyn angeu: felly y mae y duwiol yn erbyn y pechadur, a’r pechadur yn erbyn y gŵr duwiol.

16Felly edrych ar holl weithredoedd y Goruchaf, bob yn ddau y maent hwy y naill yn erbyn y llall.

17Minne a ddeffroais yn ddiweddaf fel vn yn lloffa ar ôl cynhaiafwŷr y grawn-wîn: trwy fendith yr Arglwydd y cynnyddais: ac y llenwais fyng-winwryf fel cynhaiafwr grawn­wîn.

18Dehallwch nad i mi fy hunan y cymerais i boen, Pen.24.39.ond i bawb a geisiant athrawiaeth.

19O bendefigion clywch: ô lywodraethwŷr y gynnulleidfa gwrandewch.

20Na ddod awdurdod arnat ty hun i fab nac i wraig, i frawd nac i gydymmaith tra fyddech di byw: ac na ddod dy dda i arall rhag bod yn edifar i ti, a gorfod it ymbil â hwynt.

21Tra fyddech di fyw a bod anadl ynot: na newidia dy gyflwr er vn dŷn.

22Canys gwell yw bod ar dy blant dy eisi­eu di, nac i ti edrych yn nwylo dy blant.

23Cymmer dy ragor yn dy holl weithredoedd: ac na anafa dy barch.

24Yn y dydd y gorphennech di ddyddiau dy enioes, ac yn yr amser diweddaf dod dy etifeddiaeth.

25[Rhodder] gwellt a gwialen a phwn i’r assen: bara, a chospedigaeth a gwaith i’r gwenidog.

26Gwna iddo ef weithred trwy gospedigaeth, ac efe a gais orphywysdra, llaesa law iddo ef, ac efe a gais rydd-did.

27Iau ac irai a ostwng warr ac ar wenidog drwg y mae yn rhaid rhoi cospedigaeth a blinder.

28Gyrr ef iw waith fel na byddo efe segur o blegit llawer o ddrygioni a ddyscodd segurud.

29Gosot ef ar ei waith canys felly y gwedde iddo ef.

30Oni bydd vfydd dod heirn trymion arno ef: ond na ddod ormod ar vn cnawd, ac na wna ddim heb pwyll.

31Os bydd gennit Pen.24.39.wenidog bydded ef i ti fel dy enaid dy hun: o blegit mewn gwaed y cefaist ti ef, os bydd gennit wenidog gwna o honaw ef fel o frawd: canys fe a fydd mor rhaid i ti wrtho ef ac wrthit dy hun.

32Os cospi di ef ar gam a chodi o honaw yntef a ffoi ymmaith, pa ffordd y ceisi di ef:

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help