Caniadau Salomon 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Yr eglwys yn dymuno cael aros yng-hyscod Crist. 8 Ac yn hyfryd ganddi ei glywed ai weled. 14 Cyffelybir hi i golomen, ai gelynnion i lwynogod, ai hannwylyd i lwdn hydd.

1Rhosyn y maes, a lili y dyffryn fi.

2Megis lili ym mysc y drain: felly fyng-hyfeilles ym mysc y merched.

3Megis afallen ym mysc prennau’r coed, felly fy annwylyd ym mhlith y meibion: chwennychais eistedd o honof dan ei gyscod ef, canys ei ffrwyth felus i’m genau,

4Efe a’m dug i’r gwin-dŷ, ai fâner arnaf cariad.

5Cynheliwch fi â gwîn, cryfhewch fi ag afalau, canys claf o gariad.

6Ei law asswy tann fy mhen, ai ddeheu-law sydd yn fyng-hofleidio.

7Merched Ierusalem tynghedais chwi trwy iwrchod a hyddod y maes, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fyng-hariad ymma hyd oni fynno hi ei hun.

8[Dymma] lais fy annwylyd, wele ef yn dyfod, yn neidio ar y mynyddoedd, yn llammu ar y brynnau.

9Tebyg yw fy annwylyd i iwrch neu lwdn hydd, wele ef yn sefyll dan ein pared yn edrych trwy’r ffenestri, yn ymddangos trwy’r pilêrau.

10Fy annwylyd a attebodd, ac a ddywedodd wrthif, cyfot ti fyng-hyfeilles, a thyret ti fy mhrydferth.

11Canys wele y gaiaf a aeth heibio, y glaw a bassiodd, aeth ymmaith.

12Gwelwyd y blodau ar y ddaiar, daeth amser pwngc-leisio, clywyd llais y durtur yn ein gwlâd.

13Y ffigus-bren a fwriodd allan ei ffigus irion, a’r gwin-wŷdd hegin grawn, a roddâsant arogl cyfot ti fyng-hyfeilles, a thyret ti fy mhrydferch.

14Fyng-holomen o holltau y graig, o loches y grisiau, gad ti i mi weled dy wyneb, gad i mi glywed dy lais: canys dy lais beraidd, a’th olwg yn hawddgar.

15Deliwch i ni y llwynogod,’r llwynogod bychain y rhai a ddifwynant y gwinllannoedd, tra ein gwinllannoedd yn egin grawn-wîn.

16Fy annwylyd eiddo fi, a minne yn eiddo yntef: yr hwn a ymborth ym mysc y lili.

17Hyd oni wawrio’r dydd, a chilio o’r cyscodau: tro, bydd debyg fy annwylyd i iwrch, neu lwdn hydd ym mynyddoedd Bather.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help