2.Cronicl 35 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXV.Pasc Iosia, 20 Ei ryfel, 23 Ai farwolaeth.

1Yna

20Wedi hyn oll, pan baratoase Iosia y tŷ: Necho brenin yr Aipht a ddaeth i fynu i ryfela yn erbyn Carchemis wrth Euphrates: ac Iosia a aeth allan iw gyfarfod ef.

21Yntef a anfonnodd gennadau atto ef gan ddywedyd, beth i mi a thi ô frenin Iuda? nid yn dy erbyn di heddyw, ond yn erbyn tŷ fy rhyfel i, a Duw a archodd i mi fryssio: paid â Duw yr hwn gyd a mi, fel na ddifetho efe di,

22Ond ni throe Iosia ei wyneb oddi wrtho ef, eithr newidiodd ei ddillad i ymladd yn ei erbyn ef, ac ni wrandawodd ar eiriau Necho o enau Duw: ond efe a ddaeth i ymladd i ddyfryn Megido.

23A’r saethyddion a saethasant y brenin Iosia: yna y brenin a ddywedodd wrth ei weision, dygwch fi ymmaith canys clwyfwyd fi yn dôst.

24Felly ei weision ai tynnasant ef o’r cerbyd, ac ai gosodasant ef yn yr ail cerbyd yr hwn ganddo, ef, dugasant ef hefyd i Ierusalem, ac efe fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dadau: a holl Iuda, ac Ierusalem a alarasant am Iosia.

25Ieremi hefyd a alar-nadodd am Iosia, a’r holl gantorion, a’r cantoresau yn eu galar-nadau a soniant am Iosia hyd heddyw, a hwy ai rhoddasant hwynt yn ddefod yn Israel: ac wele hwynt yn scrifennedic yn y galar-nadau.

26A’r rhan arall o hanes Iosia ai dduwioldeb ef: (fel y mae yn scrifennedic yng-hyfraith yr Arglwydd)

27Ai weithredoedd ef cyntaf a diweddaf: wele hwynt yn scrifennedic yn llyfr brenhinoedd Israel, ac Iuda.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help