Galathiaid 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Cyscodion ac arwyddion yn terfynu pan ddaeth Crist, 9 cyngor i ymadel â hên goelion, 15 rhesymmu am anwadalwch y Galatiaid, 22 dammeg o’r wraig rydd a’r wraig gaeth.

1 Hyn yr wyf yn ei ddywedyd, tra fyddo yr etifedd yn fachgen nid oes gwahaniaeth rhyngddo a gwâs, er ei fod yn arglwydd pob dim:

2Eithr y mae efe tann ymgeledd-wŷr, a llywodraeth-wŷr hyd yr amser a osodes y tad.

3Ac felly ninnau, tra fuom fechgyn yr oeddym gaethion tann wyddorion y byd.

4Eithr wedi dyfod cyflawnder yr amser yr anfonodd Duw ei Fab wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur tann y ddeddf,

5Fel y galle brynn y rhai oeddynt tann y ddeddf, oni chlywch y ddeddf?

22Canys y mae yn scrifennedic fôd i Abraham ddau fab, Gen.16.15.vn o’r wasanaeth-wraig, Gen.21.1.ac vn o’r rydd.

23Eithr hwn oedd o’r wasanaeth-wraig a aned yn ôl y cnawd: a hwn oedd o’r wraig rydd o herwydd yr addewid.

24Y pethau hyn a arwyddocânt beth arall: sef y rhai hyn ynt y ddau destamēt: vn yn ddiau, hon yw Agar o fynydd Sina sydd yn cenhedlu i gaethiwed:

25Canys Agar yw Sina mynydd yn Arabia, ac y mae yn cyfatteb i Ierusalem yr hon fydd yn awr, ac y mae yn gaeth hi a’i phlant.

26 Esa.45.2. Eithr Ierusalem honno vchod sydd rydd, hon yw ein mam ni oll.

27Canys scrifennedic yw, Esa.54.1.llawenhâ di y ddieppil yr hon nid wyt yn planta: torr allan a llefa, yr hō nid wyt yn escor, canys i’r ddiwriog y mae llawer mwy o blant nag i’r hon y mae iddi ŵr.

28Ninneu frodyr ydym yn blant yr addewid Ruf.9.8.vn wedd ac Isaac.

29Eithr megis y pryd hynny, hwn a aned yn ôl y cnawd a erlidie’r hwn yn ôl yr Yspryd, felly y mae yr awrhon.

30Ond pa beth a ddywed yr scrythur? Gen.21.10.Bwriwch allan y wasanaeth-wraig a’i mab, canys ni bydd mab y wasanaeth-wraig yn etifedd gyd â mab y wraig rydd.

31Felly frodyr, nid ydym ni blant i’r wasanaeth-wraig, ond i’r wraig rydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help