Psalmau 36 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xxxvj.Dixit iniustus.Psalm Dafydd gwâs yr Arglwydd at y pen-cerdd.

1Y mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fyng-halon, nad ofn Duw o flaen ei lygaid ef.

2O herwydd ymwenheithio y mae efe iddo ei hun, yn ei olwg ei hunan, nes cael allan ei anwiredd ef iw gassâu.

3Geiriau ei enau anwiredd, a thwyll: peidiodd a bod yn gall i wneuthur daioni.

4Anwiredd a ddychymmyg efe ar ei wely: efe ai gesyd ei hun ar ffordd nid ddâ: ni wrthyd efe ddrygioni.

5Dy drugaredd Arglwydd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd yr wybrennau.

6Fel mynyddoedd cedyrn dy gyfiawnder, dyfnder mawr dy farnedigaethau: dŷn, ac anifail a achubi di Arglwydd.

7Morr werth-fawr dy drugaredd ô Dduw, am hynny’r ymddyried meibion dynnion yng-hyscod dy adênydd.

8Llenwir hwynt â brasder dy dŷ: ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt.

9Canys gyd â thi ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwêlwn oleuni.

10Estyn dy drugaredd i’r rhai a’th adwaenant, a’th gyfiawnder i’r rhai iniawn o galon.

11Na ddeued troed balchder i’m herbyn: ac na syfled llaw y rhai annuwiol fi.

12Yno y syrthiodd gweith-wŷr anwiredd gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help