2.Cronicl 31 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXI.Gofal Hezecia yn erbyn gau-dduwiaeth, a thros iawn wasanaeth Duw.

1Pan orphennwyd hyn ei gyd, holl Israel y rhai a gafwyd yn ninasoedd Iuda a aethant allan, Deut.7.25.|DEU 7:25. Iosu.7.1.|JOS 7:1. 2.Mac.12.40.ac a ddrylliasant y delwau, ac a dorrasant y llwynau, ac a ddestruwiasant yr vchelfeudd a’r allorau o holl Iuda a Beniamin, yn Ephraim hefyd, a Manasses, nes difa yna holl feibion Israel a ddychwelasant bob vn at ei feddiant, iw dinasoedd.

2Ac Hezecia a osododd ddosparthiadau’r offeiriaid, a’r Lefiaid yn eu trefniadau, pob vn yn ôl ei wenidogaeth, yr offeiriaid a’r Lefiaid i’r poeth offrwm, ac i’r ebyrth hedd i weini, i foliannu hefyd, ac i ganmol ym mhyrth gwerssyllau yr Arglwydd.

3A rhan y brenin oi olud ei hun yn boeth offrymmau, yn boeth offrymmau y borau a’r hwyr, ac yn boeth offrymmau ar y Sabbothau, ac ar y newydd loerau, a’r gŵyliau arbennic: fel y mae yn scrifennedic Num.28.3. & 9yng-hyfraith yr Arglwydd.

4Efe hefyd a ddywedodd wrth y bobl sef trigolion Ierusalem am roddi rhan i’r offeiriaid, a’r Lefiaid: fel yr ymgryfhaent yng-hyfraith yr Arglwydd.

5A phan gyhoeddwyd y gair hwn, meibion Israel a ddugasant yn aml flaen-ffrwyth yr ŷd, y gwîn, yr olew hefyd, a’r mêl, ac o holl gnŵd y maes: a’r degwm o bob peth a ddugasant hwy yn helaeth.

6A meibion Israel ac Iuda y rhai oeddynt yn trigo yn ninasoedd Iuda, ie hwynt hwy ddegwm gwartheg, a defaid, a degwm y pethau cyssegredic y rhai a gyssegrasid i’r Arglwydd eu Duw: dugasant, a dodasant bob yn ben-twrr.

7Yn y trydydd mîs y dechreuasant hwy seilio y pentyrrau: ac yn y seithfed mis y gorphennasant hwy.

8Pan ddaeth Hezecia a’r tywysogion, a gweled o honynt y pentyrrau: yna y bendithiasant yr Arglwydd ai bobl Israel.

9Ac Hezecia a ymofynnodd a’r offeiriaid, a’r Lefiaid o herwydd y pentyrrau.

10Ac Azaria yr offeiriad pennaf o dŷ Zadoc a ddywedodd wrtho ef, ac a lefarodd, er pan ddechreuwyd dwyn offrwm i dŷ’r Arglwydd bwytawsom ac fe a’n digonwyd ni, gweddillasom hefyd amldra mawr, canys yr Arglwydd a fendithiodd ei bobl, a’r amldra hyn a weddillwyd.

11Ar Hezecia a ddywedodd am baratoi celloedd yn nhŷ’r Arglwydd, a hwynt ai paratoasant.

12A hwynt a ddugasant y blaen-ffrwyth, a’r degwm, a’r pethau cyssegredic yn ffyddlon: a Chonaniah y Lefiad yn flaenor arnynt hwy, a Simei ei frawd ef yn ail.

13Iehiel hefyd, ac Azaria, a Nahath, ac Azahel, ac Ierimoth, ac Iozabad, ac Eliel, ac Ismachia, Mahath hefyd, a Benaia swyddogion tann law Chonaniah, a Simei ei frawd ef drwy orchymyn Hezecia y brenin, ac Azaria flaenor yn nhŷ Dduw.

14A Chore mab Imnah y Lefiad porthor tua’r dwyrain ar y pethau a offrymmid yn ewyllyscar i Dduw: i roddi y blaenffrwyth i’r Arglwydd, a’r cyssegredic bethau y rhai a gyssegrasid.

15A thann ei law ef Eden, a Miniamin, ac Iesua, a Semaiah, Amariahu, a Secaniahu yn ninasoedd yr offeiriaid mewn ffyddlondeb: i roddi iw brodyr eu rhan, i fawr, ac i fychan.

16(Heb law y gyrfiaid oi hiliogaeth hwynt o fab tair blwydd ac vchod) i bawb a’r a oedd yn dyfod i dŷ’r Arglwydd traul dydd yn ei ddydd: yn eu gwasanaeth hwynt o fewn eu gorchwyliaethau, yn ôl eu dosparthiadau.

17Ac i hiliogaeth yr offeiriaid drwy dŷ eu tadau hwynt, a’r Lefiaid, o fab vgain mlwydd ac vchod: yn ôl eu gorchwyliaethau yn eu dosparthiadau.

18Ac i hiliogaeth eu holl blant hwynt, eu gwragedd hwynt, eu meibion hefyd, ai merched i’r holl gynnulleidfa: o blegit trwy eu ffyddlondeb hwynt y trinent hwy yn sanctaidd yr hyn oedd sanctaidd.

19Ac i feibion Aaron yr offeiriaid ym meusydd pentrefol eu dinasoedd, ym mhob dinas y gwŷr y rhai a henwasid wrth eu henwau: i roddi rhannau i bob gwryw ym mysc yr offeiriaid, ac i holl hiliogaeth y Lefiaid.

20Ac fel hyn y gwnaeth Hezecia drwy holl Iuda: ac efe a wnaeth yr hyn oedd yn ddâ, ac yn inion, a’r gwirionedd ger bron yr Arglwydd ei Dduw.

21Ac ym mhob gwaith yr hwn a ddechreuodd efe yng-wenidogaeth tŷ Dduw, ac yn y gyfraith, ac yn y gorchymyn, gan geisio ei Dduw: efe ai gwnaeth ai holl galon, ac a ffynnodd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help