1Ac yr awr hon fel hyn y dywed yr Arglwydd, dy greawdur di Iacob, a’th luni-wr di Israel: nac ofna canys gwaredais di: gelwais erbyn dy enw, eiddo fi
2Pan elech trwy’r dwfr myfi a gyd â thi, a thrwy’r afonydd na’th foddant, pan rodiech drwy’r tân ni’th loscir, ac ni ennyn y fflam arnat.
3Canys myfi’r Arglwydd dy Dduw, Sanct Israel dy waredudd a roddais yr Aipht yn iawn trosot, Ethiopia, a Saba am danat.
4Er pan aethost yn gu yn fyng-olwg i’th ogoneddwyd, canys mi a’th hoffais, am hynny y rhoddaf am danat ti, a phobloedd er dy fwyn di.
5Nac ofna, canys yr ydwyfi gyd â thi, o’r dwyrain y dygaf dy hâd, ac o’r gorllewyn i’th gasclaf.
6Dywedaf wrth y gogledd, dod, ac wrth y dehau nac attal: dŵg fy meibion o bell, a’m merched o eithaf y tîr:
7[Sef] pob vn a elwir ar fy enw, canys i’m gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwneuthum ef hefyd.
8Dug allan y bobl ddall sydd a llygaid iddynt, byddariaid a chlustiau iddynt.
9Cascler yr holl genhedloedd yng-hyd, a cynhuller y bobloedd, pwy o honynt a fynega hyn? ac a draetha i ni y pethau cyntaf? rhoddant eu tystion fel y cyfiawnhaer hwynt, neu gwrandawant, a dywedant, gwir
10Fy nhystion mau fi chwi medd yr Arglwydd, a’m gwâs yr hwn a ddewisais, fel y gwypoch, ac y credoch i mi, ac y ddealloch mai myfi’r hwn nid duw wedi ei ffurfio oi flaen, ac ni bydd ar ei ôl.
11Myfi, myfi Arglwydd: ac nid geidwad onid myfi.
12Myfi a fynegais, ac a achubais, ac a dreuthais pryd nad duw dieithr yn eich mysc, chwi hefyd fy nhystion (medd yr Arglwydd) mai myfi Dduw.
13Ie cyn dydd yr ydwyfi, ac nid a waredo o’m llaw, gwnaf, a phwy a luddia hynny?
14Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd eich gwaredudd chwi Sanct Israel, er eich mwyn chwi’r anfonais i Babilon, ac y tynnais i lawr yr holl ffoaduriaid, a’r Caldeaid, ai gorfoledd mewn llongau.
15Myfi’r Arglwydd eich Sanct chwi, creawdudd Israel, eich Brenin chwi.
16Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, yr Arglwydd, yr hwn a rydd ffordd yn y môr, a llwybr yn y dyfroedd cryfion.
17Yr hwn a ddwg allan y cerbyd a’r march, y llu a’r cryfder: cyd-orweddant, fel na chodant, darfuant, fel llîn y diffoddâsant.
18Na chofiwch y pethau cyntaf, nac ystyriwch y pethau gynt.
19Wele fi yn gwneuthur peth newydd, yr awr hon y dechreu, oni chewch ei ŵybod? gosodaf ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffaethwch.
20Bwyst-fil y maes, y dreigiau, a chywion y Estrys a’m gogoneddant, am roddi o honof ddwfr yn yr anialwch, afonydd yn y diffaethwch i roddi diod i’m pobl ddewisedic.
21Y bobl hyn a luniais i’m fy hun, fy moliant a fynêgant.
22Ni elwaist arnaf Iacob, eithr blinaist arnaf Israel.
23Ni ddugaist i’m filin dy offrymmau poeth, ac ni’m anrhydeddaist a’th ebyrth: ni cheisiais gennit fyng-wasanaethu â bwyd offrwm, ac ni’th flinais ag arogl-darth.
24Ni phrynaist i’m Galamus ag arian, ac ni’m trochaist â braster dy ebyrth, eithr ti a’m llwythaist a’th bechodau, blinaist fi a’th anwireddau.
25Myfi, myfi’r hwn a ddelea dy gamweddau er fy mwyn fy hun, ac ni chofiaf, dy bechodau.
26Dwg ar gof i’m, cyd-ymgyfreithiwn, adrodd di fel i’th gyfiawnhaer.
27Dy dad cyntaf a bechodd, a’th athrawon a wnaethant gamwedd i’m herbyn.
28Am hynny yr halogais dywysogion y cyssegr, ac y rhoddais Iacob yn ddiofryd-beth, ac Israel ym wradwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.