1A’r ail coel-bren a aeth allan i Simeon dros lwyth meibion Simeon yn ôl eu teuluoedd: ai hetifeddiaeth hwynt oedd ym mysc etifeddiaeth meibion Iuda.
2Ac yr oedd ganddynt hwy yn eu hetifeddiaeth hwynt Beerseba, a Seba, a Moladah.
3Hasar-sual hefyd, a Balah, ac Asem.
4Eltholad hefyd, a Bethul, a Horma.
5Ziglac hefyd, a Beth-marcaboth a Hazarsusah.
6A Beth-lebaoth, a Saruhen: tair dinas ar ddeg ai trefydd.
7Ain, Rimmon, ac Ether, ac Asan: pedair o ddinasoedd ai trefydd.
8A’r holl drefydd y rhai o amgylch y dinasoedd hyn hyd Baalath-beer, Ramath’r dehau: dymma etifeddiaeth llwyth meibion Simeon yn ôl eu teuluoedd.
9O ran-dir meibion Iuda yr etifeddiaeth meibion Simeon: canys rhann meibion Iuda oedd ormod iddynt, am hynny meibion Simeon a gymmerasant etifeddiaeth ym mysc eu hetifeddiaeth hwynt.
10A’r trydydd coel-bren a ddaeth i fynu dros feibion Zabulon yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd hyd Sarid.
11Ai terfyn hwynt sydd yn myned i fynu tua’r môr, a Maralah, ac yn cyffwrdd a Dabaser: ac yn cyrheuddyd i’r afon yr hon ar gyfer Iocneam,
12Ac yn dychwelyd o Sarid tua thu’r dwyrain chyfodiad yr haul hyd derfyn Cissoth Tabor: ac yn myned i Ddaberath, ac yn escyn i Iaphia,
13Ac yn myned oddi yno ym mlaen tua’r dwyrain i Gittah Hepher, i Ittah Cazin: ac yn myned i Rimmon Methoar, Neah.
14A’r terfyn hwn sydd yn amgylchu o du’r dwyrain i Hanathon: ai ddiweddiad yng-lynn Iiphtahel.
15Cattath hefyd a Nahalal, a Simron ac Idalah, a Bethlehem: deuddeg o ddinasoedd ai trefydd.
16Dymma etifeddiaeth meibion Zabulon yn ôl eu teuluoedd: y dinasoedd ymma, ai trefydd.
17Y pedwerydd coel-bren a aeth allan dros Issachar: dros feibion Issachar yn ôl eu teuluoedd.
18Ai terfyn hwynt oedd Izrehelah, a Chesuloth, a Sunem.
19Hapharaim hefyd, a Sion, ac Anaharath.
20Rabbith hefyd, a Chision, ac Abez.
21Remeth hefyd, ac Engamin, ac Enhadah a Beth-phazez.
22A’r terfyn hwn sydd yn cyrhaeddyd i Thabor, a Sahazimah, a Bethsemes, ai cyrrau eithaf hwynt yw yr Iorddonen: vn dinas ar bymthec ai trefydd.
23Dymma etifeddiaeth llwyth meibion Issachar yn ôl eu teuluoedd: y dinasoedd, ai trefydd.
24Yna y pummed coel-bren a aeth allan dros lwyth meibion Aser yn ôl eu teuluoedd.
25Ai terfyn hwynt oedd: Helcath, a Hali, a Beten, ac Acsaph.
26Alamelec hefyd, ac Amad, a Misal: ac yn cyrheuddyd i Carmel tua’r gorllewyn, ac i Sihor Libnah,
27Ac y mae efe yn troi tua chyfodiad yr haul i Beth-dagon, ac yn cyrhaeddyd i Zabulon, ac i ddyffryn Iiphthahel tua’r gogledd i Beth Emec, ac i Neiel, ac yn myned ar y llaw asswy i Chabul,
28[Ac] Hebron hefyd, a Rehob, a Hammon, a Chanah: hyd Sidon fawr.
29A’r terfyn sydd yn dychwelyd i Ramah, ac hyd Zor y ddinas gaerog: a’r terfyn yn troi i Hosah, ai gyrrau eithaf ydynt wrth y môr o randir Achzib.
30Umma hefyd, ac Aphec, a Rehob: dwy ddinas ar hugain ai trefydd.
31Dymma etifeddiaeth llwyth meibion Aser yn ol eu teuluoedd: y dinasoedd hyn ai trefydd.
32Y chweched coel-bren a aeth allan dros feibion Nephthali: dros feibion Nephthali yn ôl eu teuluoedd.
33Ai terfyn hwynt oedd o Heleph, o Aion yn Zaannim, ac Adami Neceb, ac Iabneel hyd Laccum: ai gyrrau eithaf oedd yr 96 Iorddonen.
34A’r terfyn hwn sydd yn dychwelyd tua’r gorllewyn i Aznoth Tabor, ac yn myned oddi yno i Huccocah: ac yn cyrhaeddyd i Zabulon o du’r dehau, yn cyrhaeddyd i Aser o du’r gorllewyn, ac i Iuda tua’r Iorddonen o gyfodiad haul.
35A’r dinasoedd caeroc Zidim, Zer, a Hamniath, Raccath, a Chinereth.
36Adamah hefyd, a Ramah, a Hasor.
37Cedes hefyd, ac Edrai, ac Enhasor.
38Iron hefyd a Migdal-el, Horem a Bethanath, a Bethsemes: pedair dinas ar bymthec ai trefydd.
39Dymma etifeddiaeth llwyth meibion Nephthali yn ôl eu teuluoedd: y dinasoedd ai trefydd.
40Y seithfed coel-bren a ddaeth allan dros lwyth meibion Dan yn ôl eu teuluoedd.
41A therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd: Sorah, ac Esthaol, a Chiriath Semes.
42Saalabbin hefyd, ac Aialon, ac Ithlah.
43Elou hefyd, a Themnatha, ac Ecceron.
44Elthecc hefyd, a Gibbethon, a Baalath.
45Iehud hefyd, a Beneberac, a Gathrimmon.
46Meiarcon hefyd, a Raccon gyd a’r terfyn ar gyfer Iapho.
47A therfyn meibion Dan a aeth yn rhy iddynt: am hynny meibion Dan a aethant i fynu, ac a ymladdasant yn erbyn Lesem ac ai hennillasant, tarawsant hefyd hi a mîn y cleddyf, a gorescynuasant hi, a thrigasant ynddi a galwasant Lesem Barn 18.29.yn Ddan, yn ôl henw Dan eu tad.
48Dymma etifeddiaeth llwyth meibion Dan yn ôl eu teuluoedd: y dinasoedd hynn ai trefydd.
49Pan orphennasant rannu y wlâd honno yn etifeddiaethau yn ôl ei therfynau: yna meibion Israel a roddasant etifeddiaeth i Iosuah fab Nun yn eu mysc hwynt.
50Wrth orchymyn yr Arglwydd y rhoddasant iddo ef y ddinas yr hon a ofynnodd efe, sef Iosu.24.30.Tinnah Serah ym mynydd Ephraim: ac efe a adailadodd y ddinas, ac a drigodd ynddi.
51 Num.34.17. Dymma yr etifeddiaethau y rhai a roddodd Eleazar yr offeiriad, ac Iosuah mab Nun a phennaethiaid teuluoedd meibion Israel yn etifeddiaeth wrth goel-bren yn Sitoh, o flaen yr Arglwydd ddrws papell y cyfarfod: felly y gorphennasant rannu’r wlâd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.