1Yna Elisêus a ddywedodd, gwrandewch air yr Arglwydd: fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, yng-hylch y pryd y foru y sât o beillied er sicl, a dau sât o haidd er sicl ym mhorth Samaria.
2A’r tywysog yr hwn yr oedd y brenin yn pwyso ar ei law a attebodd ŵr Duw, ac a ddywedodd, pe gwnai yr Arglwydd ffenestri yn y nefoedd, a fydde y peth hyn? dywedodd yntef, wele ti ai gweli a’th lygaid, ond ni fwyttei o honaw.
3A phedwar-gwŷr gwahan-glwyfus oeddynt wrth ddrws y porth: a hwy a ddywedasant bôb vn wrth ei gilydd, pa ham yr ydym ni yn aros ymma nes ein meirw?
4Os dywedwn ni, awn i mewn i’r ddinas, newyn yn y ddinas, ac ni a fyddwn feirw yno, ac os trigwn ni ymma hefyd ni a fyddwn feirw, am hynny deuwch yn awr, a rhuthrwn i werssyll y Syriaid, o chadwant ni yn fyw, byw fyddwn, ac os lladdant ni, bydwn feirw.
5Ac hwynt a gyfodasant ar dorriad dydd i fyned i werssyll y Syriaid: pan ddaethant at gwrr gwerssyll y Syriaid, yna wele nid neb yno.
6Canys yr Arglwydd a barase i werssyll y Syriaid glywed trŵst cerbydau, a thrŵst meirch, thrŵst llû mawr: fel y dywedasent bôb vn wrth eu gilydd, wele brenin Israel a gyflogodd i’n herbyn ni frenhinoedd yr Hethiaid, a brenhinoedd yr Aipht i ddyfod arnom ni.
7Am hynny hwynt a gyfodasant, ac a ffoasant, ar lasiad dydd, ac a adawsant eu pebyll, ai meirch, ai hassynnod, y gwerssyll fel yr ydoedd: ac a ffoasant am eu henioes.
8Pan ddaeth y rhai gwahan-glwyfus hyn hyd gwrr y gwerssyll, yna y daethant at vn babell, bwyttasant hefyd, ac yfasant, a chymmerasant oddi yno ariā, ac aur, a gwiscoedd, ac aethāt ymmaith, ac ai cuddiasant: a hwynt a ddychwelasant, ac a ddaethāt i babell arall, cymmerasant hefyd oddi yno, ac aethant ymmaith a chuddiasant
9Yna y dywedodd y naill wrth y llall, nid ydym ni yn gwneuthur yn iawn, y dydd hwn fy ddydd llawen-chwedl, ac yr ydym ni yn tewi a sôn, os arhoswn ni hyd oleuni y boreu, yna anwiredd a’n deil ni: deuwch gan hynny yn awr, ac awn fel y mynegom i dŷ yr brenin.
10Felly hwynt a ddaethant, ac a waeddasant ar borthorion y ddinas, ac a fynegasant iddynt gan ddywedyd, daethom i werssyll y Syriaid, ac wele nid yno neb, na llais dŷn: onid y meirch yn rhwym, a’r assynnodd yn rhwym, a’r pabellau megis yr oeddynt hwy
11Yna y llefodd y porthorion: ac y myneasant i dŷ yr brenin oddifewn.
12Yna y brenin a gyfododd liw nôs, ac a ddywedodd wrth ei weision, mynegaf yn awr i chwi yr hyn a wnaeth y Syriaid i ni: gwyddent mai newynoc oeddem ni, am hynny yr aethant ymmaith o’r gwerssyll i ymguddio yn y maes gan ddywedyd, pan elont hwy allan o’r ddinas yna y daliwn ni hwynt yn fyw, ac y deuwn i mewn i’r ddinas.
13Ac vn o’r gweision a attebodd, ac a ddywedodd, cymmer yn awr bump o’r meirch a adawyd, y rhai a adawyd yn y ddinas, (wele hwy fel holl liaws Israel y rhai a arhosasant ynddi, wele hwy fel holl liaws Israel y rhai a ddarfuant) ac nyni a anfonwn, ac a edrychwn.
14Felly hwynt a gymmerasant ddau gerbyd meirch: a’r brenin a anfonodd ar ôl gwerssyll y Syriaid gan ddywedyd, ewch, ac edrychwch.
15A hwy a aethant ar eu hôl hwynt hyd yr Iorddonen, ac wele yr holl ffordd ydoedd yn llawn o wiscoedd, a llestri y rhai a fwriase y Syriaid ymmaith wrth fryssio o honynt: a’r cennadau a ddychwelasāt, ac a fynegasāt i’r brenin.
16Yna yr bobl a aethant allan, ac a anrhaithiasant werssyll y Syriaid: a bu sât o beillied er sicl, a dau sât o haidd er sicl, yn ôl gair yr Arglwydd.
17A’r brenin a osododd y tywysog (yr hwn yr oedd efe yn pwysso ar ei law) ar y porth, a’r bobl ai mathrasant ef yn y porth, felly y bu efe farw megis y llefarase gŵr Duw) yr hwn a ddywedase pan ddaeth y brenin i wared atto ef.
18Felly y bu megis ac y llefarase gŵr Duw wrth y brenin, gan ddywedyd: dau sât o haidd er sicl, a sât o beillied er sicl fydd y prŷd y foru ym mhorth Samaria.
19Ond y tywysog a attebase ŵr Duw, ac a ddywedase, wele pe gwnai yr Arglwydd ffenestri yn y nefoedd, a fydde yn ôl yr ymadrodd hyn? dywedodd yntef, wele ti ai gwell a’th lygaid, ond ni fwyttei di o honaw.
20Ac felly y bu iddo ef: canys y bobl ai sathrâsant ef yn y porth fel y bu efe farw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.