1Yna Eliphaz y Themaniad a attebodd, ac a ddywedodd:
2Pe profem ni gair ŵrthit ti a fydde blîn gennit ti? ond pwy a all attal ymadroddion?
3Wele ti a ddyscaist lawer, ac a siccrheaist ddwylo wedi llaesu.
4Dy ymadroddion di a godasant i fynu yr hwn oedd yn llithro: a thi a nerthaist y gliniau y rhai oeddynt yn cammu.
5Blin gennit ti am ddyfod i ti’n awr: cyffroaist gyffyrddwyd a thi.
6Onid dy ofn di, dy hyder di, dy obaith di, a pherffeithrwydd dy ffyrdd di?
7Cofia atolwg pwy efe’n ddiniwed a gollwyd? a pha lê y torrwyd y rhai iniawn ymmaith?
8Hyd y gwelais i, y rhai a arddent oferedd, ac a hauent flinder, ai medent.
9Gan anadl Duw y difethid hwynt, a chan chwythad ei ffroenau ef y darfyddent hwy.
10Rhuad llew, a llais llewes, a dannedd cenawon llewod a dynnwyd.
11Y llew a fethodd o eisieu sclyfaeth: a chenawon y llew mawr a wascarwyd.
12Ac attafi y dygwyd gair yn ddirgel: am clust a dderbynniodd ychydig o honaw.
13Ym mhlith meddyliau o weledigaethau y nôs: pan syrthio trym-gwsc ar ddynion:
14Ofn a ddaeth arnaf, a dychryn: ac a wnaeth i’m holl escyrn grynu.
15A’r gwynt a aeth heibio o flaen fy wyneb: ac a wnaeth i flew fyng-nhawd sefyll yn hyll.
16Efe a safodd, ac nid adwaenwn ei agwedd ef, drychiolaeth gyferbyn a’m llygaid: ac yn ddistaw mi a glywais y llef
17A fydd dŷn yn gyfiawnach na Duw? a fydd gŵr yn burach nai wneuthur-wr?
18Wele yn ei wasanaeth-wŷr ni chafodd efe ffyddlondab: Iob.15.15.ac yn erbyn ei angelion y gosododd efe ynfydrwydd.
19Pa faint mwy y rhai ydynt yn trigo mewn tai o glai, y rhai ai sail mewn pridd? y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?
20O’r borau hyd hwyr y coethir hwynt, difethir hwynt yn dragywydd heb yn ystyried.
21Onid aeth eu rhagoriaeth hwy gyd a hwynt ymmaith? hwy a fyddant feirw, ac nid mewn doethineb.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
