Ioan 10 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. X.Am y bugail, 7 a’r drws, 13 a’r gwâs cyflog, 19 ymryson yng-hylch Crist, 31 amcanu ei labyddio, 39 a’i ddal.

1Yn wîr yn wîr meddaf i chwi yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy yr drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac yspailiwr yw efe.

2Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy’r drws, yw bugail y defaid.

3I hwn y mae y dryssor yn agoryd, ac y mae yr defaid yn gwrando ar ei lais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain hwy allan.

4Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, efe a aiff o’u blaen hwynt, a’r defaid a’i canlynant ef, am iddynt adnabod ei lais ef.

5A dyn dieithr ni’s canlynant, eithr ciliant oddi wrtho, am nad adwaenant lais y dieithriaid.

6Y ddammeg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt, ond hwy ni wybuant, pa bethau oedd y rhai hyn a ddywedase efe wrthynt.

7Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt eilwaith, yn wir yn wîr meddaf i chwi, myfi yw drws y defaid.

8Cynifer oll, ac a ddaethant o’m blaen i, lladron ac yspail-wŷr ynt, eithr ni wrandawodd y defaid arnynt.

9Myfi yw’r drws, os aiff neb i mewn drwofi, efe a fydd gadwedic: ac efe a aiff i mewn, ac allan, ac a gaiff borfa.

10Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladratta, ac i ladd, ac i ddestruwio, myfi a ddaethym er mwyn cael o honynt fywyd, a’i gael yn helaethach.

11 Esa.40.11. Ezec.34.23.Myfi yw’r bugail da: bugail da a rydd ei enioes dros ei ddefaid.

12Eithr gwâs cyflog, a’r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadel y defaid, ac yn cilio, a’r blaidd sydd yn sclyfio, ac yn tarfu y defaid.

13Y mae y gwâs cyflog yn ffoi, am ei fod yn wâs cyflog, ac heb ofalu am y defaid.

14Myfi yw y bugail da, ac mi a adwen fy mau fi, ac am adwaenir gan fy mau fi, fel yr edwyn y Tad fy fi, felly yr adwaen i y Tâd.

15Ac yr ydwyf fi yn rhoddi fy enioes dros nefaid.

16Y mae gennifi hefyd ddefaid eraill, y rhai nid ynt o’r gorlan hon, rhaid i mi areilio y rhai hynny, a hwy a wrandawant fy llais, Ezec.37.22.ac fe fydd vn gorlan, ac vn bugail.

17Am hynny y mae y Tâd yn fyng-haru i, Phil.2.7.am fy mod i yn dodi fy enioes, fel y cymmerwyf eil-waith hi:

18Nid yw neb yn ei dwyn oddi arnaf, ond ei rhoddi hi yr ydwyfi o honof fy hun: ac y mae i mi feddiant iw rhoddi hi, ac y mae i mi feddiant iw chymmeryd trachefn, Act.2.24.y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan y Tâd.

19Yna y bu eil-waith ymrafael rhwng yr Iddewon am yr ymadroddion hyn.

20A llawer o honynt a ddywedâsant, y mae cythrael ganodo, ac y mae yn ynfydu: pa ham y gwrandewch chwi ef?

21Eraill a ddywedâsant: nid yw y rhain eiriau vn a chythrael ynddo, a all y cythrael agoryd llygaid y deillion?

22Ac yna yr oedd y gyssegr-ŵyl yn Ierusalem, a’r gaiaf oedd hi.

23A’r Iesu a rodie yn y Deml ym mhorth Salomon.

24Am hynny y daeth yr Iddewon yn ei gylch ef, ac y dywedâsant wrtho, pa hyd y peri i ni ammau? os dy di yw Crist, dywet i ni yn eglur.

25A’r Iesu a attebodd: dywedais i chwi, ac nid ydych yn credu y gweithredoedd yr wyfi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhâd, y mae y rhai hyn yn testiolaethu o honofi.

26Ond chwi nid ydych yn credu: canys nid ydych chwi o’m defaid i, fel y dywedais i chwi.

27Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i, a mi a’u hadwaen hwynt, a hwy a’m canlynant i.

28Ac yr ydwyf finne yn rhoddi iddynt fywyd tragywyddol, ac ni chyfyrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt o’m llaw i.

29Fy Nhâd i yr hwn a’u roddes hwynt i mi sydd fwy nâ neb oll: ac ni’s gall neb eu dwyn hwy o law fy Nhâd.

30Myfi a’r Tâd vn ydym.

31Am hynny, y cododd yr Iddewon eilwaith gerrig iw labyddio ef.

32A’r Iesu a attebodd iddynt: llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhâd: am ba vn o’r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio?

33A’r Iddewon a attebasant iddo gan ddywedyd, nid ydym yn dy labyddio am weithred dda, eithr am gabledigaeth: ac am dy fod ti yr hwn wyt ddŷn yn dy wneuthur dy hun yn Dduw.

34A’r Iesu a attebodd iddynt: onid yw yn scrifennedic yn eich deddf chwi? Psal.82.6.mi a ddywedais, duwiau ydych.

35Os galwodd efe hwynt yn dduwiau, at y rhai y daeth gair Duw, ac ni ellir ddatod yr scrythur:

36A ddywedwch chwi mai cablu yr ydwyf fi, (yr hwn a sancteiddiodd y Tad, ac a ddanfonodd i’r byd) am i mi ddywedyd, Mab Duw ydwyf?

37Onid wyfi yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhad, na chredwch i mi.

38Ond os myfi sydd yn gwneuthur, er na chredwch i mi, credwch i’r gweithredoedd: fel y gwybyddoch ac y credoch, fod y Tad ynof fi a minne ynddo yntef.

39Am hynny y ceisiasant ei ddala ef eilwaith, ac efe a aeth allan o’u dwylo hwynt.

40Ac efe a aeth trachefn tros yr Iorddonen i’r lle y buase Ioan yn gyntaf yn bedyddio, ac a arhosodd yno.

41A llawer a ddaethant atto, ac a ddywedâsant: ni wnaeth Ioan ddim gwyrthiau, ond pob peth a’r a ddywedodd efe am hwn, oeddynt wîr.

42A llawer yno a gredâsant ynddo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help