Lefiticus 8 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VIII.Eneiniad Aaron ai feibion.

1Yna y llefarodd yr arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd:

2Cymmer Exo.28.2.Aarō ai feibiō gyd ag ef, a’r gwiscoedd, ac olew’r eneiniad, a bustach ’r aberth tros bechod, a dau hwrdd, a chawell y bara croiw.

3A chasgl di yr holl gynnulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod.

4A gwnaeth Moses fel y gorchymynnodd yr Arglwydd iddo: a chasglodd y gynnulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod.

5A dywedodd Moses wrth y gynnulleidfa dymma y peth yr hwn a orchymynnodd yr Arglwydd ei wneuthur.

6Yna y parodd Moses i Aaron, ac iw feibion nessau: ac efe ai golchodd hwynt mewn dwfr:

7Ac efe a roddes am dano ef y bais, ac ai gwregyssodd ef a gwregys, ac a wiscodd y fantell am dano, ac a roddes yr Ephod am dano, ac ai gwregyssodd a gwregys yr ephod, ac a gaeodd am dano ag ef.

8Ac a osododdy ddwyfronnec am dano, ac a roddes yr Urim a Thummim wrth y ddwyfronnec.

9Ac efe a osododd y meitr ar ei benn ef, ac a osododd ar y meitr ar gyfer ei wyneb ef dalaeth aur y goron sanctaidd, fel y gorchymynnase yr Arglwydd i Moses.

10A Moses a gymmerodd olew’r eneiniad ac a Exod.30.26.irodd y tabernacl, a’r hynn oll a’r ynddo: ac ai cyssegrodd hwynt.

11Ac a daenellodd o honaw ar yr allor saith waith, ac a îrodd yr allor, ai holl lestri, ar noe hefyd, ai throed iw cyssegru.

12Ac efe a dywalltodd o olew’r eneiniad ar benn Aaron, ac ai henneiniodd ef, iw gyssegru.

13Yna y parodd Moses i feibion Aaron nessau, a gwisco peisiau am danynt, a gwregyssodd hwynt a gwregys, ac a osododd gappiau am eu pennau fel y gorchymynnase’r Arglwydd wrth Moses.

14Yna y dug efe fustach yr aberth tros bechod: ac Aaron ai feibion a roddasant eu dwylo ar benn bustach yr aberth tros bechod.

15A Moses lladdodd, ac a gymmerth o’r gwaed, ac ai rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch ai fŷs: ac a burodd yr allor, ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor, ac ai cyssegrodd hi i wneuthur iawn arni.

16Efe hefyd a gymmerodd’r holl wêr, ’r hwn ar y perfedd, a rhwyden yr afi, a’r ddwy aren, ai gwêr, a Moses ai lloscodd ar yr allor.

17A’r bustach, ai groen, ai gig ai fiswel a loscodd efe mewn tân o’r tu allan i’r gwerssyll: fel y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.

18Yna y nessaodd efe hwrdd y poeth offrwm, ac Aaron ai feibion a osodasant eu dwylo ar benn yr hwrdd.

19A Moses lladdodd, ac a daenellod y gwaed ar yr allor o amgylch.

20Ac efe a dorrodd yr hwrdd yn ddarnau a lloscodd Moses y penu, y darnau, a’r gwêr.

21Ond y perfedd a’r traed a olchodd efe mewn dwfr, a lloscodd Moses yr hwrdd oll ar yr allor: poeth offrwm hwn, i yn arogl esmwyth, aberth tanllyd yw i’r Arglwydd: fel y gorchymynnodd yr Arglwydd i Moses.

22Yna y nessaodd efe yr Exod.29.19.ail hwrdd, sef hwrdd y cyssegriadau: ac Aaron ai feibion a osodasant eu dwylo ar benn yr hwrdd.

23A Moses ai lladdodd ac a gymmerodd oi waed, ac ai rhoddes ar gwrr clust ddehau Aaron, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau.

24Moses hefyd a nessaodd feibion Aaron ac a roddes o’r gwaed, ar gwrr eu clust ddehau ac ar fawd eu llaw ddehau, ac ar fawd eu troed dehau: a thaenellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch.

25Ac efe a gymmerodd hefyd Exod.29.22.y gwêr, a’r gloren a’r holl wêr yr hwn ar y perfedd, a rhwyden yr afi, a’r ddwy aren, ai braster hwynt a’r yscwyddoc ddehau.

26A chymmerodd o gawell y bara croiw yr hwn ger bron yr Arglwydd, vn deissen groiw, ac vn deissen o fara olewedic, ac vn afrlladen, ac ai gossododd ar y gwêr, ac ar yr yscwyddoc ddehau:

27Ac a roddes y cwbl ar gledrau dwylo Aaron, ac ar gledrau dwylo eu feibion, ac ai cwhwfanodd hwynt yn offrwm cwhwfan ger bron yr Arglwydd.

28Yna y cymmerth Moses hwynt oddi ar gledrau eu dwylo hwynt, ac ai llosgodd ar yr allor yn offrwm poeth: dymma gyssegriadau o arogl esmwyth, dymma aberth tanllyd i’r Arglwydd.

29Cymmerodd Moses y Exod.29.26.barwyden hefyd, ac ai cwhwfanodd yn offrwm cwhwfan ger bron yr Arglwydd: rhan Moses o hwrdd y cyssegriadau oedd hi, fel y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.

30A chymmerodd Moses o olew’r eneiniad ac o’r gwaed’r hwn ar’r allor, ac a daenellodd ar Aaron ar ei wiscoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wiscoedd ei feibion yng-hyd ag ef: ac efe a gyssegrodd Aaron, ai wisgoedd, ai feibion hefyd, a gwiscoedd ei feibiō yng-hyd ag ef.

31A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, berrwch y cig ddrws pabell y cyfarfod, ac Exod.29.32.yno bwyttewch ef, a’r bara hefyd yr hwn yng-hawell y cyssegriadau, megis y gorchymynnais gan ddywedyd, Aaron ai feibion ai bwyttu ef.

32Ar gweddill o’r cig, ac o’r bara a losgwch mewn tân.

33Ac nac ewch saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cyssegriadau: o herwydd saith niwrnod y bydd efe yn eich cyssegru chwi.

34Megis y gwnaeth efe heddyw: y gorchymynnodd yr Arglwydd wneuthur, i wneuthur iawn drossoch.

35Ac arhoswch, ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod ddydd a nos, a chedwch wiliadwriaeth yr Arglwydd, fel na byddoch feirw: canys fel hyn i’m gorchymynnwyd.

36A gwnaeth Aaron ai feibion yr holl bethau y rhai a orchymynnodd’r Arglwydd trwy law Moses.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help