1A’m llef y gwaeddaf ar Dduw: a’m llef ar Dduw, ac efe a’m gwrendu.
2Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd, fy archoll a redodd liw nôs, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ddiddânu.
3Meddyliwn am Dduw pan i’m cythryblid, gweddiwn, pan derfyscer fy yspryd.Selah.
4Deliaist fy llygaid yn neffro, fe synnodd arnaf, dychrynnais fel nad allwn lefaru.
5[Yna]’r ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hên oesoedd.
6Meddylio yr ydwyf am fyng-hân, y nôs yr ydwyf yn myfyrio wrthif fy hun: fy yspryd sydd yn chwilio
7Ai yn dragywydd y cilia’r Arglwydd? ac oni bydd efe bodlon mwy?
8A ddarfu ei drugaredd ef tros byth? a balla gair ei yn oes oesoedd?
9A anghofiodd Duw drugarhaû, a gaeuodd efe ei drugareddau mewn sorriant? Selah.
10A dywedais, dymma fyng-wendid, flynyddoedd deheu-law y Goruchaf.
11Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd, îe cofiaf dy wyrthiau gynt.
12Myfyriaf hefyd ar dy holl weithredoedd, ac am dy ddychymmygion y chwedleuaf.
13Dy ffordd ô Dduw mewn sancteiddrwydd, pa Dduw fawr â’n Duw
14Ti Dduw ydwyt yn gwneuthur rhyfeddod, yspysaist dy nerth ym mysc y bobloedd.
15Gwarêdaist y bobl yn nerthol, meibion Iacob ac Ioseph.Selah.
16Y dyfroedd a’th welsant ô Dduw, y dyfroedd a’th welsant, a ofnasant: y dyfndêrau hefyd a gynhyrfwyd.
17Y cwmylau a bistyllasant ddwfr, yr wybrennau a roddâsant dwrwf: dy saethau hefyd a gerddâasant.
18Twrf dy daran o amgylch, mellt a oleuâsant y bŷd: cyffrôdd, a chrynodd y ddaiar.
19Dy ffordd yn y môr, a’th lwybrau yn y dyfroedd mawrion: ac nid adweinir dy ôl.
20Tywysaist dy bobl fel defaid, drwy law Moses, ac Aaron.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
