Diharebion 17 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVII.

1Gwell yw tammed o sych, â llonyddwch gyd ag ef: na thŷ yn llawn o aberthau gyd ag ymryson.

2Gwâs synhwyrol a feistrola ar fab gwradwyddûs: ac a ranna’r etifeddiaeth rhwng brodyr.

3Y tawdd llestr sydd i’r arian, a’r bibell i’r aûr, ond yr hwn â brawf y calonnau yw’r Arglwydd.

4Y drygionus a wrendu ar wefus anwir: y celwyddog a rydd glûst i dafod drwg.

5Y Pen.14.31.neb a watwar y tlawd sydd yn gwradwyddo ei greawdr ef: a’r neb a ymddigrifo mewn trallod ni bydd dieuog.

6Coron yr henaf-gwŷr yw eu hwyrion: ac anrhydedd y plant yw eu tadau.

7Anweddaidd yw i ffol ymadrodd rhagorol: mwy o lawer i bendefig ymadrodd celwyddog.

8Maen gwerth-fawr yw anrheg yng-olwg y dŷn ai caro: â pha le bynnac y trô hi a ffynna.

9Y neb a guddia bechod, sydd yn ceisio cariad: ond y neb a adnewydda fai sydd yn nailltuo tywysogion.

10Un senn a ddychryn y call yn fwy na phe baeddit y ffol gan-waith.

11Y dyn terfyscus sydd ai fryd ar ddrwg yn vnic: a chennad greulon a anfonir yn ei erbyn.

12Gwell i ŵr gyfarfod ag arthes wedi difetha ei chenawon, nag a’r ffôl yn ei ffolineb.

13 Rhuf.12.17.|ROM 12:17. 1 Thes.5.15.|1TH 5:15. 1 Pet.3.9 Y neb a dalo ddrwg dros dda, nid ymedû drwg ai dŷ ef.

14Pen y gynnen sydd megis yn agoryd argae: am hynny cyn rhedeg o honi yn rhy bell gad ymmaith ymryson.

15Y neb a gyfiawnhao y drygionus, ac a Esay.5.23.|ISA 5:23. Pen.24.24gondemnio y gwirion: cyn ffiaiddied gan yr Arglwydd y naill ar llall.

16Pa ham y bydd pris yn llaw’r ffol, ac yntef heb galon i berchennogi doethineb.

17Cydymaith a gâr bob amser: ond gwir frawd a ymddengys mewn angen.

18Dŷn heb pwyll a gynnig ei law i fachnio dros ei gymmydog.

19Y neb sydd hoff ganddo ymsennu, sydd hoff ganddo bechod, a’r hwn sydd yn gwneuthur ei ddrws yn vchel sydd yn ceisio niwed.

20Y trawsn ei galon ni chaiff ddaioni: a’r hwn sydd drofaus yn ei dafod a syrth i ddrwg.

21Y neb a genhedlo ffol iddo ei hûn dristwch: ac ni bydd llawen tad yr ynfyd.

22 Pen.15.13. Calon lawen a bar iechyd: ond meddwl trwm a sŷch yr escyrn.

23Yr annuwiol a dderbyn rodd o fynwes, i gamdroi llwybrau barn.

24Doethineb sydd yn wyneb y dehallgar: ond llygaid y ffyliaid drwy gyrrau’r bŷd.

25Mab ffôl a bar ddigllonedd iw dâd: Eccles. 3.14a chwerwder iw fam.

26Hefyd nit da dirwy’r cyfiawn: a baeddû y penaethiaid ar yr iawn.

27Gŵr synhwyrol a attal ei ymadroddion: a gŵr pwyllog sydd ymarhoeûs ei yspryd.

28Y ffôl tra tawo a son a gyfrifir yn ddoeth: a’r neb a gaeo ei wefusau sydd bwyllog.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help