1Lliw nos yn fyng-wely y ceisiais’r hwn a hoffodd fy enaid, ceisiais ef, ac ni’s cefais ef.
2Codaf yn awr, ac âf o amgylch i’r ddinas, trwy’r heolydd a’r strydoedd: ceisiaf yr hwn a hoffodd fy enaid, ceisiais ef, ac ni’s cefais.
3Y gwil-wŷr y rhai aent o amgylch i’r ddinas a’m cawsant: a welsoch chwi yr hwn sydd hoff gan fy enaid?
4Nid aethwn i nepell oddi wrthynt, hyd oni chefais yr hwn sydd hoff gan fy enaid, deliais ef, ac ni’s gollyngaf, hyd oni ddygwyf ef i dŷ fy mam, ac i gell yr hon a’m hymddug.
5Merched Ierusalem, tynghedais chwi trwy iwrchod ac hyddod y maes, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fyng-hariad ymma hyd oni fynno hi ei hun.
6Pwy hon sydd yn dyfod i fynu o’r anialwch, megis colofnau mwg wedi ei phêr aroglu â Myrh, ac â thus phob pêrlysiau yr apothecari.
7Wele wely Salomon, tri vgain o gedyrn oi amgylch ef, o gedyrn Israel,
8Hwynt oll a wiscant gleddyf, a ddyscwyd ryfel, pob vn ai gleddyf ar ei glun rhac ofn liw nôs.
9Gwnaeth y brenin Salomon iddo balas o goed Libanus.
10Ei bŷst ef a wnaeth efe o arian, ei lawr o aur, ei lenni o borphor, ei ganol a balmantwyd â chariad i ferched Ierusalem.
11Ewch allan merched Sion, ac edrychwch ar y brenin Salomon yn y goron a’r hon y coronodd ei fam ef, yn ei ddydd dyweddiwyd ef, ac yn nydd y llawenychodd ei galon ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
