1A’r newyn drwm yn y wlâd.
2Felly y bu pan orphennasant fwytta’r ŷd a ddygasent o’r Aipht ddywedyd oi tâd wrthynt hwy, ewch eilwaith, prynnwch i ni ychydic lyniaeth.
3Yna Iuda a attebodd, gan ddywedyd, gan rybuddio y rhybuddiodd y gŵr ny ni, gan ddywedyd: Genes.42.20.nac edrychwch fy wyneb hêb eich brawd gyd a chwi.
4Os wyt ti yn anfon ein brawd gyd a ni, ni a awn i wared, ac a brynnwn i ti lyniaeth.
5Ond os ti nid anfoni, nid awn i wared, o blegit y gŵr a ddywedodd wrthym ni, Genes.42.20.nac edrychwch fy wyneb heb eich brawd gyd a chwi.
6Yna Israel a ddywedodd, pa ham y drygasoch fi, gan fynegu i’r gŵr i chwi etto frawd.
7Hwythau a attebasant, gan ymofyn yr ymofynnodd y gŵr am danom ni, ac am ein cenhedlaeth ni gan ddywedyd: ai byw eich tâd chwi etto? a oes frawd i chwi? ninne a ddywedasom wrtho ef, ar ol y geiriau hynny: a allem ni gan wybôd, wybôd y dywede efe? dygwch eich brawd i wared.
8Iuda a ddywedodd hefyd wrth ei dad Israel, gollwng y bachgen gŷd a mi, ninneu a gyfodwn, ac a awn ymmaith, fel y byddom byw, ac na byddom feirw: yn gystal nyni, a thithe, a’n plant ni.
9Myfi a feichniaf ef, o’m llaw i y gofynni ef, Genes.44.32.onis dygaf ef attat ti, ai osod ef ger dy fron di, yna y byddaf euog i’th erbyn byth.
10Canys pe na bussem hwyrfrydic daethem eilchwael ymma ddwy waith bellach.
11Yna Israel eu tâd hwynt a ddywedodd wrthynt, Os felly, gwnewch hyn: cymmerwch o ffrwythau canmoladwy y wlad yn eich llestri a dygwch yn anrheg i’r gŵr, ychydic balm, ac ychydic fêl, llysiau, a myrh, cnau, ac almonau.
12Cymerwch hefyd ddau cymmeint o arian gyd a chwi, a dygwch eilwaith gyd a chwi yr arian, y rhai a roddwyd trachefn yng-enau eich sachau chwi: onid odid amryfusedd hynny.
13Hefyd cymmerwch eich brawd, a chyfodwch ewch eilwaith at y gŵr.
14A Duw holl alluog a roddo i chwi drugaredd ger bron y gwr, fel y gollyngo i chwi eich brawd arall, a Beniamin: minne fel i’m diblantwyd a ddiblentir.
15Felly y gwyr a gymmerasant yr anrheg honno, a chymmerasant arian yn ddwbl yn eu llaw hwynt, a Beniamin a chyfodasant, ac aethant i wared i’r Aipht, a safasant, ger bron Ioseph.
16Yna Ioseph a ganfu Beniamin gyd a hwynt, ac a ddywedodd wrth yr hwn ar ei dŷ ef, dŵg y gwyr i’r tŷ a lladd laddfa, ac arlwya: o blegit y gwyr a gânt fwytta gyd a’m fi ar hanner dydd.
17A’r gŵr a wnaeth fel y dywedodd Ioseph: o blegit y gŵr a ddûg y dynion i dŷ Ioseph.
18A’r dynion a ofnasant, pan ddycpwyd hwynt i dŷ Ioseph, ac a ddywedasant, o blegit yr arian (yrhai a roddwyd eilwaith yn êin sachau ni yn y dechreuad) y dycpwyd nyni i mewn: i ymdreiglo arnom ni ac i ruthro inni, ac i’n cymmeryd ni yn gaethion, a’n hassynnod hefyd.
19Yna y nesasant at y gŵr ’r hwn ar dŷ Ioseph, ac a lefarasant wrtho, wrth ddrws y tŷ.
20Ac a ddywedasant arnaf fy arglwydd, gan ddescyn y descynnasom yn y dechreuad Genes.42.3.i brynnu llyniaeth.
21A bu pan ddaethom i’r llettŷ, ac agoryd ein sachau, yna wele arian pob vn ym mîn ei sach ef: ein harian ni yn ei bwys, ond ni ai dygasom eilwaith yn ein llaw.
22Dygasom hefyd arian arall i wared yn ein llaw, i brynnu llyniaeth: nis gwyddom pwy a ossododd ein harian ni yn ein ffettanau.
23Yntef a ddywedodd heddwch iwch: nac ofnwch, eich Duw chwi, a Duw eich tâd chwi, a roddes i chwi dresor yn eich sachau: daeth eich arian chwi attafi, ac efe a ddûg Simeon allan attynt hwy.
24Felly y gŵr a ddûg y dynion i dŷ Ioseph, ac a roddes ddwfr fel y golchent eu traed, ac a roddes ebran iw hassynod hwynt.
25Hwythau a ddarparasant eu hanrheg, erbyn dyfod Ioseph ar hanner dydd: o blegit clywsent mai yno y bwyttaent fwyd.
26Pan ddaeth Ioseph i’r tŷ, hwythau a ddygasant iddo ef yr anrheg yr hon ganddynt i’r tŷ, ac a ymgrymmasant iddo ef hyd lawr.
27Yntef a ofynnodd iddynt am eu hiechyd hwynt, ac a ddywedodd, ai iach yr hen-wr eich tâd chwi, ’r hwn y sonniasoch ai byw efe etto?
28Hwythau a ddywedasant iach yw dy wâs, ein tâd ni, byw efe etto: yna yr ymgrymmasant, ac yr ymostyngasant.
29Yntef a dderchafodd ei lygaid, ac a ganfu ei frawd Beniamin, mâb ei fam ei hun, ac a ddywedodd: ai dymma eich brawd iangaf chwi am yr hwn y dywedasoch wrthif fi? yna y dywedodd, Duw a roddo grâs i ti fy mâb.
30Ar hynny Ioseph a fryssiodd, (o blegit cynhessase ei ymyscaroedd ef tu ag at ei frawd) ac a geisiodd i wylo, ac a aeth i mewn i’r stafell, ac a wylodd yno.
31Gwedi hynny a olchodd ei wyneb, ac a ddaeth allan, ac a ymattaliodd ei hun, ac a ddywedodd gosodwch fwyd.
32Hwythau a osodasant iddo ef wrtho ei hun, ac iddynt hwy wrthynt eu hun ac i’r Aiphtiaid y rhai oeddynt yn bwyta gyd ag ef wrthynt eu hunain: o blegit ni alle’r Aiphtiaid fwytta bwyd gyd a’r Hebreaid, o herwydd ffieidd-dra oedd hynny gan yr Aifftiaid.
33Yna’r eisteddasant ger ei fron ef, y cyntafanedic, yn ol ei gyntafanedigaeth: a’r ieuangaf ar ol ei ieuenctyd ef, a rhyfeddodd y gwŷr bob vn wrth ei gilydd.
34Yntef a gymmerodd seigiau oddi ger ei fron ei hun iddynt hwy, a mwy ydoedd saig Beniamin o bum rhan nai seigiau hwynt oll: felly ’r yfasant, ac y gwleddasant gyd ag ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.