Hebræaid 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.Cyngor i gynnyddu yn ddianwadal, 18 Am fod Duw yn siccr yn ei addewid.

1Am hynny gan roddi heibio yr ymmadrodd sydd yn dechreu rhai yng-Hrist, awn rhagom at berffeithrwydd, ac na ossodwn eil-waith sail edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon, a ffydd tu ag at Dduw.

2[Ac] am athrawiaeth bedyddiadau, a gosodiad dwylo, ac adgyfodiad y meirw, a’r farn dragywyddol.

3A hynny a wnawn ni, os canniadhâ Duw.

4Canys Math.12.31.32.|MAT 12:31,32. 2.pet.2.20.|2PE 2:20. pen.10.26.amhossibl yw i’r rhai a oleuwyd vn-waith, ac a brofasant y rhodd nefol, ac a wnaethbwyd yn gyfrannogion o’r Yspryd glân,

5Ac a brofasant o ddaianus air Duw, a rhinweddau y byd a ddaw:

6Os llwyr-syrthiant, adnewyddu trwy edifeirwch, gan eu bod hwynt drachefn yn croeshoelio iddynt eu hunain Fab Duw, ac yn ei osod ar watwar.

7Canys y ddaiar yr hon a yfo y glaw a fyddo yn mynych ddyfod arni, ac a ddygo lyssiau addas i’r neb drwy y rhai yr ydys yn ei llafurio hi, sydd yn derbyn bendith gan Dduw.

8Eithr yr hon a ddygo ddrain ac yscall, amharchus fydd, a chyfagos i felldith, ai diwedd fydd ei llosci.

9Eithr ô (rai annwyl) yr ydym yn coelio am danoch chwi, bethau sy well nâ hyn, ac yng-lŷn ag iechydwriaeth er ein bod ni yn dywedyd fel hyn.

10Canys nid anghyfiawn yw Duw, fel y gollyngo tros gof eich gwaith a’r llafurus gariad a ddangosasoch tu ag at ei enw ef, y rhai a wasanaethasoch, ac ydych yn gwasanaethu y Sainct.

11Ac yr ydym yn chwennych dangos o bob vn o honoch yr vn fath ddiwydrwydd er mwyn siccrhau gobaith hyd y diwedd.

12Fel na byddoch fuscrell, eithr yn ddilynwyr rhai trwy ffydd, ac ammynedd sy yn meddiannu yr addewidion.

13Canys Duw wrth wneuthur yr addewid i Abraham, lle ni alle efe dyngu i neb a fai fwy, a dyngodd iddo ei hun,

14Gan ddywedyd, Gene.12.2. & 17.4. & 22.17.yn wîr gan fendithio mi a’th fendithiaf, a chan amlhau mi a’th amlhâf

15Ac fell wedi iddo hir ymaros, efe a gafodd yr addewid.

16Canys dynion yn ddiau ydynt yn tyngu i vn mwy, a diwedd pob ymryson ydyw llw iddynt er siccrwyd.

17Yn yr hwn beth Duw yn chwennychu yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid, ddianwadalwch ei gyngor ef, a ymrwymodd trwy lw.

18Megis trwy ddau beth disigl yn y rhai y mae yn amhossibl i Dduw fod yn gelwyddog, y gellem gael cyssur cryf, rhai a ffoasom i gael gafael yn y gobaith rhag-osodedic.

19Yr hwn sydd genym ni megis angor yr enaid yn ddiogel, ac yn siccr, ac yn myned hyd at yr hyn sydd o’r tu fewn i’r llen.

20I’r man yr aeth y rhagflaenor trosom ni Iesu yr hwn a wnaethbwyd y n Arch offeiriad yn dragywyddol ar ôl vrdd Melchi-sedec.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help