1Yn nyddiau Ahasferus: (efe Ahasferus yr hwn oedd yn teyrnasu o India hyd Ethiopia, gant, a saith ar hugain o dalaithau)
2Yn y dyddiau hynny pan eisteddodd y brenin Ahasferus ar orseddfa ei frenhiniaeth yr hon yn Nehem.1.1.Susan y brenhin-lys:
3Yn y drydedd flwyddyn oi deyrnasiad, efe a wnaeth wledd iw holl dywysogion, ai weision: cadernid y Persiaid, a’r Mediaid, y rhaglawiaid, a thywysogion y talaithau ger ei fron ef:
4Fel y dangose efe gyfoeth, gogoniant ei deyrnas, anrhydedd hefyd, phrydferthwch ei fawredd ef ddyddiau lawer, cant a phedwar vgain o ddyddiau.
5A phan gyflawnwyd y dyddiau hynny, y brenin a wnaeth i’r holl bobl a’r a gafwyd yn Susan y brenhin-lys, o’r mwyaf hyd y lleiaf wlêdd saith niwrnod yng-hyntedd gardd palas y brenin,
6[Tann lenni] gwynnion, gwyrddion, a rhuddgochion wedi eu cylymmu a rheffynnau sidan, ac a phorphor mewn modrwyau arian, a cholofnau marmor: gwelâu o aur, ac arian ar balmant o Grissial, a Marmor, Alabaster hefyd, ac Iasinct.
7Yfed diod mewn llestri aur, a chyfnewid amryw lestri: a gwîn brenhinawl lawer yn ôl gallu y brenin.
8Y ddiod hefyd wrth ddefod, nid a gymhelle: canys felly y gosodase y brenin ar bôb mawr ei dŷ ef, sef gwneuthur yn ôl ewyllys pawb.
9Y frenhines Fasthi hefyd a wnaeth wlêdd i’r gwragedd, y brenhin-dŷ yr hwn eiddo Ahasferus y brenin.
10Ar y seithfed dydd pan oedd lawen calon y brenin gan wîn, efe a ddywedodd wrth Mehuman, biztha, Harbona, Bigtha, ac Abagtha, Zethar, a Charcas, y saith stafelludd (y rhai oeddynt yn gweini ger bron y brenin Ahasferus)
11Am gyrchu y frenhines Fasthi o flaen y brenin mewn brenhinawl goron: i ddangos i’r bobloedd, ac i’r tywysogion ei glendid hi, canys têg golwg ydoedd hi.
12Ond y frenhines Fasthi a wrthododd ddyfod wrth air y brenin yr hwn drwy law y stafellyddion: am hynny y llidiodd y brenin yn ddirfawr, ai ddigllonedd ef a enynnodd ynddo.
13Yna y dywedodd y brenin wrth y doethion oeddynt yn gŵybod yr amserau: (canys felly achosion y brenin ger bron yr holl rai a fyddent yn gŵybod cyfraith, a barn)
14A nesaf atto ef Carsena, Sethar, Admatha, Tharsis, Meres, Marsena, Memuran: saith dywysog Persia, a Media y rhat oeddynt yn gwêled wyneb y brenin, yn eistedd yn gyntaf yn y frenhiniaeth,
15Beth sydd iw wneuthur wrth y gyfraith i’r frenhines Fasthi, am na wnaeth hi archedigaeth y brenin Ahasferus drwy law ystafellyddion?
16Yna Memucan a ddywedodd ger bron y brenin, a’r tywysogion: nid yn erbyn y brenin yn vnic y gwnaeth Fasthi y frenhines ar fai: onid yn erbyn yr holl bobloedd y rhai drwy holl dalaithau y brenin Ahasferus.
17Canys gweithred y frenhines a aiff allan at yr holl wragedd, fel y dremygant eu gwŷr yn eu glowg eu hun: pan ddywedant, y brenin Ahasferus a archodd gyrchu Fasthi y frenhines oi flaen ef, ond ni ddaeth hi.
18Arglwyddesau Persia, a Media y rhai a glywsant weithred y frenhines a ddywedant heddyw bellach wrth holl dywysogion y brenin: felly mwy na digon o ddirmig, a digter
19Os bydd bodlon gan y brenin, eled brenhinawl orchymyn oddi wrtho ef, ac scrifenner ef ym mysc cyfreithiau y Persiaid, a’r Mediaid, ac na throssedder ef: am na ddaeth Fasthi ger bron y brenin Ahasferus, am hynny rhodded y brenin ei brenhiniaeth hi iw chyfeilles yr hon sydd well na hi.
20Pan glywer gorchymyn y brenin (yr hwn a wnelo efe) drwy ei holl frenhiniaeth yr hon sydd fawr: yna’r holl wragedd a roddant anrhydedd iw gwŷr, o’r mwyaf, hyd y lleiaf.
21A dâ fu’r peth yng-olwg y brenin, a’r tywysogion: a’r brenin a wnaeth ar ôl gair Memucan.
22Canys efe a anfonodd lythŷrau i holl dalaithau y brenin, îe i bôb talaith yn ôl ei scrifen hi, ac at bôb pobl yn ôl eu tafodiaith eu hun: ar fod pôb gŵr yn arglwyddiaethu yn ei dŷ ei hun, a thraethu yn ôl tafodiaith ei bobl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.