Ezeciel 27 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVII.Pa ddinistr fydde i Tyrus, a pha ogonniant oedd iddi o’r blaen.

1Gair yr Arglwydd a ddaeth attaf trachefn gan ddywedyd:

2Tithe fab dŷn cyfot alar-nad am Tyrus,

3A dywet wrth Tyrus yr hon sydd yn trigo wrth borthfeudd y môr, marchnadyddes y bobloedd mewn ynysoedd lawer, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: Tyrus ti a ddywedaist, myfi ydwyf berffaith o degwch,

4Dy derfynau yng-halon y môr, dy adailadwŷr a berffeithiasant dy degwch.

5A dailadâsant dy holl ystyllod o ffynnidwŷdd allan o Senir, cymmerasant cedr-wŷdd o Libanus i wneuthur hwyl-bren ynot.

6Gweithiâsant rwyfau o dderw o Basan: gwnaethant dy feingciau Ifori pûr o ynysoedd Cittim.

7Lliain main o’r Aipht o symmud-liw oedd dy danfa i fod yn hwyl it: sidan glâs, a phorphor o ynysoedd Elisah oedd dy dô.

8Trigolion Sidon, ac Arfad oeddynt dy rwyf-wŷr: dy ddoethion di Tyrus oeddynt o’th fewn, hwynt dy lywodraeth-wŷr.

9Henuriaid Gebal, ai doethion deddynt ynot yn cadarnhau dy 1.Bren.5.18.rwygiadau, holl longau y môr, ai llong-wŷr oeddynt ynot ti yn marchnatta dy farchnad.

10Y Persiaid, a’r Lydiaid, a’r Phutiaid oeddynt dy ryfelwŷr yn dy luoedd: tarian â helm a grogâsant ynot, hwynt a roddasant it harddwch.

11Meibion Arfad oeddynt gyd âth luoedd ar dy gaerau oddi amgylch, a’r Gammadiaid, ar dy dŷrau: crogasant eu tariannau ar dy garrau oddi amgylch, hwynt a berffeithiasant dy degwch.

12Tharsis dy farchnadyddes o amldra pob golud, am arian, haiarn, alcam, a phlwm y marchnattasant dy ffeiriau.

13Iafan, Tubal, a Mesech hwyntau dy farchnadyddion, marchnattasant dy farchnad am ddynion, a llestri prês.

14[Y rhai] o dŷ Togarma, a farchnattasant dy ffeiriau feirch a malchogion a mûlod.

15Meibion Dedan dy farchnadwŷr ynysoedd lawer farchnadoedd dy law a dalasant gynt, Ifori, ac Hebenus yn werth it.

16Aram dy farchnadudd, o amlder dy weithredoedd, am Garbuncul, porphor, a gwaith, edef a nodwydd, a lliam mein-llin, a chwrel, a gemmau y marchanattasant dy ffeiriau.

17Iuda, a thir Israel, hwythau dy farchnadyddion: marchnattasant dy farchnat, am wenith Minith, a Phanag, a mel, ac olew, a thriacl.

18Damascus oedd dy farchnadudd, am amlder dy waith o liaws pob golud, am wîn Helbon, a gwlân gwynn.

19Dan hefyd, ac Iafan yn cyrwydro yn dy farchnadoedd, a farchnatasant am haiarn wedi ei weithio: yr oedd yn dy farchnad y Cassia, a’r Calamus.

20Dedan oedd dy farchnadudd mewn gwiscoedd gwerth-fawr am gerbydau.

21Yr Arabiaid, a holl dywysogion Cedar hwythau farchnadyddion dy law, am ŵyn, hyrddod, a bŷchod, o’r rhai hynny dy farchnadyddion.

22Marchnadyddion Seba, a Rama, hwythau dy farchnadyddion: marchnattasant dy ffeiriau, am bod pryf bêr-aroglau, ac am bob maen gwerth-fawr, ac aur.

23Haran, a Channe, at Eden, marchnadyddion Seba, a Syria, a Chelmad yn marchnatta thi.

24Dymma dy farchnadyddion, am bethau perffaith, am wiscoedd o sidan glâs, a gwaith edef a nodwydd, ac am gistiau gwiscoedd gwerth-fawr, wedi eu rhwymo â rhaffau: ai gweithio â chedr-wŷdd yng-hylch dy farchnadaeth.

25Llongau Tharsis oeddynt bennaf yn dy farchnad, felly i’th lannwyd, ac y crwnheaist yn odieth yng-hanol y môr.

26Y rhai a’th rwyfâsant, a’th ddugasant i ddyfroedd lawer: gwynt y dwyrain a’th ddrylliodd yng-hanol y môr.

27Dy olud, a’th ffeiriau, dy farchnadaeth, dy for-wŷr, a’th feistred llongau, cadarnhauwyr dy rwygiadau, a marchnadwyr dy farchnad, a’th ryfel-wyr oll, y rhai ynot, a’th holl gynnulleidfa, yr hon yn dy ganol di, a syrthiant yng-hanol y môr ar ddydd dy gwymp di.

28Wrth lêf gwaedd dy feistred llongau, y tonnau a gyffroant.

29Yna pob rhwyf-wr, y mor-wŷr, holl lywyddion y moroedd a ddescynnant oi llongau, ar y tîr y safant.

30Llefant hefyd am danat, a gwaeddant yn chwerw, a chodant lŵch ar eu pennau, ac ymlutrodant mewn lludw.

31Moelant hefyd foelni am danat, ac ymwregysant â sach-liain, ŵylant hefyd am danat chwerw alar mewn chwerw feddwl.

32A chodant am danat ti alar-nad yn eu cwynfan, a galarant am danat pwy fel Tyrus, fel yr hon a dorrwyd yng-hanol y môr?

33Pan ddele dy ffeiriau o’r moroedd, diwallaist bobloedd lawer: ag amlder dy olud, a’th farchnadoedd y cyfoethogaist frenhinoedd y ddaiar.

34Y pryd i’th dorrwyd gan y môr i ddyfnderau y dyfroedd, dy farchnad, a’th holl gynnulleidfa a syrthiasant yn dy ganol.

35Holl bresswyl-wŷr yr ynysoedd, a ryfeddasant am danat, ai brenhinoedd a ddychrynasant ddychryn: a grynasant wynebau.

36Y marchnadyddion ym mysc y bobloedd a chwibanasant am danat, dychryn ydwyt: canys ni bŷth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help