Psalmau 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xij.Saluum me fac Domine.At y pen cerdd ar yr wyth-dant, Psalm Dafydd.

1 Achub Arglwydd, canys darfu y trugarog: o herwydd pallodd y ffyddlonniaid o blith meibion dynnion.

2Ofêredd a ddywedant bôb vn wrth ei gymmydog: â gwefus wenhieithgar: â chalon ddau ddyblyg y llefârant.

3Torred yr Arglwydd yr holl wefusau gwenhieithus, tafod a ddywedo fawrhydry.

4Y rhai a ddywedant, a’n tafod y gorfyddwn: nyni a allwn ddywedyd a fynnom, pwy Arglwydd arnom ni?

5O herwydd anrhaith y rhai cystuddiedic o herwydd vchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr medd yr Arglwydd: rhoddaf mewn iechydwriaeth y magler iddo.

6Geiriau yr Arglwydd eiriau purion, arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seith-waith.

7Ti Arglwydd ai cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd.

8Yr annuwiolion a rodiant o amgylch: pan dderchefir, gwarth i feibion dynnion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help