1A Bu wedi hynny, iddo fyned trwy bob dinas, a thref, gan bregethu, ac efangylu teyrnas Dduw, a’r deuddec gyd ag ef:
2A rhai gwragedd, a’r a iachesid oddi wrth ysprydion drwg a chlefydau, Mair yr hon a elwid Magdalen, Ac Math.13.3. Marc.4.2. wedi i lawer o bobl ymgynnull yng-hyd, a chyrchu atto o bob dinas, efe a ddywedodd ar ddammeg,
5Yr hauwr a aeth allan i hau ei hâd, ac wrth hau peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd, ac a fathrwyd, ac ehediaid y nef a’i bwyttaodd.
6A pheth arall a syrthiodd ar y graig, a phan eginodd y gwywodd, am nad oedd iddo wlybwr.
7Ac arall a syrthiodd ym mysc drain, a’r drain a gyd-tyfasant, ac a’i tagasant ef.
8Ac arall a syrthiodd ar dir da, ac a eginodd ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed: wrth ddywedyd y pethau hyn efe a lefodd: y neb sydd a chlustieu iddo i wrando gwrandawed.
9A’i ddiscyblion a ofynnasant iddo gan ddywedyd: pa ddammeg oedd hon?
10Yntef a ddywedodd: i chwi y rhoddwyd gŵybod dirgeloedd teyrnas Dduw: eithr i eraill ar ddamhegion, fel Esa.6.9. Math.13.14. Marc.4.12. Ioan.12.40. Act.28.16 yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant.
11Ac dymma’r Math.13.18. Marc.4.5.ddammeg, yr hâd yw gair Duw.
12A’r rhai ar ymyl y ffordd ydyw y rhai sy yn gwrando, wedi hynny y mae diafol yn dyfod ac yn dwyn ymmaith y gair o’u calonnau hwynt, rhag iddynt gan gredu fod yn gadwedig.
13Y rhai ar y graig y rhai pan glywant y gair a’i dderbyniant yn llawen: eithr y rhain nid oes ganddynt wreiddin, y rhai ydynt yn credu tros amser, ac yn amser profedigaeth yn cilio.
14A’r hwn a syrthiodd ym mysc drain, yw y rhai a wrandawsant ond wedi iddynt fyned ymmaith hwy a dagwyd gan ofalon, a golud, a meluswedd buchedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth.
15A’r hwn a ar y tîr da, yw y rhai, â chalon rywiog dda, ydynt yn gwrando y gair, ac yn ei gadw, ac ydynt yn ffrwytho trwy amynedd.
16 Luc.11.13. Math.5.15. Marc 4.22. Nid yw neb wedi goleu cannwyll yn ei chuddio hi â llestr neu yn gosod tan wely: eithr yn ei gosod ar ganhwyll-bren, fel y caffo’r rhai a ddel i mewn weled y goleuni.
17 Luc.12.2. Math.10.16. Marc.4.22. Canys nid oes dim dirgel, a’r ni bydd amlwg, na dim cuddiedig, a’r nis gwybydder, ac na ddaw i’r goleu.
18Edrychwch am hynny pa fodd y clywoch: Math.13.12. Marc.4.25. Luc.19.24canys pwy bynnag y mae ganddo i hwnnw y rhoddir: a phwy bynnac nid oes ganddo, yr hyn y mae yn tybied ei fôd ganddo a ddygir oddi arno.
19 Math.12.46. Marc.3.31. Daeth hefyd atto ei fam a’i frodyr, ac ni allent ddyfod yn agos atto gan y dorf.
20A mynegwyd iddo yn ddywedasant, y mae dy fam a’th frodyr yn sefyll allan, yn ewyllysio dy weled.
21Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt: fy mam i a’m brodyr i yw y rhai sy yn gwrando gair Duw, ac yn ei wneuthur.
22A bu Math.8.23. Marc.4.36.ar ryw ddiwrnod fyned o honaw i long gyd â’i ddiscyblion, a dywedyd wrthynt: awn i’r tu hwnt i’r llynn, ac hwy a gychwynnasāt.
23Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd, a chafod o gorwynt a gododd ar y llynn, onid oeddynt yn llawn, ac mewn enbydrwydd.
24Yna yr aethant atto, ac y deffroasant ef gan ddywedyd, ô feistr, ô feistr ddarfu am danom, ac efe wedi ei gyfodi, a geryddodd y gwynt a’r tonnau dwfr: a hwynt a beidisant, a hi a aeth yn dawel.
25Ac efe a ddywedodd wrthynt, pa le y mae eich ffydd chwi? ac ofni a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd y naill wrth y llall: pwy yw hwn, sydd yn gorchymyn y gwynt a’r dwfr, a hwynteu yn vfyddhau iddo?
26Ac Math.8.8. Marc.5.1.hwy a hwyliasant i wlad y Gadareniaid yr hon sydd o’r tu arall ar gyfer Galilæa.
27Ac wedi iddo fyned allan i dîr, y cyfarfu ag ef ryw ŵr o’r ddinas, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid er ys talm o amser, ac ni wisce ddillad, ac nid arhose mewn tŷ, ond yn y monwentydd.
28Hwn pan welodd yr Iesu wedi iddo ddolefain, a ddaeth atto, ac a ddywedodd â llef vchel, beth sydd i mi â thi ô Iesu fab Duw Goruchaf? yr wyf yn attolwg i ti, na’m poenech.
29Canys gorchymynase efe i’r yspryd aflan ddyfod allan o’r dŷn, canys llawer o amserau y cymmerase ef, am hynny y cedwid ef yn rhwym â chadwynau, ac â llyffetheiriau, eithr wedi dryllio y rhwymeu, ef a yrrwyd gan y cythraul i’r dyffaethwch.
30A’r Iesu a ofynnodd iddo gan ddywedyd, beth yw di enw di? yntef a ddywedodd, lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethant iddo ef.
31Ac hwy a ddeisyfiasant arno, na orchymynne iddynt fyned i’r dyfnder.
32Ac yr oedd yno genfaint o foch yn pori ar y mynydd, a hwynt hwy a attolygasant iddo adel iddynt fyned i mewn i’r rhai hynny: ac efe a adawodd iddynt.
33A’r cythreuliaid a aethant allan o’r dŷn, ac a aethant i mewn i’r moch: a’r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i’r llynn, ac a foddwyd.
34A phan welodd y meichiaid yr hyn a ddarfuase, hwynt hwy a ffoasant, ac a aethant, ac a fynegasant yn y ddinas a’r meusydd.
35Yna yr aethant hwy allan i weled yr hwn a wnelsid yn iach, ac a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn o’r hwn yr aethe y cythreuliaid allan, yn ei ddillad a’i iawn bwyll, yn eistedd wrth draed yr Iesu: ac hwy a ofnasant.
36A’r rhai a welsent a fynegasant iddynt, pa fodd yr iachausid y cythreulic.
37A’r holl werin o gylch gwlad y Gadereniaid, a ddymunasant arno fyned ymmaith oddi wrthynt: am eu bod mewn ofn mawr: ac efe wedi myned i’r llong a ddychwelodd.
38A’r gŵr o’r hwn yr aethe y cythreuliaid allā, a ddeisyfiodd arno gael bod gyd ag ef: eithr yr Iesu a’i danfonodd ef ymmaith gā ddywedyd
39Dychwel i’th dŷ, a dangos faint a wnaeth Duw erot, felly yr a aeth efe tann bregethu trwy gwbl o’r ddinas faint a wnaethe’r Iesu iddo.
40A bu pan ddychwelodd yr Iesu trachefn, dderbyn o’r bobl ef, canys yr oedd pawb yn disgwil am dano ef.
41Ac Math.9.18. Marc.5.22.wele daeth gŵr a’i enw Iairus, ac efe oedd lywodraethwr y Synagog, ac efe a syrthiodd wrth draed yr Iesu, ac a attolygodd iddo ddyfod iw dŷ ef:
42O herwydd yr oedd iddo vn ferch yng-hylch deuddeng-mlwydd o oed, yr hon oedd ar farw, ac fel yr oedd efe yn myned, y bobl a’i gwascodd ef.
43A gwraig yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mhlynedd, ac a roese i feddygon gymaint oll a fedde, ni alle gael gan neb ei hiachau,
44Pan ddaeth hi o’r tu cefn iddo ef, hi a gyffyrddodd ag ymmyl ei wisc ef, ac yn y fan y safodd diferlif ei gwaed hi.
45A dywedodd yr Iesu, pwy yw yr hwn a gyffyrddodd â mi? ac a phawb yn gwadu, y dywedodd Petr a’r rhai oedd gyd ag ef, ô feistr y mae’r dorf yn dy wascu, ac yn dy flino, ac a wyt ti yn dywedyd, pwy yw yr hwn a gyffyrddodd â mi?
46A’r Iesu a ddywedodd, rhyw vn a gyffyrddodd â mi: canys mi a wn fyned rhinwedd o honof.
47Pan welodd y wraig nad oedd hi yn guddiedig, hi a ddaeth tann grynu, ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a fynegodd iddo yng-ŵydd yr holl bobl, am ba achos y cyffyrddase hi ag ef, ac modd yr iachausid hi yn ebrwydd.
48Ac yntef a ddywedodd wrthi, cymmer gyssur ferch, dy ffydd a’th iachâodd: dos mewn tangneddyf.
49Ac efe etto yn llefaru, fe a ddaeth vn o dŷ llywodraethwr y Synagog, gan ddywedyd wrtho, bu farw dy ferch, na phoena mo’r Athro.
50A’r Iesu pan glybu hyn, a’i attebodd ef: nac ofna, creda yn vnic a hi a iacheir.
51Wedi ei fyned ef i’r tŷ, ni ollyngodd efe neb i mewn gyd ag ef, ond Petr, ac Iaco, ac Ioan, a thâd a mam y llangces.
52Ac wylo a griddfan am deni yr oeddynt oll, eithr efe a ddywedodd, nac ŵylwch: nid marw hi, eithr cyscu y mae hi.
53A hwynt ai gwatwarasant ef, am iddynt ŵybod ei marw hi.
54Yna y bwriodd efe hwynt oll allan, ac a’i cymmerth hi erbyn ei llaw, ac a lefodd gan ddywedyd, herlodes cyfot.
55A’i hyspryd hi a ddaeth trachefn, a hi a gyfododd yn ebrwydd, ac efe a orchymynnodd roi bwyd iddi.
56A rhyfeddu a wnaeth ei rhieni hi: ac efe a orchymmynnodd na ddywedent i neb y peth a wneithid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.