1Yna ym mhen dwy flynedd lawn y bu i Pharao freuddwydio: ac wele efe yn sefyll wrth yr afon.
2Ac wele yn escyn o’r afon saith wartheg têg yr olwg, a thewon o gig, ac mewn gwyrglodd-dir y porasent.
3Wele hefyd saith o wartheg eraill yn escyn ar eu hol hwynt o’r afon yn ddrwg yr olwg, ac yn gulion o gîg: a safasant yn ymmyl y gwarthec ar lann yr afon.
4A’r gwarthec drwg yr olwg a chulion o gîg a fwyttasant y gwarthec têg yr olwg, a breision: yna y dihunodd Pharao.
5Efe a gyscodd hefyd, ac a freuddwydiodd eil-waith: ac wele saith o dwysennau yn tyfu ar vn gorsen, o breiscion a dâ.
6Wele hefyd saith o dwysennau teneuon, ac wedi eu deifio gan wynt y dwyrein, yn tarddu allan ar eu hol hwynt.
7A’r twysennau teneuon a lyngcasant y saith dwysen fraisc, a llawn: yna y deffroawdd Pharao, ac wele breuddwyd
8Ac yn foreu y darfu iw yspryd gynhyrfu, yna efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aipht, ai holl ddoethion hi: a Pharao a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion: ond nid ai deongle hwynt i Pharao.
9Yna y llefarodd y pen-trulliad wrth Pharao, gan ddywedyd: yr wyf fi yn cofio fy meiau heddyw.
10Llidio a wnaethe Pharao wrth ei wesion, ac efe a’m rhoddes mewn carchar nhŷ y distain, my fi a’r pen-pobydd.
11Yna y breuddwydiasom freuddwyd yn yr vn nos, mi ag ef: breuddwydiasom bob vn ar ol deongliad ei freuddwyd ei hun.
12Ac yno gyd a nyni langc o Hebread, gwâs i’r distain, pan fynegasom iddo ef, yntef a ddeonglodd Genes.40.5. Psal.105.20i ni ein breuddwydion, yn ol breuddwyd pôb vn, y deongliodd efe.
13A darfu fel y deonglodd i ni felly y bu: rhoddwyd fi eilwaith i’m swydd, ac yntef a grogwyd.
14Pharao gan hynny a anfonodd, ac a alwodd am Ioseph: hwytheu ar redec ai cyrchasant ef, o’r carchar: yntef a eilliodd ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharao.
15A Pharao a ddywedodd wrth Ioseph, breuddwydiais freuddwyd, ac nid ai deonglo ef: ond myfi a glywais ddywedyd am danat ti, y gwrandewi freuddwyd iw ddeonglu.
16Yna Ioseph a attebodd Pharao gan ddywedyd: Duw nid my fi a ettyb lwyddiant i Pharao.
17Pharao gan hynny a ddywedodd wrth Ioseph: wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon.
18Ac wele ’n escyn o’r afon saith o wartheg tewon o gîg, a theg yr olwg, ac mewn gwyrglodd-dir y porasent.
19Wele hefyd saith o wartheg eraill yn escyn ar eu hôl hwynt, culion, a thra drwg yr olwg, ac yn druain o gîg: ni welais rai cynddrwg a hwynt yn holl dîr yr Aipht.
20A’r gwarthec culion, a drwg a fwyttasant y saith muwch tewon cyntaf.
21Er eu myned iw boliau, ni wyddyd iddynt fyned iw boliau, canys yr olwg arnynt oedd ddrwg megis yn y dechreuad: yna mi a ddeffroais.
22Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele saith dwysen llawn, a thêg yn cyfodi o’r vn gorsen.
23Ac wele saith dwysen teneuon, meinion, wedi eu deifio ddwyrain-wynt yn tyfu ar eu hol hwynt.
24Yna y twysennau teneuon, a lyngcasant y saith dwysen dêg: a dywedais wrth y dewiniaid, ond nid oedd ai deongle i mi.
25Yna y dywedodd Ioseph wrth Pharao, breuddwyd Pharao sydd vn, yr hyn y mae Duw yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharao.
26Y saith o wartheg têg saith mlynedd hwy: a’r saith dwysen têg, saith mlynedd hwy, vn breuddwyd yw hyn.
27Hefyd y saith muwch culion a drwg y rhai yn escyn ar eu hol hwynt, saith mlynedd hwy: a’r saith dwysen gwag gwedi eu deifio y dwyrain wynt, a fyddant saith mlynedd o newyn.
28Hwn yw y peth yr hwn a ddywedais i wrth Pharao: yr hyn a wna Duw efe ai dangossodd i Pharao.
29Wele saith mlynedd yn dyfod: o amldra mawr trwy holl wlad yr Aipht.
30Ond ar eu hol hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn, fel yr anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aipht: a newyn a ddifetha y wlâd.
31Ac ni wybyddir yr amldra cyntaf trwy y wlâd, o herwydd y newyn hwnnw yr hwn wedi hynny: o blegit trwm iawn ef.
32Hefyd am ddyblu y breuddwyd i Pharao ddwywaith, o blegit siccrhau y peth gan Dduw, a bod Duw yn bryssio iw wneuthur.
33Weithian gan hynny edryched Pharao wr deallgar a doeth, a gossoded ef yn swyddog ar wlâd yr Aipht.
34Gwnaed Pharao hyn, sef gossoded olygwyr ar y wlâd a chymmered bummed ran gwlad yr Aipht tros saith mlynedd yr amldra.
35Yna casglant holl ymborth y blynyddoedd daionus hynny y rhai ydynt ar ddyfod: sef casclant ŷd dan law Pharao, a chadwant mewn dinasoedd.
36A bydded yr ymborth yng-hadw i’r wlâd tros saith mlynedd y newyn, y rhai fyddant yng-wlad yr Aipht, fel na ddifether y wlâd gan y newyn.
37A’r peth oedd dda yng-olwg Pharao ac yng-olwg ei holl weision.
38Yna y dywedodd Pharao wrth ei weision, a gaem ni ŵr fel hwn, yr hwn yspryd Duw yndo.
39Dywedodd Pharao hefyd wrth Ioseph, wedi gwneuthur o Dduw i ti wybod hyn oll, nid deallgar, na doeth neb wrthit ti.
40Ty di a Psal.105.21.|PSA 105:21. 1.Macha.2.53.|1MA 2:53. Act.7.10.oruwchwili fy nhŷ fi, ac ar dy fîn y cusana fy mhobl oll: y deyrn-gader yn vnic y byddaf fwy na thy di.
41Yna y dywedodd Pharao wrth Ioseph, edrych, rhoddais di ar holl wlad yr Aipht.
42A thynnod Pharao ei fodrwy oddi ar ei law, ac ai rhoddes hi ar law Ioseph, ac ai gwiscodd ef mewn gwiscoedd sidan ac a ossododd gadwyn aur ’am ei wddf ef.
43Ac a wnaeth iddo ef farchogeth yn yr ail cerbyd yr hwn iddo ef ei hun: a llefwyd oi flaen ef Abrec: felly y gossodwyd ef ar holl wlad yr Aipht.
44Dywedodd Pharao hefyd wrth Ioseph my fi Pharao: ac hebot ti ni chyfyd gŵr ei law, nai droed trwy holl wlad yr Aipht.
45A Pharao a alwodd henw Ioseph Zaphnath Paaneah, ac a roddes iddo Asnath merch Potiperah offeiriad On yn wraig: yna yr aeth Ioseph allan dros wlad yr Aipht.
46Ac Ioseph fâb deng-mlwydd ar hugain pan safodd ef ger bron Pharao brenin yr Aipht: ac Ioseph aeth allan o wydd Pharao, ac a drammwyodd drwy holl wlad ’r Aipht.
47A’r ddaiar a gnydiodd, tros saith mlyned yr amldra, yn ddyrneidiau.
48Yntef a gasclodd holl ymborth y saith mlynedd y rhai a fuant yng-wlad yr Aipht, ac a roddes ymborth mewn dinasoedd: ymborth maes y ddinas yr hwn oi hamgylch, a roddes ef oi mewn.
49Felly Ioseph a gynnullodd ŷd fel tywod y môr, yn dra lluosoc, hyd oni pheidiodd ai rifo, o blegit heb rifedi.
50Ond cyn dyfod flwyddyn o newyn y Gen.46.20 & 48.5ganwyd i Ioseph ddau fâb, y rhai a ymddûg Asnath merch Potiperah offeiriad On iddo ef.
51Ac Ioseph a alwodd henw y cyntafanedic Manasses: oblegit Duw a wnaeth i mi anghofio fy llafur oll, a thylwyth fy-nhad oll.
52Ac efe a alwodd henw ’r ail Ephraim, oblegit Duw ’am ffrwythlonodd i yngwlad fyng-orthrymder.
53Yna y darfu saith mlynedd yr amldra, y rhai a fuant yng-wlad yr Aipht.
54A’r saith mlynedd newynoc, a ddechreuasant ddyfod fel y dywedase Ioseph: ac yr oedd newyn yn yr holl wledydd: ond yn holl wlad yr Aipht yr ydoedd bara.
55Felly y newynodd holl wlad yr Aipht: ’ar bobl a waeddodd ar Pharao, am fara: a Pharao a ddywedodd wrth yr holl Aiphtiaid, ewch at Ioseph: yr hyn a ddywedo efe wrthych gwnewch.
56Y newyn hefyd ydoedd, ar holl wyneb y ddaiar: Ioseph gan hynny a agorodd yr holl yr hai ynddynt, ac a werthodd ’ir Aiphtiaid: o blegit gorfuase y newyn yng-wlad yr Aipht.
57A’m hynny y daeth holl wledydd yr Aipht at Ioseph i brynnu: o herwydd gorfuase y newyn yn yr holl wledydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.