1Yna y daeth gair Arglwydd y lluoedd gan ddywedyd:
2Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, eiddigeddais eiddigedd mawr dros Sion, ac mewn llid mawr yr eiddigeddais drosti.
3Fel hyn y dywed yr Arglwydd, dychwelaf at Sion, a thrigaf yng-hanol Ierusalem, ac Ierusalem a elwir, dinas y gwirionedd, a mynydd Arglwydd y lluoedd, mynydd sanctaidd.
4Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, hên wŷr, a hên wragedd a eisteddant etto yn heolydd Ierusalem, a’r gŵr ai ffon yn ei law o amlder dyddiau.
5Heolydd y ddinas a lenwir o fechgin, a genethod, yn chware yn ei heolydd.
6Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, os anhawdd yw yn y dyddiau hynny yng-olwg gweddill y bobl hyn: ai anhawdd fydde hefyd yn fyng-olwg innef, medd Arglwydd y lluoedd?
7Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, wele fi yn gwaredu fy mhobl o dîr codiad, ac o dîr machludiad haul.
8A gwnaf iddynt ddyfod fel y presswyliant yng-hanol Ierusalem: a byddant yn bobl i mi, a byddaf iddynt hwythau yn Dduw, mewn gwirionedd ac mewn cyfiawnder.
9Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd cryfhaer eich dwylo chwi y rhai ydych yn clywed (yn y dyddiau hyn) y geiriau hyn o enau y prophwydi (y rhai yn y dydd y sylfaenwyd tŷ Arglwydd y lluoedd) am adailadu y Deml.
10Canys cyn y dyddiau hyn nid oedd tal i ddŷn, na thâl i anifail, na heddwch i’r a ele allan, nac a ddele i mewn gan y gorthrymmwr: o blegit gyrrais ddynion bob vn ym mhen ei gymydog.
11Ond bellach ni fi i weddill y bobl hyn, megis yn y dyddiau cyntaf, medd Arglwydd y lluoedd.
12Canys hâd heddwch, y winwydden a rydd ei ffrwyth, a’r ddaiar, a ddŷd ei chynnyrch, a’r nefoedd a roddant eu gwlith, a pharaf i weddill y bobl hyn etifeddu yr holl bethau hyn.
13A bydd mai megis y buoch chwi tŷ Iuda, a thŷ Israel yn felldith ym mysc y cenhedloedd: felly i’ch gwaredaf chwi, a byddwch yn fendith, nac ofnwch, cryfhaer eich dwylo.
14Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Ezec.18.20.fel yr amcenais eich drygu chwi, pan i’m cyffrôdd eich tadau chwi fi, medd Arglwydd y lluoedd, ac nid arbedais:
15Felly y trois, yr amcenais y dyddiau hyn wneuthur llês i Ierusalem, ac i dŷ Iuda, nac ofnwch.
16Hyn pethau a wnewch chwi, dywedwch y gwîr bawb wrth ei gymydog, a bernwch farn gwirionedd thangneddyf yn eich pyrth.
17Ac na fwriedwch ddrwg neb iw gilydd yn eich calonnau, ac na hoffwch lwon celwyddoc: canys yr holl bethau hyn a gaseais, medd yr Arglwydd y lluoedd.
18A gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth attaf gan ddywedyd:
19Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd: ympryd y pedwerydd ac ympryd y pummed, ac ympryd y seithfed, ac ympryd y decfed a fydd i dŷ Iuda, yn llawenydd a hyfrydwch, ac yn vchel wyliau daionus: gan hynny cerwch wirionedd, a heddwch.
20Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, etto y daw pobloedd, a phresswylwŷr dinasoedd lawer.
21Ac aiff presswylwŷr y naill i’r llall, gan ddywedyd: Esa.2.2. Mic.4.1.awn i fyned i weddio ger bron yr Arglwydd, ac i ymgais ag Arglwydd y lluoedd, minne a ddeuaf hefyd.
22Ie pobloedd lawer, a chenhedlaethau cryfion a ddeuant i geisio Arglwydd y lluoedd yn Ierusalem: ac i weddio ger bron yr Arglwydd.
23Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, yn y dyddiau hynny i ddêc o ddynion o bob tafod-iaith y cenhedloedd, ymafelyd yn ymyl vn Iddew, gan ddywedyd: awn gyd â chwi, canys clywsom Duw gyd â chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.