Diharebion 22 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXII.

1Mwy dymunol Ecclus.7.3.yw enw da, na chyfoeth lawer: a gwell yw grâs nag arian ac nag aur.

2 Pen.29.13. Y tlawd a’r cyfoethog a gyd cyfarfuant: ond yr Arglwydd yw gwneuthydd y rhai hyn oll.

3 Pen.27.12. Y call a genfydd ddrwg, ac a ymgudd: ond y ffyliaid a ânt rhagddynt, ac hwy a gospir.

4Gobr gostyngeiddrwydd, ac ofn yr Arglwydd yw cyfoeth, anrhydedd, a bywyd.

5Drain a maglau ŷnt yn ffordd y cyndyn: y neb a gadwo ei enaid a ffŷ ym mhell oddi wrthynt hwy.

6Hyfforddia fâb ym mhen ei ffordd: a phan heneiddio nid ymedu â hi.

7Y cyfoethog a arglwyddiaetha ar y tlawd: a gwâs fydd yr hwn a gaffo fenthyg i’r gŵr a roddo fenthyg.

8Y neb a hauo anwiredd a feda flinder: ac a balla trwy wialen ei ddigofaint ef.

9 Ecclus.31.23. Yr hael ei lygad a fendithir: canys efe a rydd oi fara i’r tlawd.

10Bwrw allan y gwatwar-wr, a’r gynnen a aiff allan ie’r ymryson, a’r gwarth a dderfydd.

11Y neb a garo lendid calon râs ei wefusau a y brenin yn gydymmaith.

12Llygaid yr Arglwydd a gadwant ŵybodaeth, ac efe a ddinistria eiriau yr anwir.

13Medd y diog, y mae llew oddi allan: fo’m lleddir yng-hanol yr heolydd.

14Ffôs ddyfn yw genau gwragedd dieithr: y neb y byddo’r Arglwydd yn ddig wrtho a syrth iddi.

15Ffolineb sydd yn rhwym yng-halō bachgen: ond gwialen cerydd ai gyrr ymmaith.

16Y neb a wasco ar y tlawd er chwanegu a’r neb a roddo i’r cyfoethog a ddaw i dlodi.

17Gŵyra dy glust, a gwrando eiriau y doethion, a gosot dy galon ar fyng-ŵybodaeth mau fi.

18Canys peth pêraidd yw, os cedwi hwynt yn dy galon: ac os cymhwysir hwynt hefyd yn dy wefusau:

19Fel y byddo dy obaith yn yr Arglwydd yr dangosais i ti heddyw dithe.

20Oni scrifennais i ti ardderchog o gyngor, a gwybodaeth?

21I beri i ti adnabod siccrwydd gwiri eiriau, fel y gallit atteb geiriau y gwirionedd i’r neb a anfonent attat.

22Nac yspeilia mo’r tlawd o herwydd ei fod yn dlawd: ac na sathr yr anghenus mewn barn.

23Canys Pen.23.11.yr Arglwydd a ddadle drostynt, ac a orthrymma enaid y neb ai gorthrymmo hwynt.

24Na fydd gydymmaith i’r digllon: ac na chyd-gerdda â gŵr llidiog:

25Rhag i ti ddyscu ei lwybrau ef, a chael niwed i’th enaid.

26Na fydd vn o’r rhai a roddant eu dwylo, o’r rhai a fachniant am ddylêd.

27Oni bydd gennit i dalu, pa ham y cymmer efe dy welŷ di oddi tanat?

28 Deut.27.17. Pen.23.10 Na symmut mo’r hên derfyn yr hwn a osododd dy dadau.

29A welaist ti ŵr diysceulus yn ei orchwyl? efe a saif ger bron brenhinoedd, ac ni saif ger bron yr issel-radd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help