Esay 58 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. LVIII.Duw yn ceryddu llwgr crefydd, a buchedd y bobl: Ac yn addo trugaredd i’r edifeiriol.

1Llefa a’th gêg, nac ymatal, derchafa dy lais fel vdcorn, a mynega i’m pobl eu camwedd, ai pechod i dŷ Iacob.

2Canys beunydd i’m ceisiant, ac a mynnant wybod fy ffyrdd fel cenhedlaeth yr hon a wnele gyfiawnder, ac ni wrthode farnedigaeth ei Duw: gofynnant i mi farnedigaethau cyfiawnder, ewyllysiant nessau Dduw.

3Pa ham yr ymprydiasom, ac ni’s gwelaist? y cystuddiasom ein henaid, ac ni’s gwybuost? wele yn y dydd yr ymprydioch y cewch wynfyd: ac y mynnwch eich holl ddyledion.

4Wele i ymryson a chynnen yr ymprydiwch, ac i daro â dwrn anwir: nac ymprydiwch fel y dydd gan beri clywed eich llais yn yr vchel.

5Ai fel hyn y bydd yr ympryd yr hwn a ddewisaf? y dydd y cystuddio dyn ei enaid, ai trwy grymmu ei ben fel brwynen, pan dano sach-liain a lludw, ai hyn a elwi yn ympryd, ac yn ddiwrnod bodlon gan yr Arglwydd?

6Onid dymma yr ympryd a ddewisaf, dattod cylymmau anwiredd, tynnu ymmaith feichiau trymmion, a gollwng y rhai gorthymedic yn rhyddion, a thorri o honoch bob rhwym?

7Onid torri dy fara i’r newynoc, a dwyn o honot y cyrwydraid i dŷ? a phan welech noeth, ei ddilladu, ac nad ymguddiech oddi wrth dy gnawd?

8Yna y tyrr dy oleuni allan fel y wawr, dy iechyd a dardda yn fuan, a’th gyfiawnder aiff o’th flaen: gogoniant yr Arglwydd a’th ddilyn.

9Yna y gelwi, a’r Arglwydd a ettyb, y gweiddi, ac efe a ddywed wele fi: os bwri odi wrthit yr iau, estyn bŷs, a dywedyd anwiredd,

10O thosturi di wrth y newynoc, a diwallu yr enaid cystuddiedic, yna dy oleuni a gyfyd mewn tywyllwch, a’th dywyllwch fel hanner dydd.

11A’r Arglwydd a’th arwein yn wastad, ac a ddiwalla dy enaid ar sychder, ac a wna dy escyrn yn freision: a thi a fyddi fell gardd wedi ei dwfrhau, ac megis ffynnon ddwfr yr hon ni phalla ei dwfr.

12[Rhai] o honot ti a adailadant ddiffaethwch tragywyddol, ti a gyfodi sylfeini i lawer cenhedlaeth, a thi a elwir yn gae-wr yr adwy, yn gyweiri-wr llwybrau i gyfanneddu.

13O throi dy droed oddi wrth fy Sabboth wneuthur dy ewyllys ar fy nydd sanctaidd, ai alw yn hyfryd, sanctaidd ogoneddus Sabboth yr Arglwydd, ai anrhydeddu ef heb wneuthur dy ffyrdd, heb geisio dy ewyllys, na dywedyd gair

14Yna yr ymhyfrydi yn yr Arglwydd, ac y gwnaf it farchogaeth ar vchelfeudd y ddaiar, gwnaf hefyd it fwynhau etifeddiaeth Iacob dy dad: canys genau yr Arglwydd a lefarodd

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help