1Ac am y pethau a offrymmer i eulynnod, ni a ŵyddom fod gan bawb o honom ŵybodaeth, gwybodaeth sydd yn chwyddo, a chariad sydd yn adailadu.
2Eithr os yw neb yn tybyed ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr efe etto ddim fel y dyle ŵybod.
3Ond od oes neb yn caru Duw, fe a adweinir hwn ganddo ef.
4Am fwyta yr hyn a aberthir i eulynnodd: ni a ŵyddom nad yw eulyn ddim yn y byd, ac nad oes vn Duw onid vn.
5Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, yn y nef, ac yn y ddaiar (megis y mae duwiau lawer, ac arglwyddi lawer)
6Er hynny, nid oes i ni ond vn Duw, y Tad, o ba vn y mae pob peth, a ninnau ynddo ef: Ioan.13.13. Iso.12.3.ac vn Arglwydd Iesu Grist trwy yr hwn pob peth, a ninnau trwyddo ef.
7Ond nid yw yr ŵybodaeth gan bawb, canys rhai a chanddynt gyd-ŵybod o’r eulyn hyd y pryd hyn, sydd yn bwyta fel peth a aberthwyd i’r eulyn, ar felly gan fod eu cydwybod yn wan yr halogir hi.
8Eithr nid yw bwyd yn ein gwneuthur yn gymmeradwy gan Dduw, canys os bytâwn nid ydym ni ddim helaethach, ac onis bytâwn nid ydym ni ddim prinnach.
9Ond gochelwch rhag i’ch rhydd-did chwi fod yn dramgwydd i’r rhai sy weiniaid.
10Canys os gwêl neb dydi yr hwn wyt â gwybodaeth cennit yn eistedd i fwyta yn nheml yr eulynnod, onid ydys yn cadarnhau ei gydwybod ef, ac yntef yn wan, i fwyta y pethau a aberthwyd i eulynnod?
11 Ruf.14.15. Ac a ddifethir trwy dy wybodaeth di y brawd gwan, tros yr hwn y bu Crist farw?
12Felly trwy bechu yn erbyn y brodyr, a chan guro eu gwan gydwybod hwynt, yr ydych chwi yn pechu yn erbyn Crist.
13 Ruf.14.21. Ac am hynny os fy mrawd a ymrwystra er bwyd, m fwytâf fi gig fyth, rhag i mi beri i’m brawd ymrwystro.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
