2.Thessaloniaid 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Diolch i Dduw y mae am eu ffydd hwy, a’u cariad, a’u dioddefgarwch. 11 Y mae yn gweddio ar chwanegu y cynneddfau hynny. 12 Ac yn dangos pa ffrwyth fydd oddi wrth hynny.

1Paul a Sylfanus, a Thimotheus at eglwys y Thessaloniaid, yn-Nuw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist,

2Grâs i chwi a thangneddyf oddi wrth Dduw ein Tad a’n Harglwydd Iesu Grist.

3 1.Thess.1.2. Diolch a ddylem i Dduw yn oestadol drosoch frodyr, fel y mae yn addas, am fod eich ffydd yn tyfu yn ddirfawr, a bod cariad pob vn o honoch chwi oll yn cynnyddu tu ag eu gilydd.

4Fel yr ydym ninnau yn gorfoleddu o’ch plegit yn eglwysi Duw, o herwydd eich ammynedd a’ch ffydd yn eich holl erlid, a’r cystudd y rhai yr ydych yn eu goddef,

5[Yr hyn] sydd argoel o gyfiawn farn Dduw, Iud.6.fel i’ch cyfrifer yn deilwng i deyrnas Dduw, er mwyn yr hon yr ydych hefyd yn goddef.

6Canys cyfiawn yw gan Dduw, dalu cystudd i’r sawl sydd yn eich cystuddio chwi.

7Ac i chwithau y rhai a gystuddir lonyddwch gyd â ni 1.Thes.4.16.yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o’r nef gyd ag angelion ei nerth,

8Yn dân fflamllyd gan roddi dial i’r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid vfyddhânt i Efengyl ein Harglwydd Iesu Grist.

9Y rhai a ddioddefant yn gospedigaeth ddinistr tragywyddol oddi ger bron yr Arglwydd, ac oddi wrth ogoniant ei gadernid ef.

10Pan ddêl efe iw ogoneddu yn ei sainct, ac iw wneuthur yn rhyfedd yn y rhai oll a gredant, o herwydd credu ein testiolaeth ni tu ag attoch yn y dydd hwnnw.

11Am ba achos yr ydym hefyd yn gweddio yn oestadol trosoch ar fod i’n Duw eich gwneuthur yn deilwng alwedigaeth, a chyflawni pob ewyllys da am ddaioni, a gwaith ffydd yn nerthol,

12Fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu Grist ynoch chwi, a chwithau ynddo yntef, yn ôl grâs ein Duw a’n Harglwydd Iesu Grist

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help