1O deuwch i’r dyfroedd bob vn y mae syched arno, îe yr hwn nid arian ganddo, deuwch, prynwch, a bwyttewch, ie deuwch prynwch wîn, a llaeth heb arian, ac heb werth.
2Pa ham y telwch arian am nid fara? a’ch llafur am nid yn ddigonoldeb? gan wrando gwrandewch arnafi, a bwyttewch yr hyn sydd dda: ac ymhyfryded eich enaid mewn brasder.
3Gogwyddwch eich clustiau, a deuwch attaf; gwrandewch fel y byddo byw eich enaid, ac mi a wnâf gyfammod tragywyddawl â chwi siccr drugareddau Dafydd.
4 Psal.132.11. Wele rhoddais ef yn dyst i’r bobl, yn flaenor, ac yn athro i’r bobloedd.
5Wele cenedl nid adweini a elwi, a chenhedlaeth nid adwaenant ti a redant attat, er mwyn yr Arglwydd dy Dduw, ac o herwydd Sanct Israel: canys efe a’th ogoneddodd.
6Ceisiwch yr Arglwydd tra y caffer ef, gelwch arno tra fyddo yn agos.
7Gadawed y drygionus ei ffordd, a’r gŵr anwir ei amcannion, a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymmer drugaredd arno, ac at ein Duw ni o herwydd y mae efe yn barod iawn i faddeu.
8Canys nid fy amcannion i eich amcannion chwi, ac nid eich ffyrdd chwi fy ffyrdd i medd yr Arglwydd.
9Canys y mae’r nefoedd yn vwch na’r ddaiar, felly vwch yw fy ffyrdd i na’ch ffyrdd chwi, a’m amcannion i na’ch amcannion chwi.
10Canys fel y descyn y glaw, a’r eira o’r nefoedd, ac ni ddychwel yno, eithr dwfrhâ y ddaiar, ac a wna iddi darddu a thyfu fel y rhoddo hâd i’r hau-wr, a bara i’r bwytta-wr:
11Felly y bydd fy-ngair yr hwn a ddaw o’m genau ni ddychwel attaf yn wâg: eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda lle’r anfonwyd ef.
12Canys mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn hedd i’ch arweinir y mynyddoedd a’r brynnau a floeddiant ganu o’ch blaen, a holl goed y maes a gurant ddwylo.
13Yn lle drain y cyfyd ffynid-wydd, yn lle danadl y cyfyd myrt-wydd, a fydd i’r Arglwydd yn enw, ac yn arwydd tragywyddol yr hwn ni thorrir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
