Ecclesiasticus 38 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENN. XXXVIII.Parch y meddig 19 Galar tros y marw. 24 Doethineb y dyscedic.

1Anrhydedda y meddig ag anrhydedd gweddus iddo, am fod yn rhaid wrtho ef: o blegit yr Arglwydd ai creawdd ef.

2Canys oddi wrth y Goruchaf y daeth meddiginiaeth, ac efe a gaiff ogoniant gan y brenin.

3Gwybodaeth y meddig a dderchafa ei ben ef, ac yng-ŵydd gwŷr mawr y perchir ef.

4Yr Arglwydd a greawdd feddiginiaethau o’r ddaiar, ac ni bydd ffiaidd gan wr call hwynt.

5 Exod.15.25. Oni wnaed y dwfr yn beraidd â phren, fel yr adwaene dynion ei rinwedd ef:

6Ac efe a roddes wybodaeth i ddynion i gael eu perchi am ei ryfeddodau ef.

7A’r rhai hynny y mae efe yn meddiginiaethu, ac y tynnu ymmaith boen dŷn.

8A’r rhai hynny y gwna yr apothecari eli er hynny weithieu ni orphen efe ei waith o herwydd oddi wrth yr Arglwydd y daw ffynniant ar wyneb y ddaiar.

9Na ddiystyra fy mab yn dy glefyd, eithr Esa. 38.2.5.gweddia ar yr Arglwydd ac efe ath iachâ di.

10Tro oddiwrth anwiredd, ac iniona dy ddwylo, a glânha dy galō oddi wrth bob pechod.

11Dod bêrarogl a choffadwriaeth o beillied, a dod offrwm brâs fel vn nid yw y rhoddwr cyntaf.

12Dod le i’r meddig o blegit yr Arglwydd ai creawdd ef, nag ymadawed â thi o herwydd fe a fydd rhaid wrtho ef.

13Weithie y mae amser pan fyddo esmwythdra ar eu llaw hwynt.

14Ac hwy a weddiant ar yr Arglwydd ar iddo ef roddi iddynt hwy esmwythora ac iechid i fyw.

15Yr hwn a becha yn erbyn yr hwn ai gwnaeth ef a syrthia yn llaw y meddig.

16Fy mab Pen.22.11.gollwng ddagrau tros y marw, dechre alaru fel pe bait ti yn dioddef anfad niwed, amdôa ei gorph ef fel y byddo gweddaidd iddo ef, ac na ddiystyra ei gladdedigaeth ef.

17Wyla yn chwerw, a gofidia yn dost.

18Ac alara fel y byddo addas iddo ef ddiwrnod ne ddau, rhag cael anair: yna cymmer ddiddanwch o herwydd dy dristwch.

19O blegit Dihar.15.13. & 17.22.o dristwch y daw marwolaeth, a thristwch calon a blyga gryfder.

20Mewn colled yr erys tristwch, a melldith calon yw bywyd y tlawd.

21Na ddod tristwch i’th galon, tro ef ymmaith, meddwl am y diwedd.

22Nac anghofia o herwydd ni ddeuir drachefn, ni elli di ddaioni iddo ef, a thi a elli niwed i ti dy hun.

23Cofia y farn sydd i mi, felly y bydd yr eiddot tithe: i mi ddoe, ac i tithe heddyw.

24Gorphywysed 2.Sam.12.20.coffadwriaeth y marw pan orphywyso yntef, cymmer gyssur am dano ef, gan fyned ei yspryt oddi wrtho ef.

25Doethineb y dyscedic a geir mewn prŷd, ac ennyd: a’r hwn a edrycho ychydig am ei waith ni bydd efe doeth.

26Pa fodd y daw efe i ddoethineb yr hwn sydd yn dal y penffestr, am hoffter am y wialen irai, ac sydd yn gyrru yr ychen ac sydd yn arfer eu gwaith hwynt, ac yn chwedleua am loi:

27Y mae efe yn rhoi ei feddwl ar droi cwysau, ac yn gwilied a’r roddi gwellt ir gwartheg.

28Felly pob saer, a phensaer, yr hwn a weithiant y nos yn gystal a’r dydd, yr hwn a gerfiant gerfiadau sêliau, a fydd astud i wneuthur amryw gerfiadau, ac a rydd ei feddwl ar ddyn­wared portreiadau, ac a fydd ddiwyd i orphen ei waith.

29Felly y gof a eistedd ger llaw yr einion, ac a ystyria ar y gwaith haiarn, angerdd y tân a wna iw gnawd ef ddihoeni ac efe a ymladd a gwrês yr aelwyd.

30Y mae sŵn y morthwyl a’r einion yn dy­fod yn wastad iw glustiau ef, ar wedd y dodrefnyn y mae ei lygaid ef.

31Ei feddwl a rydd efe ar orphen ei waith, ai ofal fydd am ei orphen yn hardd.

32Felly y mae y crochenudd yn eistedd wrth ei waith, ac yn troi y droell ai draed, yr hwn a esyd ar ei waith bob amser yn ofalus, ai holl waith ef fydd tan rif.

33Efe a lunia y clai ai freichiau, ac ai meddalha ef ai draed,

34Efe a esyd ei feddwl ar orphen ei ffyrf ef, ac a fydd ofalus i yscubo yr odyn.

35Y rhai hyn oll ydynt yn ymddyried iw dwylo eu hun, a phob vn a gais fod yn gelfydd yn ei waith.

36Heb y rai hyn anghyfannedd yw dinas, nis cyfanneddir ac nis cynniwerir hi: er hynny ni cheisir hwynt i fod o gyngor y bobl, ac ni dderchefir hwynt yn y gynhulleidfa,

37Nid eisteddant hwy ar orseddfaingc ynadon, ac ni ddehallant gyfammod y gyfraith: nid eglurant gyfiawnder a barn, ac ni ddychymy­gant ddammegion.

38Ni cheir hwynt chwaith mewn dammegion, eithr y maent hwy yn cynnal creaduriaid y bŷd: ai dymuniad yw gwneuthur celfyddyd:

39O ddieithr yr hwn a roddo ei frŷd ai feddwl ar gyfraith y Goruchaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help