Exodus 18 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVIII.Iethro yn dwyn gwraig a phlant Moses atto. 8 Moses yn dangos: Iethro ei chwegrwn ymwared Israel. 10 Iethro yn moliannu ac yn aberthu i Dduw Israel. 19 Moses yn ol cyngor Iethro yn gosod swyddogion tanaw.

1Pan glywodd Exod.1.16.Iethro, offeiriad Midian chwegrwn Moses yr hyn oll a wnaethe Duw i Moses, ac i Israel ei bôbl: a dwyn o’r Arglwydd Israel allan o’r Aipht,

2Yna y cymmerodd Iethro chwegrwn Moses, Sephora gwraig Moses: (wedi ei hebrwng hi

3Ai dau fâb hi: o ba rai henw vn Gershom o blegit efe a ddywedase dieithr ydywyf mewn gwlâd estronol.

4Ac enw y llall Eliezer: o herwydd Duw fy nhâd yn gynnorthwy i mi ac a’m hachubodd rhac cleddyf Pharao.

5A daeth Iethro chwegrwn Moses, at Moses, ai feibion, ai wraig i’r anialwch, lle’r ydoedd efe yn gwerssyllu mynydd Duw.

6Ac efe a ddywedodd wrth Moses, myfi Iethro dy chwegrwn sydd yn dyfod attat: a’th wraig, ac ai dau fâb gyd â hi.

7Yna’r aeth Moses allan i gyfarfod ai chwegrwn, ac a ymgrymmodd, ac ai cussanodd, a chyfarchasant bob vn iw gilydd: a daethant i’r babell.

8Yna Moses a fynegodd iw chwegrwn yr hyn oll a wnaethe’r Arglwydd i Pharao, ac i’r Aiphtiaid er mwyn Israel: a’r holl flinder yr hyn a gawsent a’r y ffordd, ac achub o’r Arglwydd hwynt.

9A llawenychodd Iethro o herwydd yr holl ddaioni a wnaethe’r Arglwydd i Israel: a’m ei waredu ef o law’r Aiphtiaid.

10A dywedodd Iethro, bendigedic yr Arglwydd yr hwn a’ch gwaredodd o law’r Aiphtiaid, ac o law Pharao: yr hwn a waredodd y bôbl oddi tann law’r Aiphtiaid.

11Yn awr y gwn mai mwy ydyw’r Arglwydd na’r holl Dduwiau: Exod.1.10|EXO 1:10 & 16.22.|EXO 16:22. Exod.5.7. Exod.14.18.o blegit yn y peth yr oeddynt falch o honaw arnynt.

12Yna Iethro chwegrwn Moses a gymmerodd boeth offrwm, ac ebyrth i Dduw: a daeth Aaron a holl henuriaid Israel i fwyta bara gyd a chwegrwn Moses ger bron Duw.

13A Moses a eisteddodd drannoeth i farnu y bôbl: a safodd y bôbl gyd a Moses o’r borau hyd yr hwyr.

14A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i’r bobl, efe a ddywedodd. Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i’r bobl? Pa ham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o’r borau hyd yr hwyr?

15A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn: am i’r bóbl ddyfod attaf i ymgynghori a Duw.

16Pan fyddo iddynt achos attafi y deuant, a myfi ydwyf yn barnu rhwng pawb ai gilydd: ac yn ysbyssu deddfau Duw ai gyfreithiau.

17A dywedodd chwegrwn Moses wrtho: nit da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur.

18Llwyr ddeffygi di, a’r bôbl ymma hefyd y rhai ydynt gyd a thi: canys rhy-drwm yw y peth i ti, ni elli ei wneuthur ef dy hun.

19Gwrando ar fy llais i yn awr, mi a’th gynghoraf â bydd Duw gyd a thi: bydd di dros y bôbl ger bron Duw, a dwg di eu hachosion at Dduw.

20Dysc hefyd iddynt y deddfau a’r cyfraithiau: ac hysbysa iddynt y ffordd a rodiant ynddi, a’r gweithredoedd y rhai a wnant.

21Ac edrych dithe allan o’r holl bobl am wŷr nerthol yn ofni Duw, gwŷr geirwir yn cassau cybydd-dod: a gossot arnynt hwy, yn bennaethiaid ar filoedd, yn bennaethiaid ar gantoedd, ac yn bennaethiaid ar ddegau a deugain, ac yn bennaethiaid ar ddegau.

22A barnant hwy y bôbl bob amser, ond dygant bob peth mawr attat ti, a barnant eu hun bob peth bychan: felly yr yscafnhâ di oddi arnat dy hun, a chyd ddygant hwythau a thi.

23Os y peth hynn a wnei ai orchymyn o Dduw i ti, yna ti a elli barhau: a’r holl bobl hyn a ddeuant iw lle yn llwyddiannus.

24A Moses a wrandawodd ar lais ei chwegrwn: ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe.

25Canys Moses a ddewisodd wŷr grymmus allan o holl Israel, ac ai rhoddodd hwynt yn bennaethiaid ar y bobl: yn bennaethiaid ar filoedd, yn bennaethiaid ar gantoedd, yn bennaethiaid ar ddegau a deugain, ac yn bennaethiaid ar ddegau.

26A hwynt a farnasant y bobl bob amser: y peth caled a ddygent at Moses, a phob peth bychan a farnent hwy.

27Wedi hynny Moses a ollyngodd ymmaith ei chwegrwn: ac efe a aeth adref iw wlâd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help