1
33Na cham-gymmerwch, ymadroddion drwg a lygrant foesau da.
34Deffroiwch yn gyfiawn, ac na phechwch, canys y mae rhai ni adwaenant Dduw: er cywilydd i chwi yr wyf yn dywedyd
35Eithr rhyw vn a ddywed: pa fodd y cyfodir y meirw? â pha ryw gorph y deuant?
36Oh ynfyd, y peth yr wyt ti yn ei hau, ni fywheuir oni bydd efe marw.
37A’r peth yr wyt yn ei hau: nid wyt yn hau y corph a fydd, eithr y gronyn noeth, fel y digwyddo o wenith, neu o ryw rawn eraill.
38Eithr Duw a rydd iddo gorph, fel y byddo da ganddo ef, ac i bob hedyn ei gorph ei hun.
39Nid pob cnawd sydd vn rhyw gnawd, eithr vn i ddynion, arall i anifeiliaid, arall i byscod, ac arall i adar.
40Y mae hefyd cyrph nefol, a chyrph daiarol, ond arall yw gogoniant y rhai nefol, ac arall y rhai daiarol.
41Arall gogoniant yr haul, arall gogoniant y lloer, arall gogoniant y sêr: canys y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant.
42Felly y mae adgyfodiad y meirw: y corph a hauir mewn llygredigaeth, ac a gyfodir mewn anllygredigaeth.
43Efe a hauir mewn ammarch, ac a gyfodir mewn gogoniant: efe a hauir mewn gwendid, ac a gyfodir mewn nerth: efe a hauir yn gorph anianol, ac a gyfodir yn gorph ysprydol.
44Y mae corph anianol, ac y mae corph ysprydol.
45Felly y mae yn scrifennedic, y dŷn cyntaf Gen.2.7.Adda a wnaed yn enaid byw, a’r Adda diwethaf yn yspryd yn bywhau.
46Er hynny, nid yr ysprydol sydd yn gyntaf eithr yr anianol, ac wedi hynny yr ysprydol.
47Y dŷn cyntaf o’r ddaiar yn ddaiarol, yr ail dŷn yr Arglwydd o’r nef.
48Fel y mae y daiarol, felly y mae y rhai daiarol: a fel y mae y nefol, felly mae y rhai nefol.
49A megis y dugasom ddelw y daiarol, felly y dygwn ddelw y nefol hefyd.
50Eithr hyn meddaf (ô frodyr) na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw: na llygredigaeth etifeddu anllygredigaeth.
51Wele yr wyf yn dangos i chwi ddirgelwch, ni hunwn ni oll, eithr mewn moment y newidir hi oll, ac ar droad yr amrant wrth yr Math.24.31. 1.thess.4.16.vdcorn diweddaf.
52Canys yr vdcorn a gan, a’r meirw a gyfodir yn anllygredic, a ninnau a newidir.
53O herwydd rhaid i’r llygradwy hwn wisco anllygredigaeth, ac i’r marwol hwn wisco am marwolaeth.
54Felly wedi i’r llygradwy hwn wisco anllygredigaeth, a’r marwol hwn wisco ammarwolaeth, yna y bydd yr ymadrodd yr hwn a scrifennwyd, Esai.25.8.Angeu a lyngcwyd mewn buddygoliaeth.
55 Hose.13.14. O angeu, pa le y mae dy golyn? o vffern pa le mae dy fuddygoliaeth?
56Colyn angeu yw pechod, a grym pechod y gyfraith.
57Ond i Dduw y byddo ’r 1.Ioan.5.5.diolch yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddygoliaeth trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
58Am hynny fy annwyl frodyr byddwch siccr, disigl, ac helaethion yn oestadol yng-waith yr Arglwydd, gan ŵybod nad yw ofer eich llafur yn yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.