Deuteronomium 22 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXII.Yr ymgeledd a ddylem ni ei wneuthur i ddâ ein cymydogion. 5 Ni chaiff gwryw wisco dillad benyw: na benyw ddillad gwryw. 22 Cospedigaeth am odineb.

1Ni chei weled Exod.23.4.eidion dy frawd, neu ei ddafad yn cyfeiliorni, ac ymguddio oddi wrthynt: gan ddychwelyd dychwel hwynt i’th frawd.

2Ac oni dy frawd yn gyfagos attat, neu oni adwaenost ef: yna dwg hwnnw i fewn dy dŷ, a bydded gyd a thi, hyd pan ymofynno dy frawd am dano, yna dyro ef yn ei ôl iddo ef.

3Ac felly y gwnei iw assyn ef, ac felly y gwnei iw ddillad ef, ac felly y gwnei i bôb collbeth i’th frawd, yr hwn a gyll oddi wrtho ef, a thithe yn ei gael: ni elli ymguddio.

4Ni chei weled assyn dy frawd, neu ei ŷch yn gorwedd ar y ffordd, ac ymguddio oddi wrthynt, gan godi cyfot gyd ag ef.

5Na fydded dilledyn gŵr am wraig, ac na wisced gŵr wisc gwraig: o herwydd ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bawb a’r a wnêl hyn.

6Pan ddamweinio nŷth aderyn i’th olwg ar dy ffordd mewn vn pren, neu ar y ddaiar a chywion, neu ag ŵyau a’r fam yn eistedd ar y cywion, neu ar yr ŵyau: na chymmer y fam gyd a’r cywion.

7Gan ollwng ti a ollyngi y fam, a’r cywion a gymmeri i ti: fel y byddo daioni it, ac yr estynnech ddyddiau.

8Pan adailadech dŷ newydd, yna y gwnei di ganllawiau i’th nenn, fel na osodech waed yn dy dŷ, pan syrthio neb o honaw.

9Na haua yn dy winllan amryw rhac it halogi cynnyrch yr hâd yr hwn a hauech, a chnwd y winllan.

10Nac ardd ag ŷch, ac ag assyn ynghyd.

11Na Lefit.19.19.wisc ddilledyn o amryw ddefnydd wlan, a llin yng-hyd.

12 Num.15.31. Plethau a werthi it ar bedwar cwrr dy wisc, yr hon yr ymwiscech ynddi.

13O chymmer gŵr wraig, ac wedi myned atti ei chasau:

14A gosod yn ei herbyn anair, a rhoddi allan enw drwg iddi, a dywedyd: y wraig hon a gymmerais, ac a nesseais atti, ac m chefals ynddi morwyndod.

15Yna cymmcred tâd y llangces, ai mam: a dygant morwyndod y llangces, at henuriaid y ddinas i’r porth.

16A dyweded tâd y llangces wrth yr henuriaid, fy merch a roddais i’r gŵr hwn yn wraig: ai chasau y mae efe.

17Ac wele, efe a ofododd anair, gan ddywedyd: ni chefais yn dy ferch morwyndod, ac fel dymma morwyndod fy merch: yna lledant y dilledyn yngŵydd henuriaid y ddinas.

18Yna henuriaid y ddinas honno, a gymmerant y gŵr, ac ai cospant ef.

19Ac ai dirwyant ef cant o arian, ac ai rhoddant hwynt i dâd y llangces, o achos iddo ddwyn henw drwg ar y forwyn Israel: a bydded hi yn wraig iddo, ni ddichon ei gyrru ymmaith ei holl ddyddiau.

20Ond os gwir fydd y peth hwnnw, na chaffwyd morwyndod yn y llangces:

21Yna y dygant y llangces at ddrws tŷ ei thâd, a dynion ei dinas ai llabyddiant a meini oni byddo hi farw: am iddi wneuthur ffolineb yn Israel, gan butteinio yn nhŷ ei thâd, a thi a ddeleu y drygioni o’th fysc.

22O Lefit.20.20.cheffir gŵr yn gorwedd gyd a gwraig briodol gŵr, byddant feirw ill dau y gŵr yr hwn a orweddodd gyd a’r wraig, a’r wraig felly y deleu y drygioni o Israel.

23O bydd llangces forwyn wedi ei dyweddio i ŵr, a chael o ŵr hi mewn dinas, a gorwedd gyd a hi:

24Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno, ac ai llabyddiwch hwynt a meini fel y byddant feirw: y llangces o blegit na waeddodd, yn y ddinas, ac yntef y gŵr o herwydd iddo ef ddarostwng gwraig ei gymydog: felly ti a ddeleu ymmaith y drygioni o’th fysc.

25Ond os mewn maes y cafodd y gŵr y llangces (wedi ei dyweddio) ai threisio o’r gŵr a gorwedd gyd a hi: yna bydded farw y gŵr yr hwn a orweddodd gyd a hi yn vnic.

26Ond i’r llangces ni chei wneuthur dim, nid yn y llangces bechod y peth hyn.

27O blegit yn y maes y cafodd efe hi: gwaeddodd y llangces wedi ei dyweddio, ac nid achubudd iddi.

28 Exod.22.16. O chaiff gŵr langces o forwyn yr hon heb ei dyweddio, ai dal hi, a gorwedd gyd a hi: ai dala hwynt:

29Yna y rhydd y gŵr a orweddodd gyd a hi i dâd y llangces ddec a deugain o arian: ac iddo y bydd yn lle gwraig, am iddo ei darostwng hi, ni ddichon efe ei gyrru hi ymmaith ei holl ddyddiau.

30Na chymmered neb wraig ei dâd: ac na ddinoethed odre ei dâd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help