1Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Sion, ac sydd yn ymddyried ym mynydd Samaria, y rhai oeddynt enwoc yn nechreuad y cenhedloedd: â thŷ Israel a ddaethant attynt hwy.
2Trammwywch i Chalneh, ac edrychwch, ac ewch oddi yno i Hemath fwyaf, a descynwch i Gath y Philistiaid: ai gwell ydynt na’r teyrnasoedd hyn? ai helaethach eu terfyn hwynt na’ch terfyn chwi?
3Y rhai ydych yn pellhau y dydd drwg, ac yn nesau eisteddle crais.
4Gorwedd y maent ar welau Ifori, ac yn ymestyn ar eu gwâl, ac yn bwytâ yr ŵyn o’r praidd, a’r lloi o ganol y cytt.
5Y rhai a ddatcanant gyd â llais y nablau dychymygasāt iddynt eu hun offer cerdd megis Dafydd.
6Y rhai a yfant win mewn phiolau, ac a ymîrant a’r olew pennaf, ac nid ymofidiasant am ddryllio Ioseph.
7Am hynny’r awr hon hwynt a ddygir yn gaeth gyd a’r cyntaf a ddygir yn gaeth: a galar y rhai a ymestynnant a nessâ.
8 Iere.51.14. Tyngodd yr Arglwydd Dduw iw enaid ei hûn, ffiaidd gennifi draha Iacob, a chaseais ei balasau, a mi a roddaf i fynu y ddinas ac sydd ynddi, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.
9A bydd os gweddillir mewn vn tŷ ddêc o ddynnion y byddant feirw.
10Ei ewythr ai cyfyd i fynu, ac ai llŷsc, i ddwyn yr escyrn allan o’r tŷ, ac a ddywed wrth yr hwn a fyddo wrth ystlysau y tŷ, a oes neb gyd â thi? ac efe a ddywed, nac a dywed yntef, taw, am na coffau enw’r Arglwydd.
11O herwydd wele’r Arglwydd yn gorchymyn, ac efe a deru y tŷ mawr â defni, a’r tŷ bychan â holltau.
12A rêd meirch ar y graig? Amos.5.7.a ardd ag ychen? canys troesoch farn yn fustl, a ffrwyth * cyfiawnder yn wermod.
13Llawenychu’r ydych heb achos gan ddywedyd: o’n nerth ein hun y cymmerasom i ni gryfder.
14Ond wele mi a gyfodaf i’ch erbyn chwi tŷ Israel medd Arglwydd Dduw y lluoedd genhedlaeth, ac hwynt a’ch gwascant chwi, o’r ffordd yr ewch chwi i Hemath hyd afon y diffaethwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
