1 (Ac hi a safodd ar dywod y môr. ) Ac mi a welais fwystfil yn codi o’r môr, a saith ben ganddo, a dêc corn, ac ar ei gyrn ef ddêc coron, ac ar ei bennau ef henw cabledd.
2A’r bwystfil yr hwn a welais i oedd debyg i lewpard, a’i draed yn debyg i draed arth, a’i safn yn debyg i safn llew, a’r ddraig a roddodd iddo ef ei gallu a’i gorsedd-faingc, ac awdurdod mawr.
3Ac mi a welais vn o’i bennau ef megis wedi ei ladd yn farw, a’i glwyf marwol ef a iachawyd, a’r holl fŷd a ryfeddodd ar ôl y bwystfil.
4A hwy a addolasant y ddraig yr hon a roes allu i’r bwyst-fil, ac a addolasant y bwyst-fil, gan ddywedyd, pwy sydd debyg i’r bwyst-fil? pwy a ddichon ryfela ag ef?
5A genau a roddwyd iddo ef i ddywedyd mawr eiriau, a chabledd, ac awdurdod a roddwyd iddo ef, i weithio ddau fis a deugain.
6Ac efe a agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei henw ef, a’i dabernacl a’r rhai trigadwy yn y nêf.
7A rhoddwyd hefyd iddo ef ryfela â’r sainct, a’u gorchfygu hwynt, a rhoddwyd iddo ef awdurdod ar bôb llwyth, ac iaith, a chenedl.
8A holl drigolion y ddaiar a’i haddolant ef, y rhai nid yw eu henwau yn scrifennedig yn llyfr bywyd yr Oen, yr hwn a laddwyd er dechreuad y byd.
9Y neb sydd â chlûst ganddo, gwrandawed.
10Os tywys nêb i gaethiwed, efe a aiff i gaethiwed, o’s llâdd nêb â chleddyf, Gen.13.10.|GEN 13:10. Math. 26.1.â chleddyf y lleddir yntef: dymma amynedd, a ffydd y sainct.
11Ac mi a welais fwyst-fil arall yn codi o’r ddaiar, a dau gorn oedd ganddo yn debyg i oen, ond yr oedd yn dywedyd fel draig.
12Ac efe a wnaech yr hyn a alle y bwyst-fil cyntaf oll o’i flaen ef, ac efe a wnaeth i’r ddaiar, ac i’r rhai oeddent yn trigo ynddi, addoli y bwyst-fil cyntaf, yr hwn yr iachausid ei glwyf marwolaethus.
13Ac efe a wnaeth ryfeddodau mawrion, yn gymmeint ag y pare efe i dân ddescyn o’r nêf i’r ddaiar, yng-olwg dynion.
14Ac efe a dwyllodd drigolion y ddaiar gan yr arwyddion y rhai a ddioddefwyd iddo ef eu gwneuthur ger bron y bwyst-fil, gan ddywedyd wrth drigolion y ddaiar, am iddynt wneuthur delw y bwyst-fil, yr hwn a glwyfwyd â chleddyf, ac a aeth yn fyw.
15Cyniatawyd hefyd iddo ef roddi anadl i ddelw y bwyst-fil, fel y galle delw y bwyst-fil lefaru, a pheri llâdd cynnifer vn nad addole ddelw y bwyst-fil.
16Ac efe a wnaeth i bawb, bychain a mawr, cyfoethogion a thlodion, rhyddion a chaethion, dderbyn nôd yn eu dwylo dehau, neu yn eu talcennau,
17Ac na alle nêb na phrynnu na gwerthu, ond yr hwn a gymmere nôd, neu henw y bwystfil, neu rif ei henw ef.
18Dymma doethineb, y sawl sydd ganddo synnwyr, cyfrifed rîf y bwyst-fil, canys rhif dŷn ydyw, a’i rif ydyw chwe-chant, a chwech a thrugain.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.