Ezeciel 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.1 Arwyddocâd hir warche ar Ierusalem. 9. Hîr barhâd ar gaethiwed Israel. 16 Newyn mawr yn Ierusalem.

1Tithe fab dŷn cymmer it bridd-lech, a dôd ti y hi o’th flaen, a llunia arni ddinas Ierusalem.

2A gwarche di yn ei herbyn hi, ac adailada wrthi gastell, a bwrw oi hamgylch hi glawdd: dôd hefyd werssylloedd wrthi, a gosot offer ryfel yn ei herbyn o amgylch.

3Cymmer di it hefyd badell haiarn, a dôd hi yn fûr haiarn rhyngot ti a’r ddinas, cyfeiria dy wyneb atti, bydd hefyd mewn gwarchaedigaeth, a gwarche di arni: arwydd fydd hyn i dŷ Israel.

4Gorwedd di hefyd ar dy ystlys asswy, a gosot anwiredd tŷ Israel arno ef, rifedi y dyddiau y rhai y gorweddech arno y dygi eu hanwiredd hwynt.

5Canys rhoddais it flynyddoedd eu hanwiredd hwynt dan rifedi dyddiau, trychan nhiwrnod a dêc a phedwar vgain: felly y dygi anwiredd tŷ Israel.

6Pan orphennech hynny, yna gorwedd ailwaith ar dy ystlys dehau, fel y dygech anwiredd tŷ Iuda ddeugain nhiwrnod: pob diwrnod a’m flwyddyn y rhoddais hynny it.

7A chyfeiria dy wyneb at warchaedigaeth Ierusalem, a’th fraich yn noeth: felly y prophwydi yn ei herbyn hi.

8Wele hefyd rhoddais rwymau arnat, fel na throech o ystlys i ystlys: nes gorphen o honot ddyddiau dy warchaedigaeth.

9Cymmer it hefyd wenith, a haidd, a ffa, a ffacbys, a miled, a chor-bys, a dod ti hwynt mewn vn llestr, a gwn a hwynt i ti yn fara, rifedi y dyddiau y rhai y gorweddech ar dy ystlys, try-chan nhiwrnod, a dêc a phedwar vgain y bwyttei hynny.

10A’th fwyd yr hwn a fwyttei wrth bwys vgain sicl yn y dydd y bwyttei ef, o amser hyd amser.

11Y dwfr hefyd a yfi mewn mesur, chweched Exod.29.40.Hin a yfi, o amser hyd amser.

12Ac fel teisen haidd y bwyttei hynny, crêsi hi hefyd wrth dail tom dyn yn eu gŵydd hwynt.

13A dywedodd yr Arglwydd, felly y bwyttu meibion Israel eu bara halogedic ym mysc y cenhedloedd, y rhai y gyrraf hwynt attynt.

14Yna y dywedais, ti Arglwydd Dduw, wele ni halogwyd fy enaid, ac ni fwytteais furgin neu sclyfaeth o’m hieuengtiid etto: ac ni ddaeth i’m safn gîg ffiaidd.

15Yntef a ddywedodd wrthif, roddais it fiswel gwarthec yn lle tail dŷn, ac â hwynt y gwnei dy fara.

16Dywedodd hefyd wrthif, mab dyn, wele fi yn torri Esa 3.1.|ISA 3:1. Ezec.5.17. Ezec.14.13.ffon y bara yn Ierusalem, fel y bwyttânt fara tann bwys, ac mewn gofal, ac yr yfant ddwfr dan fesur, ac mewn synder.

17Fel y byddo arnynt eisieu bara, a dwfr, ac y rhyfeddant vn, ac arall, canys toddant yn eu hanwiredd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help