1Yn ôl hynny yr aeth Tobias ymmaith, gan foliannu Duw (o achos iddo lwyddo ei daith ef) ac efe a fendithiodd Raguel, ac Edna ei wraig. Ac yna efe a gerddodd rhagddo, oni ddaethant yn agos i Ninife.
2Yna Raphael a ddywedodd wrth Tobias, ti a ŵyddost fy mrawd pa fodd y gadewaist dy dad.
3Brysiwn o flaen dy wraig a threfnwn y tî.
4A chymmer yn dy law fustl y pyscodyn, ac felly yr aethant, a’r cî ai canlynodd hwynt.
5Ac Anna oedd yn eistedd, ac yn disgwil am ei mab ar y ffordd.
6Ac ai adnabu ef yn dyfod, ac a ddywedodd wrth ei dad ef. Wele dy fab di yn dyfod, a’r gŵr a aeth gyd ag ef.
7Yna y dywedodd Raphael, mi a wn Tobias, y caiff dy dâd ei olwg.
8Am hynny ira ei lygaid ef â’r bustl, a phan ferwinant efe ai crafa hwynt, ac a fwrw yr huchen ymmaith, ac a’th wêl di.
9Yna y rhedodd Anna allan, ac hi a syrthiodd ar wddf ei mab, gan dywedyd wrtho, mi a’th welais fy mab, ac weithian bodlon ydwyf i farw, ac hwy a wŷlasant ill dau.
10Tobit hefyd a aeth allan i’r drws, ac a syrthiodd, ai fab a redodd atto,
11Ac a ymaflodd yn ei dad, ac a daenellodd beth o’r bustl ar lygaid ei dad, gan ddywedyd, bydd gyssurus fy nhad.
12Ac wedi iw lygaid ddechreu merwîno, efe ai dwys rwbbiodd hwynt,
13A’r rhuchen a ddirisclodd ymmaith oddi wrth gilieu ei lygaid ef, ac wedi iddo weled ei fab, efe a syrchiodd ar ei wddf ef,
14Ac a ŵylodd gan ddywedyd, bendigedic wyt ô Dduw, a bendigedic yw dy enw yn dragywydd, dy holl angelion sanctaidd ydynt fendigedic.
15Canys ti a’m ffrewyllaist, ac a dosturiaist wrthif, wele fi yn gweled fy mab Tobias: yna yr aeth ei fab ef i mewn yn llawen, ac a ddangosodd iw dâd y mawr bethau a ddigwyddasent ym Media.
16Yna ’r aeth Tobit allan i gyfwrdd ai waudd hyd ym mhorth Ninife, gan ymlawenhau a moliannu Duw: a rhyfedd oedd gan y rhai oeddynt yn edrych arno ef yn myned, am ei fod yn gweled.
17Ac Tobit a destiolaethodd yn eu gŵydd hwynt oll, ddarfod i Dduw dosturio wrtho, ac wedi, iddo nesau at Sarra ei waudd, efe ai bendithiodd hi gan ddywedyd, croeso wrthit fy merch: bendigaid fyddo Duw yr hwn a’th ddug di attom ni, a bendigedic fyddo dy dâd a’th fam: a llawenydd mawr oedd ym mysc ei holl frodyr ef, y rhai oeddynt yn Ninife.
18Ac Achiacharus a ddaeth yno, a Nasbas ei nai ef fab ei frawd.
19A neithior Tobias a gadwyd mewn llawenydd mawr saith niwrnod.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
