Genesis 28 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVIII.Isaac yn gwahardd i Iacob briodi yn o’r Canaaneaid. 6 Esau yn cymmeryd y drydedd wraig o blith yr Ismaeliaid. 12 Iacob yn gweled yscal yn cyredd i’r nef. 13 Duw yn addo i Iacob wlâd Canaan, a’r fendith yng-Hrist. 20 Adduned Iacob.

1Yna y galwodd Isaac ar Iacob, ac ai bendithiodd ef, efe a orchymynnodd iddo hefyd, ac a ddywedodd wrtho, na chymmer di wraig o ferched Canaan.

2Cyfot Oze.12.12.|HOS 12:12. Genes.24.20dos i Mesopotamia i dŷ Bethuel tâd dy fam, a chymmer it wraig oddi yno o ferched Laban brawd dy fam.

3A Duw holl alluoc a’th fendithio, ac a’th ffrwythlono, ac a’th luosogo, fel y byddech di yn gynnulleidfa pobloedd,

4Ac a roddo i ti fendith Abraham, i ti ac i’th hâd gyd a thi, i etifeddu o honot ti dir dy ymdaith, yr hwn a roddodd Duw i Abraham.

5Felly Isaac a anfonodd ymmaith Iacob, ac efe a aeth i Mesopotamia, at Laban fâb Bethuel y Syriad brawd Rebecca, mam Iacob ac Esau.

6Pan welodd Esau fendithio o Isaac Iacob, ai anfon ef i Mesopotamia, i gymmeryd iddo ef wraig oddi yno, a gorchymyn iddo wrth ei fendithio gan ddywedyd: na chymmer wraig o ferched Canaan,

7A gwrando o Iacob ar ei dad, ac ar ei fam, ai fyned i Mesopotamia:

8Yna y gwelodd Esau mai drwg oedd merched Canaan yng-olwg Isaac ei dad ef.

9Ac Esau a aeth at Ismael, ac a gymmerodd Mahalath merch Ismael mab Abraham, chwaer Nabaioth yn wraig iddo at ei wragedd

10Ac Iacob a aeth allan o Beer-seba ac a aeth tua Haran.

11Ac a ddaeth drwy ddamwain i fangre, ac a letteuodd yno: oblegit machludo’r haul, ac efe a gymmerth o gerric y lle hwnnw, ac a ossododd tann ei benn, ac a gyscodd yn y fan honno.

12Yna y breuddwydiodd, ac wele yscal yn sefyll ar y ddaiar, ai phenn yn cyrhaeddyd i’r nefoedd: ac wele angylion Duw yn dringo, ac yn descyn ar hyd ddi.

13Ac Genes.35.1.|GEN 31:5. Genes.48.3.wele yr Arglwydd yn sefyll arni hi, ac efe a ddywedodd myfi Arglwydd Dduw Abraham dy dâd, a Duw Isaac, i ti ac i’th hâd y rhoddaf y tîr yr hwn yr ydwyt ti yn gorwedd arno.

14A’th hâd ti fydd fell llŵch y ddaiar, Deut.12.20.a thi a dorri allan i’r gorllewyn, ac i’r dwyrein, ac i’r gogledd, ac i’r dehau: a Genes.18.18.|GEN 18:18. Genes.22.18.|GEN 22:18. Genes.26.4holl deuluoedd y ddaiar a fendithir ynot ti, sef yn dy hâd di.

15Ac wele mi gyd a thi, ac a’th gadwaf pa le bynnac yr elech, ac a’th ddygaf trachefn i’r wlad honn: o herwydd ni’th adawaf hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthit.

16Yna y ddeffroawdd Iacob oi gwsc, ac a ddywedodd, diau fod Duw yn y lle hwn, ac nis gwyddwn.

17Ac efe a ofnodd, ac a ddywedodd, morr ofnadwy yw yr lle hwn? nid ymma onid tŷ i Dduw, a dymma borth y nefoedd,

18Ac Iacob a gyfododd yn foreu, ac a gymmerth y garrec yr hon a ossodase efe tann ei benn, ac ai gosododd hi yn ei sefyll, ac a dywaltodd olew ar ei phenn:

19Ac efe a alwodd henw y lle hwnnw Bethel, ond er hynny Luz henw y ddinas o’r cyntaf.

20Yna yr addunodd Iacob adduned gan ddywedyd: os Duw fydd gyd a’m fi, ac a’m ceidw yn y ffordd ymma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdded, a rhoddi i mi fara iw fwytta, a dillad i wisco:

21A dychwelyd o honof mewn heddwch i dŷ fy nhâd: yna y bydd yr Arglwydd yn Dduw i mi.

22A’r garrec ymma yr hon a ossodais yn ei sefyll a fydd yn dŷ Duw, ac o’r hyn oll a roddech i mi, gan ddegymmu mi ai degymmaf ef i ti.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help