1A gwŷr Ephraim a ymgasclasant, ac a aethant tua’r gogledd: ac a ddywedasant wrth Iephthah, pa ham yr aethost ti drosodd i ymladd yn erbyn meibion Ammō, ac na elwaist arnom ni i fyned gyd a thi? dy dŷ di a loscwn ni am dy ben di a thân.
2Ac Iephthah a ddywedodd wrthynt hwy, myfi mi a’m pobl oeddem yn ymryson yn dôst yn erbyn meibion Ammon: ac mi a’ch gelwais chwi, ond ni waredasoch fi oi llaw hwynt.
3Felly welais i nad oeddech yn fy achub, yna y gosodais fy enioes ar fy llaw: ac yr euthym yn erbyn meibion Ammon, a’r Arglwydd ai rhoddodd hwynt yn fy llaw i: i ba beth gan hynny y daethoch i fynu attafi y dydd hwn i ymladd i’m herbyn?
4Yna Iephthah a gasclodd holl wŷr Gilead, ac a ymladdodd ag Ephraim: a gwŷr Gilead a darawsant yr Ephraimiaid, am ddywedyd o honynt hwy ffoaduriaid Ephraim ym mysc yr Ephraimiaid ym mysc Manasses chwi y Gileadiaid.
5A’r Gileadiaid a ennillasant rydau’r Iorddonen o flaen yr Ephraimiaid, a phan ddywede Ephraimiaid a ddiangasent, gedwch i mi fyned trwodd, yna gwŷr Gilead a ddywedent wrtho, ai Ephratead ti? a dywede yntef nage.
6Yna y dywedent wrtho, dywet yn awr Schibboleth, dywede yntef Sibboleth, canys ni fedre efe lefaru felly, yna y dalient ef, ac y lladdent ef wrth rydau’r Iorddonen: a chwympodd y pryd hynny o Ephraim ddwy fil a deugain
7Ac Iephthah a farnodd Israel chwe blynedd: yna y bu farw Iephtha y Gileadiad, ac efe a gladdwyd yn o ddinasoedd Gilead.
8Ac ar ei ôl ef Ibsan o Bethlehem a farnodd Israel.
9Ac iddo ef yr oedd deng-mab ar hugain a deng-mherched ar hugain a anfonodd efe allan, a deng-mherched ar hugain a ddûg efe iw feibion oddiallan: ac efe a farnodd Israel saith mlynedd.
10Yna y bu farw Ibsan, ac y claddwyd ef yn Bethlehem.
11Ac ar ei ôl ef Elon y Zabuloniad a farnodd Israel, ac efe a farnodd Israel ddeng-mlhynedd.
12Yna Elon y Zabuloniad a fu farw: ac efe a gladdwyd yn Aialon yng-wlâd Zabulon.
13Ac Abdon mab Hilel y Parathoniad a farnodd Israel ar ei ôl ef.
14Ac iddo ef yr oedd deugain o feibion, a dec ar hugain o ŵyrion yn marchogeth ar ddec a thrugain o ebolion assynnod: ac efe a farnodd Israel wyth mlynedd.
15Yna Abdon mab Hilel y Parathoniad a fu farw: ac efe a gladdwyd yn Pirathon yng-wlad Ephraim, ym mynydd yr Amaleciaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
