Genesis 21 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXI.2 Ganedigaeth Isaac, ai enwaediad. 9 Bwriad Agar o dy Abraham am i Ismael watwar Isaac. 17 Yr angel yn cyssuro Agar. 22 Cyngrair rhwng Abraham, ac Abimelec.

1A’r Arglwydd a ymwelodd a Sara fel y dywedase, a gwnaeth yr Arglwydd i Sara fel y llefarase.

2O herwydd Sara a Genes.17.19.|GEN 17:19. Genes.18.10.|GEN 18:10. Act.7.8.|ACT 7:8. Gal.4.23.|GAL 4:23. Hebr.11.11.feichiogodd, ac a ymddug i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedic yr hwn a ddywedase Duw wrtho ef.

3Ac Abraham a alwodd henw ei fab (yr hwn a anesyd iddo, (yr hwn a ymddugase Sara iddo ef) Isaac.

4Ac Abraham a enwaedodd Isaac ei fâb yn wyth niwrnod oed: Genes.17.12.fel y gorchymynase Duw iddo ef.

5Ac Abraham fab can mlwydd pan anwyd iddo ef Isaac ei fâb.

6Yna y dywedodd Sara: gwnaeth Duw i mi chwerthyn, pob vn a glywo a chwardd gyd a mi.

7Hi a ddywedodd hefyd, pwy a ddywedase i Abraham y rhoddase Sara sugyn i blant? canys mi a escorais fab yn ei henaint ef.

8A’r bachgen a gynnyddodd, ac a ddiddyfnwyd, ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac,

9A Sara a welodd fâb Agar yr Aiphtes, yr hwn a ymddugase hi i Abrahā yn gwatwar

10A hi a ddywedodd wrth Abraham, gyrr ymmaith y gaeth forwyn hon ai mâb, o herwydd ni chaiff mâb y gaethes hon gyd etifeddu a’m mab mau fi Isaac.

11A’r peth hyn fû ddrwg iawn gan Abraham er mwyn ei fâb.

12Yna Duw a ddywedodd wrth Abraham na fydded drwg yn dy olwg am y llangc, nac am dy gaeth forwyn, yr hyn oll a ddywedo Sara wrthit, gwrando ar ei llais: o herwydd yn Isaac y gelwir i ti hâd.

13Ac am fâb y forwyn gaeth hefyd gossodaf ef yn genhedlaeth, o herwydd dy hâd ti ydyw ef.

14Yna y cododd Abraham yn foreu, ac a gymmerodd fara, a chostreled o ddwfr, ac ai rhoddes at Agar, gan ossod ar ei hyscwydd hi a’r bachgen hefyd, ac efe ai gollyngodd hi ymmaith, a hi a aeth, ac a grwydrodd yn anialwch Beersebah.

15Pan ddarfu y dwfr yn y gostrel, yna hi a fwriodd y bachgē tan vn o’r gwŷdd.

16A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan yn bell ar gyfer, megis ergyd bŵa, canys dywedase ni allafi edrych ar y bachgen yn marw: felly hi a eisteddodd ar gyfer, ac a dderchafodd ei llef, ac a ŵylodd.

17Yna Duw a wrādawodd ar lais y llangc, ac angel Duw a alwodd ar Agar o’r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, beth i ti, Agar? nac ofna, o herwydd Duw a wrandawodd ar lais y llangc o’r lle y mai efe.

18Cyfot, cymmer y llangc, ac ymafel ynddo a’th law, o blegit myfi ai gossodaf ef yn genhedlaeth fawr.

19Yna Duw a agorodd ei llygaid hi, a hi a ganfu bydew dwfr, a hi aeth ac a lanwodd y gostrel dwfr, ac a ddiododd y llangc.

20Ac yr oedd Duw gyd a’r llangc, ac efe a gynnyddodd, ac a drigodd yn yr anialwch, ac oedd berchen bwa.

21Ac yn anialwch Paran y trigodd efe, ai fam a gymmerodd iddo wraig o wlad yr Aipht.

22Ac yn yr amser hwnnw Abimelec a Phicol tywysog ei lu ef a ymddiddanasāt ag Abraham gan ddywedyd: Duw gyd a thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur.

23Yn awr gan hynny, twng wrthif fi i Dduw, na fyddi anffyddlon i mi, nac i’m mâb, nac i’m hwyr, yn ol y drugaredd yr hon a wneuthum a thi, y gwnei di a minne, ac a’m gwlad yr hon yr ymdeithiaist ynddi.

24Ac Abraham a ddywedodd mi a dyngaf.

25Yna Abraham a geryddodd Abimelec, o achos y pydew dwfr yr hwn a ddygase gweision Abimelec trwy drais.

26Ac Abimelec a ddywedodd, nis gwybum i pwy a wnaeth y peth hyn: tithe hefyd ni fynegaist i mi, a minne ni chlywais hyd heddyw.

27Yna y cymmerodd Abraham ddefaid, a gwarthec, ac ai rhoddes i Abimelec, ac a wnaethant gyngrair ill dau.

28Ac Abraham a osododd saith o hespinod praidd ar y naill du.

29Yna y dywedodd Abimelec wrth Abraham, beth y saith hespin hyn a ossodaist wrthynt eu hunain?

30Ac yntef a ddywedodd, fel y cymmerech di y saith hespin o’m law, i fod yn destiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn.

31Am hynny efe a alwodd henw y lle hwnnw Beer-sebah: o blegit yno y tyngasant ill dau.

32Felly y gwnaethant gyngrair yn Beer-sebah: a chyfododd Abimelec, a Phicol tywysog ei lu ef, ac a ddychwelasāt i dîr y Philistiaid.

33Ac yntef a blannodd goed yn Beer-sebah, ac a alwodd yno ar enw yr Arglwydd Dduw tragywyddol.

34Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help